29 Gorffennaf 2022
Bydd S4C yn darlledu'r holl gyffro'r Eisteddfod Genedlaethol o Dregaron trwy gydol yr wythnos ar S4C, ac ar y chwaraewyr.
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 oed, ac fel cartref profiadau Cymru bydd S4C yn dod â holl fwrlwm gŵyl ddiwylliannol mwyaf Ewrop i wylwyr S4C a hynny ar amryw o lwyfannau gwahanol.
Rhwng Sadwrn 30 Gorffennaf a Sadwrn 6 Awst, bydd S4C yn darlledu'n fyw o'r Eisteddfod bob bore ac yn parhau drwy'r dydd gyda sylw llawn i brif seremonïau'r dydd. Bob nos, bydd Mwy o'r Maes yn dod â blas o'r Eisteddfod gyda'r nos ac yn crynhoi uchafbwyntiau'r dydd.
Bydd y tîm cyflwyno yn cynnwys Eleri Siôn, Tudur Owen, Heledd Cynwal, Mirain Iwerydd, Nia Roberts, Dot Davies a Dylan Ebenezer.
Fe fydd S4C yn cynnig Sedd yn y Pafiliwn i'r rhai sydd ddim yn gallu mynychu'r Eisteddfod yn Nhregaron. Bydd darllediadau byw ac yn ddi-dor o'r llwyfan ar gael ar S4C Clic ac o fewn Categori Cymru ar BBC iPlayer, a bydd is-deitlau Saesneg ar gael.
Meddai Llinos Griffin Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Rydyn ni'n falch iawn o allu ddod â holl hwyl Eisteddfod Ceredigion i'n gwylwyr ar draws ystod eang o lwyfannau. Bydd ein darllediadau cynhwysfawr yn dilyn holl gyffro'r Eisteddfod – o'r seremonïau i'r bwrlwm ar y maes. Bydd pafiliwn S4C hefyd yn llawn gweithgareddau gyda sioeau Cyw a Stwnsh, digwyddiadau arbennig a dangosiad o ddrama newydd S4C yn yr Hydref sef Dal y Mellt."
Ychwanegodd Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, "Os nad ydych chi'n gallu ymuno â ni ar y Maes yn Nhregaron, 'steddwch nôl ac ymlaciwch a mwynhewch yr arlwy arbennig sydd ar S4C drwy gydol yr wythnos. O gystadlu i grwydro'r Maes, fyddwch chi ddim yn colli unrhyw beth o'r ŵyl drwy wylio ar y teledu yr wythnos nesaf."
DIWEDD
Darllediadau Eisteddfod Ceredigion 2022 Rhagflas yr Eisteddfod - Nos Iau 28 Gorffennaf 8.00
Cyngerdd Agoriadol: Lloergan - Nos Wener 29 Gorffennaf, 8.00
Oedfa'r Bore - Dydd Sul 31 Gorffennaf, 11.00
Y Gymanfa Ganu - Dydd Sul 31 Gorffennaf, 7.00
Heno o'r Eisteddfod - Nos Lun, Mawrth ac Iau, Awst 1, 2 a 4 am 7.00
Darllediadau fyw o'r Eisteddfod bob bore ac yn parhau drwy'r dydd gyda sylw llawn i brif seremonïau'r dydd. Bob nos, bydd Mwy o'r Maes yn crynhoi a thrafod uchafbwyntiau'r dydd a rhaglen o uchafbwyntiau o'r Babell Lên. - Sadwrn 30 Gorffennaf a Sadwrn 6 Awst
Sedd yn y Pafiliwn - Darllediadau fyw ac yn ddi-dor o'r llwyfan ar gael ar S4C Clic ac o fewn Categori Cymru ar BBC iPlayer - Sadwrn 30 Gorffennaf i Sadwrn 6 Awst.
Uchafbwyntiau Eisteddfod 2022 - Nos Sul 7 Awst 7.30