Mae S4C a Llywodraeth Cymru heddiw wedi lansio ap newydd o'r enw Cwis Bob Dydd. Bydd yr ap yn cynnwys 10 cwestiwn bob dydd ac yn rhedeg am gyfnod o 12 wythnos, gyda'r cyfle i ennill gwobrau gwych bob wythnos.
Bydd Wicipedia Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu adnoddau ar gyfer creu cwestiynau a bydd tymor cyntaf yr ap yn cael ei noddi gan Y Ganolfan Ddysgu Cymraeg.
Mae fersiwn Basgeg o'r ap eisoes wedi profi yn llwyddiant mawr gyda degau o filoedd o chwaraewyr dyddiol ar ôl tair mlynedd.
Rhan annatod o'r hyn sy'n gwneud Cwis Bob Dydd mor unigryw o'i gymharu ag unrhyw ap cwis trivia arall yw bod pob gêm yn hollol wahanol i'r un nesaf. Bydd y cwestiynau yn cwmpasu cymysgedd ddeinamig o bynciau, gan gynnwys cwestiynau cwis traddodiadol, ychydig o trivia a rhai cwestiynau am ddiwylliant Cymru.
Meddai Rhodri ap Dyfrig, Arweinydd Trawsnewid Cynnwys Digidol S4C:
"Dwi'n falch iawn o lansio ap Cwis Bob Dydd heddiw ac yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am gyd-ariannu. Bydd yr ap yma yn gyfle i ddenu siaradwyr newydd a chreu sŵn positif o amgylch yr iaith gan gynyddu defnydd dyddiol o'r iaith gyda thechnoleg arloesol. Gobeithio gallwn ddysgu o lwyddiant yr ap yn y Basgeg a chreu yr un cynnwrf yma yng Nghymru."
Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
"Ry'n ni am annog pawb i ddefnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd ganddyn nhw bob dydd. Mae Cwis Bob Dydd yn gyfle hwyl i ddefnyddio mwy o Gymraeg pob dydd, rwy'n falch o gefnogi ac yn annog pobl i gymryd rhan."