2 Tachwedd 2022
Mae S4C wedi cadarnhau bod y cyflwynydd teledu a radio, Jason Mohammad, wedi ymuno a'r gwasanaeth fel un o Wynebau'r Sianel.
I gyd-fynd â'i rôl newydd, mae'r darlledwr wedi cadarnhau tri chomisiwn sy'n serennu Jason yn ystod yr oriau brig.
Mae Jason a Max ar y Ffordd i Qatar yn raglen arbennig awr o hyd sy'n dilyn tad a mab, Jason a Max, wrth iddyn nhw fynd ar daith epig i ymuno â'r Wal Goch i gefnogi Cymru yn y Dwyrain Canol.
Nid dim ond edrych ar ddau gefnogwr yn dilyn eu tîm cenedlaethol yw'r ddogfen hon, ond ar y berthynas cryf rhwng tad a mab.
Yn ogystal â'r uchafbwyntiau a chyfnodau caled o ddilyn tîm pêl-droed cenedlaethol, bydd Jason, sydd yn Fwslim, yn ymweld â rhai o leoliadau sy'n bwysig i hanes a threftadaeth Qatar gyda Max.
Copa90 Studios sydd yn cynhyrchu'r rhaglen, cwmni cynhyrchu adloniant chwaraeon arbenigol a lansiwyd yn 2022. Iwan England, Pennaeth Ddi-sgript sydd yn comisiynu ar ran S4C.
Mae Pen/Campwyr yn rhaglen cwis chwaraeon 8x30 (cyfres 7x30 a rhaglen Nadolig arbennig), ble mae gwybodaeth yn hollbwysig, wrth i dri chystadleuwr ateb cwestiynau gan geisio ennill mantais mewn cyfres o gemau rhithiol yn erbyn tri arwr chwaraeon o Gymru.
Gyda Jason Mohammad yn cyflwyno, dyma'r unig raglen ar deledu sydd yn defnyddio technoleg ddigidol i roi'r cystadleuwyr yng nghanol y gêm.
Bydd cystadleuwyr yn ateb cwestiynau 50/50 i geisio hawlio mantais yn erbyn y tri gwrthwynebwr o fyd y campau. Yn ceisio eu hatal bydd llu o enwau mawr, gan gynnwys y pêl-droediwr Natasha Harding, cyn chwaraewr rygbi Cymru a'r Llewod, James Hook, a'r anturiaethwr a'r rhedwr marathon ultra, Huw Jack Brassington.
Nimble Productions, cwmni cynhyrchu sy'n arbenigo yn y maes chwaraeon ac adloniant, sydd yn cynhyrchu'r gyfres, gyda Dylan Wyn Davies yn Uwch Gynhyrchydd.
Rhys Padarn fydd yn cynhyrchu a chyfarwyddo'r gyfres. Elen Rhys, Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol, sydd yn comisiynu'r gyfres ar ran S4C.
Mae Jason Mohammad: Stadiymau'r Byd yn gyfres ddogfen 3x60 munud sydd yn edrych ar rai o feysydd chwaraeon mwyaf o gwmpas y byd.
Mae'r gyfres yn mynd â'r gwyliwr o Tsieina i Fecsico, Iwerddon i Croatia, Siapan i Norwy drwy Gymru a Lloegr, ar draws tair pennod awr o hyd.
Mae'r gyfres yn cychwyn drwy edrych ar bensaernïaeth a thechnoleg gyda Jason yn mynd ar daith arbennig yn hel atgofion ym Mharc Ninian, safle hen Stadiwm CPD Caerdydd a'r man yr oedd o, fel bachgen bach ym 1984, yn fasgot mewn gêm.
Ym mhennod dau, mae Jason yn myfyrio ar chwe stadiwm ledled y byd, pob un yn symbol o hunaniaeth ranbarthol a chenedlaethol.
Yn y bennod olaf, 'Match Day', mae Jason yn dechrau yn stadiwm CPD Wrecsam, sydd bellach â lle cadarn ar y map ar ôl cael ei brynu gan ddau o sêr Hollywood, cyn mynd ymlaen i Ddinas Mecsico i Stadiwm Azteca, yr unig stadiwm sydd wedi cynnal dau rownd derfynol Cwpan y Byd, gan gynnwys lleoliad yr enwog 'Hand of God'.
Mae Jason Mohammad: Stadiymau'r Byd yn gyd-gynhyrchiad rhyngwladol, wedi ei hariannu ar y cyd gan S4C, TG4 o Iwerddon, LIC o Tsieina a JTV o Corea, gyda Cwmni Da yn cynhyrchu y fersiynau Rhyngwladol a Chymraeg. Cynhyrchydd y Gyfres yw Huw Maredudd. Y Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr yw Euros Wyn a'r Uwch-Gynhyrchydd yw Llion Iwan. Comisiynwyd y gyfres i S4C gan Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbennig.
Dywedodd Jason Mohammad: "Mae S4C wastad wedi chwarae rhan enfawr yn fy mywyd darlledu.
"Rwy'n rhannu eu hangerdd dwfn dros ein hiaith a'n diwylliant, ac edrychaf ymlaen at rannu hynny â gwylwyr a chefnogwyr o bob cwr o'r byd trwy fod yn un o Wynebau'r Sianel.
"Rwy'n gyffrous eu bod wedi rhoi tri phrosiect chwaraeon gwych i mi ac rwy'n edrych ymlaen at rannu rhai o'r profiadau hyn gyda fy mab ar daith bythgofiadwy.
"Rydw i wedi gweithio mewn dau Gwpan y Byd yn y gorffennol - ond dyma fydd y gorau - gan ei fod yn daith bersonol iawn i'r Dwyrain Canol i wylio pêl-droed a profi golygfeydd a synau Qatar."
Dywedodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llinos Griffin-Williams: "Rydym yn falch iawn o gael Jason ymlaen fel un o Wynebau S4C.
"Mae ei angerdd a'i egni yn adlewyrchu uchelgeisiau a gwerthoedd S4C.
"Mae'n wyneb cyfarwydd i filiynau o wylwyr ar draws y DU ac mae ei acen a'i lais nodedig o Gaerdydd yn adnabyddus i gynulleidfa radio ddyddiol.
"Mae'n cael ei adnabod fel un o'r prif ffigyrau ym myd darlledu chwaraeon a bydd ei bresenoldeb yn dod â llu o brofiadau ac arbenigedd i'n harlwy.
"Mi fydd yn arwain ar dri cynhyrchiad i ddechrau, pob un yn ymwneud mewn rhyw ffordd â chwaraeon, ac edrychwn ymlaen at gydweithio ymhellach yn y blynyddoedd i ddod."