20 Medi 2022
Wrth i Gymru baratoi ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd 2021, bydd S4C yn darlledu pob un o'r gemau yn fyw yn ystod y gystadleuaeth.
Bydd Ioan Cunningham a charfan Cymru yn teithio i Seland Newydd ym mis Hydref, lle byddan nhw'n wynebu Seland Newydd, Awstralia a'r Alban yng Ngrŵp A.
Gyda phob gêm yn cael ei chwarae yn ystod oriau mân y bore yng Nghymru, bydd S4C yn dangos darllediadau byw ar-lein o bob gêm ar S4C Clic a thudalen YouTube S4C.
A bydd cyfle arall i wylio pob gêm yn ei chyfanrwydd ddiwedd y prynhawn ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer, yn ogystal â'r holl ymateb a dadansoddi.
Bydd Heledd Anna yn cyflwyno'r rhaglenni ar S4C, yng nghwmni sawl chwaraewr rhyngwladol Cymru fydd yno i ddadansoddi bob gêm.
Bydd Cymru'n dechrau eu hymgyrch yn Whangarei ddydd Sul 9 Hydref yn erbyn yr Alban, gyda'r gêm yn dechrau am 5.45yb nôl adref.
Ar ddydd Sul 16 Hydref, bydd y Cymry yn herio Pencampwyr y Byd presennol, Seland Newyd, yn Auckland, gyda'r gic gyntaf am 3.15yb ein hamser ni.
Bydd gêm grŵp olaf Cymru yn cael ei chynnal yn Whangarei ddydd Sadwrn 22 Hydref, yn erbyn Awstralia, gyda'r gic gyntaf am 2.15yb yng Nghymru.
Bydd y ddau dîm gorau o'r tri grŵp rhagbrofol yn symud ymlaen i'r rownd y chwarteri ynghyd â'r ddau dîm yn y trydydd safle sydd â'r fwyaf o bwyntiau. Pe bai Cymru'n symud y tu hwnt i'w grŵp, bydd S4C yn parhau i ddarlledu pob gêm yn fyw.
Meddai Siwan Lillicrap, Capten Cymru: "Rydym yn hapus iawn bod S4C am ddilyn ein taith yn Seland Newydd yn fyw ac hefyd gydag ail-ddangosiadau ar deledu pan fydd timoedd menywod gartref yn paratoi ar gyfer gemau eu hunain yng nghlybiau Cymru.
"Rydyn ni'n hynod o falch i gynrychioli Cymru dros yr wythnosau nesaf ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i dyfu y gefnogaeth rydym wedi mwynhau ers Chwe Gwlad Menywod TikTok yn gynharach eleni."
Meddai Heledd Anna: "Mae hwn yn gyfnod hynod o gyffrous i'r tîm cenedlaethol ac mae Cwpan Rygbi'r Byd yn gyfle enfawr i'r tîm dangos bod ganddynt y gallu i wneud y cam nesaf a chystadlu gyda goreuon y byd.
"Maen nhw mewn grŵp anodd, heb os, ond maen nhw wedi paratoi yn dda iawn a rydym yn gobeithio y byddan nhw'n barod am yr her fydd yn ei wynebu.
"Byddwn ni'n dilyn carfan Cymru yn agos iawn ar S4C, gyda chyfweliadau a chynnwys ar sianelau @S4CRygbi cyn bob gêm, yn ogystal a'n darpariaeth estynedig ar ddiwrnod y gêm, felly ymunwch â ni am y daith gyfan."
Cwpan Rygbi'r Byd 2021 ar S4C
Dydd Sul 9 Hydref – Cymru v Yr Alban – CG 5.45yb (amser DU)
Dydd Sul 16 Hydref – Cymru v Seland Newydd – CG 3.15yb (amser DU)
Dydd Sadwrn 22 Hydref – Awstralia v Cymru – CG 2.15yb (amser DU)
Fe gaiff pob gêm ei dangos ar-lein ar S4C Clic a sianel YouTube S4C.
A bydd cyfle arall i wylio pob gêm yn hwyrach yn y dydd ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.