Am y tro cyntaf erioed, mi fydd penodau'r gyfres newydd LEGO® DREAMZzz ar gael i'w gwylio yn Gymraeg, a hynny ar S4C.
Mae'r stori yn dilyn y ffrindiau ysgol Mateo, Izzie, Cooper, Logan a Zoey wrth iddyn nhw deithio i Fyd o Freuddwydion i drechu'r Hunllefgawr.
Mae'r thema mentrus yma gan y Grŵp LEGO® wedi'i ysbrydoli gan y ffordd mae plant yn breuddwydio, ar ôl i ymchwil ddangos fod dau draean o blant ar draws y byd yn dweud fod breuddwydio yn eu helpu nhw i fod yn fwy creadigol.
Mi fydd y cyntaf o ddeg pennod LEGO® DREAMZzz yn cael eu rhyddhau yn fyd eang ar Mai 15, gan gynnwys ar S4C. Ac mi fydd y penodau sydd i ddilyn i'w gweld ar S4C Stwnsh ar brynhawniau Llun am 5.35.
Dywedodd Sioned Geraint, Comisiynydd Plant ac Addysg S4C:
"Rwy'n hynod o gyffrous bod S4C yn gallu darlledu cyfres newydd sbon LEGO® trwy gyfrwng y Gymraeg a chael bod yn rhan o ddiwrnod lawnsio byd eang y gyfres ar Fai 15fed.
"Dyma'r tro cyntaf erioed i ni fod yn rhan o gynllun fel hyn, a dwi wrth fy modd y bydd ein gwylwyr ifanc yn gallu cyffroi wrth weld y cymeriadau LEGO® newydd ar yr un diwrnod a ffans eraill ar draws y byd."
Dywedodd Barry 'Archie' Jones, Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr y gyfres gyda Cwmni Da:
"Mae hi wedi bod yn fraint i Cwmni Da ddod a brand mor eiconig â LEGO® yn fyw yn y Gymraeg a gobeithio bydd plant Cymru yn cael gymaint o fwynhad o wylio anturiaethau Matteo, Izzie a'r criw ac y cawsom ni yn eu creu."
Dewch i ymuno â'r Byd o Freuddwydion a theyrnas yn llawn rhyfeddodau, yn ogystal ag ambell hunllef, a dilyn hanesion y criw wrth iddynt archwilio'r byd newydd.
LEGO® DREAMZzz
Prynhawniau Llun, 5.35, S4C
Isdeitlau Saesneg ar gael
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a platfformau eraill
Cynhyrchaid Cwmni Da i S4C
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?