18 Ebrill 2023
Y cogydd Chris 'Flamebaster' Roberts, y bardd a llenor Caryl Bryn, a'r sylwebydd pêl-droed Owain Tudur Jones yw'r selebs newydd sy'n barod i ymgymryd â Her Tyfu Garddio a Mwy eleni, yn dilyn llwyddiant y sialens ar gyfryngau cymdeithasol Garddio a Mwy y llynedd.
Elin Fflur, Mari Lovgreen a Kiri Pritchard McLean fu'n rhoi tro ar dyfu tatws, tomatos a dail salad fel rhan o'r her y llynedd, sydd i'w gwylio ar gyfrifon cymdeithasol Garddio a Mwy.
Y tro yma, bydd Chris, Caryl ac Owain yn cael y cyfle i dyfu llysiau eu hunain gydag ychydig o help gan dîm Garddio a Mwy.
Ar y fwydlen eleni mae tatws, mefus, tomatos a dail salad. Ydy'r tri seleb yn barod am yr her? Dyma beth oedd ganddyn nhw i'w ddweud cyn mentro rhoi eu dwylo yn y pridd...
"Mae'r silffoedd yn wag yn yr archfarchnadoedd so waeth i fi dyfu bwyd fy hun!" meddai'r cogydd o Gaernarfon, Chris Roberts.
"Dw i wedi tyfu herbs a ballu o'r blaen ond dim llawer – dw i erioed wedi cael plot digon mawr i dyfu dim byd arall.
"Dw i'n edrych ymlaen at gael y plant yn involved a phlannu rhywbeth a chael y wobr o fwyta nhw wedyn. Mae bwyta rhywbeth ti 'di tyfu dy hun yn sbesial iawn. Pan o'n i'n tyfu fyny roedd mam yn tyfu llysiau ei hun – maen nhw'n blasu ganwaith gwell na be ti'n prynu yn y siopau.
"Dw i wastad wedi trio cefnogi siopau lleol, yn enwedig yn ystod y pandemig. Yn ystod y lockdown cynta', roedd pobl yn defnyddio'r siopau lleol ond maen nhw wedi anghofio amdanyn nhw rŵan ac wedi mynd nôl i'r archfarchnadoedd. Mae angen ail-gysylltu efo nhw.
"Mae'r Her Tyfu yn beth da, a dw i'n gobeithio y bydd o'n ysbrydoli pobl eraill sydd fatha fi a ddim yn hands on efo garddio ond yn licio bwyta bwyd da a chael y plant i helpu. Mae'r ffaith bo ni'n cofnodi'r broses yn cŵl - mi fyddan ni'n ffilmio rhyw saith neu wyth fideo i bobl gael gweld sut mae pethau'n dod. Dw i'n edrych mlaen at hynna. Dw i jest yn gobeithio bo fi ddim am ladd nhw!"
Nionod coch ydy rhai o hoff lysiau Caryl Bryn sy'n byw yn Llanberis, ond garddwr hollol ddibrofiad ydy hi hefyd.
"Dw i'n gobeithio bydda'i yn gallu tyfu wbath fedra'i ei ddefnyddio'n aml a wbath dw i'n ei hoffi. Nionod coch 'sa'n dda. Dw i'n parshal am frechdan gaws a nionyn coch.
"Dw i'n meddwl bod o mor cŵl bod pobl yn gallu mynd i'w ardd gefn i nôl cynhwysion. Dw i'n un o'r rhain sy'n picio i'r siop bron iawn bob dydd felly sŵn i wrth fy mod gallu jest nol nionyn o'r ardd gefn yn fy slipars.
"Dw i'n cofio trio tyfu blodau pan o'n i'n blentyn ond 'mond mater o wasgaru ychydig o hadau'n yr ardd gefn a gobeithio am y gora' o'dd hynny. Dw i'm 'di mentro ers hynny.
"Ma' cael y cyfle i neud hyn mor bwysig i mi oherwydd o'n i'n meddwl bod angen tŷ gwydr a gymaint o bethau penodol i allu gwneud - os na'i lwyddo i neud hyn, mi fedr unrhyw un. Dw i'n edrych ymlaen i drio curo OTJ [Owain Tudur Jones] hefyd!"
Profiad hollol newydd ydy tyfu llysiau i Owain Tudur Jones hefyd.
"Dw i erioed wedi tyfu dim byd o'r blaen – mae hyn yn hollol newydd i fi. Dw i'n licio'r syniad o arddio ond dw i erioed wedi blaenoriaethu hynny. Mae digon o ardd acw, a dw i'n joio cael bach o amser yn torri'r gwair ond dw i erioed wedi mynd ati i dyfu dim.
"Mae o'n rywbeth cyffrous ac mi ddylwn i fod wedi gwneud o blaen. Mae'n debyg ei fod yn rhywbeth ddylwn ni gyd wneud.
"Yn ôl be dw i'n ddallt dydy o ddim y peth mwyaf cymhleth a does dim angen gardd enfawr. Jest cymryd y camau cyntaf, dyna be sy'n bwysig ac os ydy hyn yn ysbrydoli fi, wel, gorau oll.
"Elin Fflur a Mari Lovgreen oedd wedi gwneud yr her llynedd...Alla'i ddim bod dim gwaeth - cyhyd a bod fy nhomatos i yn edrych dipyn gwell na rhai nhw fydda'i yn hapus!"
Mae Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd fel mae'n cael ei adnabod, wedi ymuno fel cyflwynydd y gyfres Garddio a Mwy eleni. Mae'n gobeithio y bydd yr her yn ysbrydoli'r gwylwyr hefyd.
"Mae Her Tyfu Garddio a Mwy yn ôl unwaith eto eleni, a ni'n gobeithio byddwch chi'n ymuno gyda ni i dyfu eich cynnyrch eich hunain am y tro cyntaf. Cadwch lygaid barcud ar gyfrifon cymdeithasol Garddio a Mwy am fwy o wybodaeth!"