S4C yn recriwtio am Arweinydd Strategaeth y Gymraeg
12 Awst 2022
Mae S4C wedi cyhoeddi ei bod yn recriwtio am aelod newydd er mwyn gwireddu gwaith y sianel yn y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Bydd y swydd hon yn cyfrannu at weledigaeth S4C o'r Gymraeg yn perthyn i bawb ac yn cefnogi siaradwyr newydd gan hefyd berchnogi a thyfu rhai o frandiau S4C i bobl sy'n dysgu Cymraeg. Bydd yn gyfle gweithio gyda phartneriaid a mynd â chynnwys S4C at gynulleidfaoedd newydd yn ogystal â chydweithio gyda'r sector cynhyrchu.
Dyma gyfle gwych i lywio'r cyfeiriad, pecynnu ein cynnwys ac i weithio gyda phartneriaid gan sicrhau bod S4C yn darparu cynnwys deniadol a phwrpasol i siaradwyr Cymraeg newydd ar amrywiol lwyfannau.
Meddai Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C:
"Mae S4C yn gwbl ymroddedig i gefnogi siaradwyr newydd a gweithio tuag at y nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y swydd hon yn gyswllt gweithgar gyda chymunedau sy'n dysgu Cymraeg ar draws Cymru er mwyn cyflwyno S4C fel adnodd a chartref i'r rhai sydd am ddysgu neu ddatblygu eu defnydd o'r iaith."
Mae'r dyddiad cau ar 1 Medi 2022.
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?