12 Awst 2022
Mae S4C wedi cyhoeddi y byddan nhw'n noddi gorymdaith Pride Cymru eleni.
Dyma'r tro cyntaf i S4C noddi'r digwyddiad sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd yn ystod penwythnos gŵyl y Banc fis Awst.
Mae hyn yn nodi dechrau partneriaeth hirdymor rhwng y darlledwr a Pride Cymru, gydag S4C yn ymrwymo i wella cynhwysiant ar y sgrin, ac oddi arno.
Meddai Nia Edwards-Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C:
"Rydyn ni'n gyffrous iawn i gefnogi a bod yn rhan o parêd Pride Cymru eleni.
"Bydd bod yn rhan o'r digwyddiad, a gwahodd pobl sy'n gwneud ein cynnwys i orymdeithio gyda ni, yn dangos ein hymrwymiad i gerdded law yn llaw â'r gymuned LHDTC+.
"Mae hefyd yn ddechrau ar bartneriaeth newydd gyffrous gyda Pride Cymru, a fydd yn ein harwain wrth i ni geisio sicrhau bod y gymuned LHDTC+ yn cael eu cynrychioli'n well."
Dyma fydd y tro cyntaf ers 2019 i Pride Cymru gael ei gynnal yn fyw ac mewn person yn y ddinas, pan gymerodd tua 15,000 o bobl ran yn yr orymdaith fywiog a lliwgar.
Dywedodd Gian Molinu, Cadeirydd Pride Cymru:
"Mae'r orymdaith yn un o'n huchafbwyntiau bob blwyddyn. Rydyn ni wrth ein bodd i gael S4C yn rhan ohono fel noddwr y parêd.
"Mae eu hymrwymiad i sicrhau cynrychiolaeth yn eu cynnwys a datblygu talent ar draws gwahanol gymunedau yng Nghymru yn ysbrydoliaeth."
"Mae ymrwymiad cyhoeddus S4C i ni fel elusen ac i'r gymuned LHDTC+ ehangach yn amhrisiadwy.
"Mae eu cyfraniad yn dangos fod Pride yn bwysig, ac y dylid dathlu amrywiaeth o fewn cymdeithas."
Mae cefnogwyr LHDTC+ wedi bod yn gorymdeithio trwy strydoedd Caerdydd ers 1985, ac wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd.
Bellach mae'n un o uchafbwyntiau penwythnos Pride Cymru ers 2012 gan sicrhau ei le fel un o ddigwyddiadau mwyaf lliwgar Caerdydd.
Yn ystod Pride Cymru, bydd gweithwyr S4C yn ymuno â'r orymdaith a chefnogi'r digwyddiad.
"Fe fyddwn ni yna drwy gydol dathliadau'r penwythnos," ychwanegodd Nia Edwards-Behi.
"Gall unrhyw un sy'n rhan o ddathliadau'r penwythnos ymweld â ni ar stondin S4C.
"Byddwn yno i wrando ar eich syniadau ar sut y gallwn gynrychioli'r gymuned yn well ar draws ein gwahanol blatfformau yn y dyfodol, yn ogystal â darganfod sut y gallwn gefnogi ac annog ein ffrindiau LHDTC+ i ffynnu o fewn y sector darlledu."
I gael gwybod mwy am ymrwymiad S4C i fynd ati i gefnogi ac annog y sector i adlewyrchu Cymru yn ei gyfanrwydd, mae Adlewyrchu Cymru – Strategaeth Amrywiaeth, Cynhwysiant a Chydraddoldeb S4C ar gyfer 2022-2027 ar gael ar wefan S4C.
Bydd Pride Cymru yn cael ei gynnal ar 27-28 Awst, a'r parêd ymlaen am 11.00yb ar ddydd Sadwrn 27 Awst.