27 Medi 2022
Wedi cyfnod hanesyddol yng ngwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig, bydd cyfres wleidyddol 'Y Byd yn ei Le' yn dychwelyd ar ei newydd wedd yr wythnos hon ar S4C.
Wedi ei chynhyrchu gan ITV Cymru ar gyfer S4C, Catrin Haf Jones fydd yn cyflwyno'r gyfres newydd yn fyw o stiwdio ITV Cymru ym mae Caerdydd.
Bydd panel o westeion amrywiol yn ymuno i drafod pynciau mawr yr wythnos yn ogystal â'r Athro Richard Wyn Jones o Brifysgol Caerdydd fydd yn rhoi ei ddadansoddiad ar wleidyddiaeth Cymru a'r Byd.
Gyda Phrif Weinidog newydd yn San Steffan a thymor newydd ar droed yn Senedd Cymru mae digon i drafod.
O'r argyfwng costau byw i'r heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd bydd y gyfres yn ceisio dehongli a dadansoddi rhai o'r materion hynny sydd yn siapo bywydau pobl ar draws Cymru.
Bydd yna gyfle i brocio rhai o'r gwleidyddion etholedig a deall mwy am rai o'u penderfyniadau a'u dadleuon.
Bydd y gyfres yn cael ei darlledu ar sianel S4C yn fyw am 9 o'r gloch ar nos Iau ond bydd modd dilyn y sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol, ar S4C Clic ac ar ffurf podcast.
Yn ohebydd gwleidyddol gyda BBC Cymru, mae Catrin Haf Jones yn edrych ymlaen at yr her newydd:
"Mewn cyfnod mor ddifyr a dyrys yng ngwleidyddiaeth Cymru a'r byd, rwy'n edrych ymlaen at gael y cyfle i drin a thrafod y pynciau hynny sy'n cael effaith dyddiol ar fywydau ein gwylwyr.
"Wrth i ni wynebu argyfwng costau byw a Gaeaf anodd, mae'n bwysicach nag erioed bod gwleidyddion yn barod i fod yn atebol ac i gael eu herio."
Dywedodd Branwen Thomas, Golygydd Rhaglenni Cymraeg ITV Cymru Wales: "Yn holwraig graff a di-ofn, ry ni'n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda Catrin Haf Jones ar y gyfres newydd.
"Mae'n holl bwysig i ni yn ITV Cymru Wales ein bod yn gallu cwestiynu a dadansoddi materion cyfoes ein hoes mewn cyfres fel hyn, a pharhau i neud hynny yn Gymraeg i S4C."
Dywedodd Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C Sharen Griffith: "Da'n ni'n falch iawn o gomisiynu cyfres newydd o Y Byd yn ei Le ar ei newydd wedd.
"Mae Y Byd yn ei Le yn rhan annatod o amserlen S4C sy'n dod â'r wybodaeth ddiweddaraf o'r byd gwleidyddol i'n gwylwyr yn ogystal â chraffu a thrafod pynciau amserol a phwysig."
Bydd Y Byd yn ei Le yn cael ei lansio mewn digwyddiad arbennig yn ITV Cymru nos Fawrth 27 Medi ac yn dychwelyd i'r sgrin am 21:00 ar nos Iau y 29ain o Fedi ar S4C.