27 Mawrth 2023
Gyda 1 o bob 4 o boblogaeth Cymru dros eu pwysau, mae cymryd gofal o'n iechyd mor bwysig ag erioed. Ac ar ddechrau Ebrill, mi fydd y gyfres FFIT Cymru yn dychwelyd i rannu syniadau positif ac ysbrydoledig gyda'r genedl.
Dros gyfnod o ddau fis, mi fydd pum arweinydd o bob cwr o Gymru yn ceisio trawsnewid eu hiechyd drwy ddilyn cynlluniau arbennig gan y pedwar arbenigwr, yr Hyfforddwraig Bersonol Rae Carpenter, y Seicolegydd Dr Ioan Rees, y Dietegydd Beca Lyne-Pirkis ac yn newydd eleni, yr Ysgogwr Connagh Howard.
Gan gychwyn nos Fawrth 4 Ebrill ar S4C gyda Lisa Gwilym yn cyflwyno, bydd yr arbenigwyr yn rhannu cyngor ac yn gweithio'n agos gyda'r arweinwyr ar sut i gadw'n ffit, sut i ofalu am les ac iechyd meddwl ac yn cynghori ar sut i weithredu arferion bwyta da.
Y pump arweinydd ar gyfer y gyfres eleni yw:
Andrea Davies-Tuthill, Nyrs 52 oed o Ferthyr Tydfil, Dylan Parry, Gweinidog 34 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, Kelly O'Donnell, 41 oed o Fethel ger Caernarfon sy'n Gymhorthydd ar gyfnod mamolaeth, Linette Gwilym Gweithiwr Cymdeithasol 33 oed o Lanrug a Mathew Rees, Cigydd 45 oed o Gaerfyrddin.
Bydd FFIT Cymru yma i gynnig cysur i bawb ac mi fydd hi'n bosib i CHI gymryd rhan adref hefyd trwy ddilyn y cynlluniau bwyd a ffitrwydd arbennig ar-lein ar wefan FFIT Cymru, www.s4c.cymru/ffitcymru, ac ar gyfryngau cymdeithasol @ffitcymru, yn rhad ac am ddim unrhyw dro.
Meddai Siwan Haf, Cynhyrchydd y gyfres: "Mae FFIT Cymru yn gyfres all helpu pobl i gadw'n iach - yn gorfforol ac yn feddyliol. Dyma blatfform aml-gyfrwng unigryw all gynnig arweiniad a help llaw ymarferol.
"Rydan ni eisoes wedi gweld yr effaith a'r trawsnewid anhygoel mae FFIT Cymru wedi ei gael ar fywydau arweinwyr ein cyfresi blaenorol, ac rydan ni'n edrych ymlaen at ddod i nabod a dilyn taith ein pum arweinydd a fydd yn derbyn cyngor bob cam o'r daith unigryw hon gan ein pedwar arbenigwr - fydd yn siŵr o ysbrydoli'r gwylwyr adref hefyd."
Mi fydd Conagh Howard yn ymuno â'r tîm o arbenigwyr eleni a hynny fel Ysgogwr, ac yn edrych ymlaen at yr her:
"Dw i methu aros i ddechrau ac yn edrych mlaen at weld y daith mae'r arweinwyr yn mynd arno.
"Mae pawb sydd ar y panel yn dod â sgil unigryw a dwi'n gobeithio dod â rhywbeth ychydig bach yn wahanol i'r gyfres, rhyw fath o deimlad o fod yn rhan o dîm, a phwysigrwydd hynny a'r effaith mae'n gallu cael.
"Mae ffitrwydd yn rhywbeth sydd wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd i erioed ac mae cael y cyfle i helpu pobl eraill efo hynny yn brofiad mor cŵl a dwi jest yn rili falch i allu helpu pobl.
"Dw i ddim yn mynd i fod yn rhy galed arnyn nhw – ond wrth gwrs dwi'n mynd i eu gwthio nhw achos weithiau dydy pobl ddim yn sylweddoli beth maen nhw'n gallu gwneud. Falle fydd o'n anodd os nad ydi rhywun yn agored i'r holl broses ond mae rhai o'r arweinwyr yma wedi trio lot o bethau yn y gorffennol sydd ddim wedi gweithio iddyn nhw, felly dwi eisiau dangos iddyn nhw beth sy'n bosib.
"I'r gwylwyr adref sydd eisiau gwella eu ffitrwydd, fyswn i'n dweud y peth gorau ydi dechrau'n araf a pheidio trio gwneud gormod yn rhy gyflym. Os ydych chi jest yn gwneud newidiadau bach, fel mynd am dro am ugain munud y dydd, a dechrau torri pethau bach o'r diet sydd ddim mor dda i chi, ar ôl amser, mae'n dechrau gwneud gwahaniaeth.
"Dw i'n trio gwneud rhywbeth corfforol bob dydd, fel mynd am dro, nofio neu fynd i'r gampfa – mae mor bwysig symud y corff ac mae'n dda i'r iechyd meddwl hefyd.
Nodiadau i Olygyddion:
Gwybodaeth am yr Arweinwyr
Andrea Davies-Tuthill, 52 oed o Ferthyr Tydfil
Mae Andrea yn briod â Gwynne ac yn fam i ddwy o ferched, Carys (21) a Cerian (19), yn llys-fam i Jenna ac yn berchen â 4 o gŵn. Mae'n nyrs mewn theatr llawdriniaeth ac mae ganddi ail swydd fel Uwch Gapten yn y Fyddin Wrth Gefn, ac wedi bod allan yn Afganistan fel rhan o'i gwaith. Yn ddiweddar, mae Andrea wedi gorffen triniaeth am gancr y fron ac yn awyddus i gael ei iechyd a'i chryfder yn ôl gan nad ydi'n gallu gwneud ymarfer corff fel yr oedd hi'n arfer ei wneud.
Dylan Parry, 34 oed o Ben-y-Bont ar Ogwr
Daw Dylan o Gaernarfon yn wreiddiol, ond symudodd i Dde Cymru yn 2021. Mae'n Weinidog Gofalaeth Glannau Ogwr, sef dwy Eglwys – Tabernacl, Pen-y-Bont ar Ogwr, a Tabernacl Porthcawl. Yn aelod o gôr CF1, mae o'n disgrifio'i hun fel person bubbly sy'n hoff o dynnu coes (ei hun yn fwy na dim!) a rhoi gwên ar wynebau pobl.
Kelly O'Donnell, 41 oed o Fethel, ger Caernarfon
Mae Kelly yn fam i bedwar o fechgyn: tri gyda'i chyn-ŵr, Rory, a fu farw pedair mlynedd yn ôl – Callum (20), Codey (15), Riley (13) – a babi, Eban (9 mis), gyda'i chyn bartner. Mae'n Uwch Gymhorthydd ar gyfnod mamolaeth ac roedd hi'n dysgu dawnsio i'r grŵp 'Angylion Kelly' am 24 mlynedd. Mae'n agos iawn i'w dwy chwaer a'i rhieni sydd hefyd yn byw yn y pentref. Fel mam brysur, mae'n gweld hi'n anodd i ffeindio'r amser i gadw'n actif, fel yr oedd hi arfer bod.
Linette Gwilym, 33 oed o Lanrug
Mae Linette a'i gŵr Iolo yn byw yn Llanrug gyda'i meibion Gruff (9), Owain (7) ac Ifan (4). Mae hi'n Weithiwr Cymdeithasol ac yn rhedeg busnes ei hun. Mae Linette a'i theulu wedi cael 18 mis anodd iawn wrth i Ifan fynd drwy driniaeth am gancr ar ei arenau. Gan fod hynny bellach drosodd, mae Linette yn awyddus i droi ei sylw at wella iechyd hi ei hun a Iolo. Gan wybod hefyd mai dim ond un aren sydd gan Ifan, mae hi eisiau bod yn y cyflwr gorau posib petai rhaid iddi hi neu ei gŵr roi aren iddo. Mae'n ystyried ei hun yn berson positif iawn, ond sydd wedi colli hyder.
Matthew Rees, 45 oed o Gaerfyrddin
Mae Matthew a'i wraig Lydia yn byw yng Nghaerfyrddin. Mae'n dad i ddau o blant gyda'i-gyn bartner – Hanna (11) a Tomos (9) – ac mae gan Lydia ddau o blant gyda'i chyn-bartner hi – Deio (8) a Iago (6). Mae'n gweithio fel Cigydd i'r busnes teuluol ac yn hyfforddi rygbi dan 9 Nantgaredig a phêl-droed dan 9 a dan 6 Sêr Caerfyrddin. Nid yw'n teimlo ddigon ffit i wneud y gwaith hyfforddi o gymharu â'r hyfforddwyr eraill ar ôl rhoi pwysau ymlaen yn y chwe mlynedd ddiwethaf. Cafodd sepsis 4 mlynedd yn ôl, a chlot ar yr ysgyfaint o ganlyniad i Covid-19.
FFIT Cymru
Nos Fawrth 4 Ebrill 9.00, S4C
Isdeitlau Saesneg
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C