Ym mis Ebrill eleni, cynhaliwyd cystadleuaeth Côr Cymru am y degfed tro.
I nodi'r garreg filltir, bydd S4C yn dangos rhaglen arbennig nos Sadwrn (18 Mehefin), Côr Cymru 2003-2022: Y Pencampwyr.
Nod y gystadleuaeth yw cynnal a chodi safonau corawl yng Nghymru, ac ers i'r gystadleuaeth gael ei sefydlu yn 2003 mae'n sicr wedi gwneud hynny.
Ar hyd y blynyddoedd, mae beirniaid talentog a diduedd o bob cwr o'r byd wedi eu dethol i ddewis y gorau o bencampwyr Gwlad y Gân.
Yn Côr Cymru 2003-2022: Y Pencampwyr, bydd tri o'r beirniaid hyn yn dychwelyd i ddewis y gorau o'r deg côr buddugol, a chyflwynir tlws arbennig i'r Pencampwyr.
Meddai Wyn Davies: "Dros yr ugain mlynedd mae'r safon wedi gwella, yn arbennig y corau nad enillodd."
Hefyd ar y panel bydd Zimfira Poloz, a ddywedodd: "Roedd yn benderfyniad anodd iawn gan ei fod yn gystadleuaeth ar lefel wych gyda chymaint o gorau rhagorol."
Nid yr enillwyr yn unig gaiff eu trafod, ond hefyd y corau oedd wedi creu digon o argraff i aros yn y cof.
Bydd y cyfan yn digwydd mewn digwyddiad arbennig lle bydd cynrychiolaeth o'r corau gyda'i gilydd.
Heledd Cynwal fydd yn cyflwyno a bydd clipiau o'r corau dros y blynyddoedd, a chyfle iddynt ymateb i'w perfformiadau hanesyddol.
"Mae'r gystadleuaeth hon yn un o gonglfeini digwyddiadau S4C ac yn un ry'n ni'n falch iawn ohoni," meddai Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C.
"Mae'n llwyfan gwych i gorau Cymru ac mae'n braf gallu dathlu'r garreg filltir nodweddiadol yma a rhoi cyfle i arddangos talentau corawl Cymru ar S4C trwy edrych yn ôl ar berfformiadau anhygoel."
Mae enillwyr y gorffennol yn cynnwys Ysgol Gerdd Ceredigion, Cywair, Côr Heol y March, Serendipity, Côr y Wiber, Côr Merched Sir Gâr a Chôrdydd.
Enillwyr 2003 - Ysgol Gerdd Ceredigion
Enillwyr 2022 - Côrdydd
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?