Paentio Cymru'n Goch! Graffiti o sêr pêl-droed yn ymddangos ar hyd a lled Cymru
1 Mehefin 2022
Mae murluniau graffiti o sêr pêl-droed Cymru wedi ymddangos led led y wlad yr wythnos hon.
Gyda'r tîm cenedlaethol yn paratoi ar gyfer rownd derfynol gemau ail gyfle Cwpan y Byd yn erbyn yr Alban neu'r Wcráin ddydd Sul 5 Mehefin, mae portreadau graffiti o'r chwaraewyr a'r rheolwyr wedi'u creu y tu allan i'w hen ysgolion.
Mae deuddeg portread coch wedi'u paentio i gyd, gan gynnwys un o'r capten Gareth Bale y tu allan i Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd, Aaron Ramsey y tu allan i Ysgol Cwm Rhymni yn y Coed Duon, Joe Allen yn Ysgol y Preseli yng Nghrymych, a'r rheolwr Rob Page, y tu allan i'w hen ysgol sef Ysgol Gymuned Ferndale, yng Nghwm Rhondda.
Mae dau o'r portreadau hefyd wedi'u paentio dros y ffin, y tu allan i Goleg Cymunedol y Brenin Edward VI yn Totnes, Dyfnaint, ac Ysgol Uwchradd South Hunsley yn Hull, sef yr ysgolion y mynychodd Kieffer Moore a Dan James.
Comisiynwyd y portreadau gan S4C, a fydd yn dangos pob un o bedair gêm y tîm yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA ym mis Mehefin, yn ogystal â rownd derfynol y gemau ail-gyfle ar 5 Mehefin.
Ma S4C yn annog cefnogwyr i dynnu eu lluniau gyda'r graffiti, gan ddefnyddio'r hashnod #YLlawrGoch – Y Llawr Coch.
Mae'r bythefnos enfawr o bêl-droed rhyngwladol ar S4C yn cychwyn am 5.00 nos Fercher 1 Mehefin gyda darllediadau o Wlad Pwyl v Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd UEFA.
Bydd S4C yn troi'n goch ar ddydd Sul 5 Mehefin hefyd, wrth i ni ddarlledu Ffeinal Gemau Ail-gyfle Cwpan y Byd, am 4.15yh.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?