Mae brand poblogaidd plant S4C, Cyw yn barod i ddiddanu plant Wcrain, gyda fersiwn newydd o Cyw a'i Ffrindiau mewn Wcraneg sef Коко Ta Друзі tb a fydd yn lansio ar Sunflower TV.
Cwmni Boom Cymru sy'n cynhyrchu Cyw a bu'r cwmni yn gweithio gyda phlant sydd wedi ffoi o Wcrain gyda'u teuluoedd a sydd bellach wedi ymgartrefu yng Nghymru, gan roi cyfle i rai o'r plant leisio'r rhaglenni.
Mae Sunflower TV yn sianel YouTube ddielw a grëwyd yn benodol ar gyfer plant Wcrain.
Gyda hyd at 200 awr o gynnwys Wcreinaidd a Phrydeinig, mae Sunflower TV yn cynnig adloniant a seibiant i blant ffoaduriaid Wcráin sydd wedi cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi.
Dau o'r plant wnaeth gymryd rhan yn y prosiect oedd Sophia Bondarenko ac Ivan Maslianka, fu'n byw gyda'i teuluoedd yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog a sydd nawr wedi ymgartrefu yn y gymuned leol.
Meddai Sophia: "Roedd cael y cyfle i leisio'r cartŵn am y tro cyntaf yn gyffrous iawn.
"Dwi wrth fy modd gyda'r cymeriadau cyfeillgar a charedig."
Ychwanegodd Ivan: "Roedd yn brofiad diddorol iawn a ddim yn rhy anodd o gwbl. Fe wnes i fwynhau yn fawr."
Cynhyrchydd y gyfres yw Kateryna Gorodnycha sydd hefyd yn un o ffoaduriaid Wcrain.
Meddai Kateryna: "Rwy'n ddiolchgar iawn am y profiad bythgofiadwy yma, roeddwn i a'r teuluoedd yn falch o gael ymgymryd a'r gwaith.
"Mae'r plant nid yn unig wedi ennill profiad, wedi cael llawer o hwyl ond hefyd tynnu eu sylw i ffwrdd am ychydig o'r sefyllfa echrydus yn Wcrain.
"Mae mor bwysig i ni ddod i adnabod Cymru, i ddod i adnabod eich diwylliant, ac mae'n wych ein bod ni'n dechrau gwneud hynny gyda chartwnau i'r rhai bach."
Nôl ym mis Mawrth fe lansiodd S4C ymgyrch Cymru ac Wcrain gan drefnu cyngerdd arbennig er mwyn cefnogi apêl DEC Cymru a lwyddodd i godi dros 10 miliwn i bobl Wcrain.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?