Mae S4C wedi llwyddo i gipio gwobr yng Ngwobrau Broadcast 2023 a gynhaliwyd yn Llundain neithiwr (nos Fercher 8 Chwefror).
Enillodd Drych: Fi, Rhyw ac Anabledd (Wildflame) gwobr yng nghategori Rhaglen Gorau Aml-sianel.
Yn y rhaglen ddogfen hon mae Rhys Bowler, dyn 34 mlwydd oed o Drefforest, sy'n byw gyda Duchenne Muscular Dystrophy, anhwylder genetig sy'n achosi dirywiad cynyddol i'r cyhyrau, yn trafod pwnc sy'n hollbwysig iddo. Mae Rhys yn teimlo bod angen trafodaeth fwy agored am anabledd a rhyw.
Yn ogystal ag ennill gwobr, cafodd S4C enwebiad arall yn y categori Rhaglen Gorau Aml-sianel am Ysgol Ni: Y Moelwyn (Darlun) yn erbyn sioeau anferth fel Love Island.
Hefyd cafodd Efaciwîs (Wildflame) enwebiad yn y categori Rhaglen Plant Gorau.
Meddai Llinos Griffin Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C:
"Rydym yn falch iawn bod rhaglenni S4C wedi cael cydnabyddiaeth yn y gwobrau Broadcast, ac wedi dod i'r brig mewn categori mor gystadleuol.
"Mae'r gwobrau Broadcast yn dathlu'r gorau o blith sianeli a chynnwys teledu Prydain - felly'r ffaith bod S4C wedi ennill gwobr – yn dangos ein bod ein cynnwys ni o safon uchel sy'n gallu cystadlu gyda'r gorau yn y byd darlledu.
"Llongyfarchiadau mawr i Wildflame a Darlun a'r holl dimau talentog sydd wedi gweithio'n ddiwyd ar y rhaglenni yma."
DIWEDD
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?