26 Mehefin 2023
Mae S4C wedi arwyddo cytundeb masnachol gyda Ryan Reynolds. Bydd S4C yn darparu 6 awr yr wythnos o gynnwys Cymraeg wedi ei ddewis gan Ryan Reynolds ar gyfer sianel Maximum Effort, fydd yn cael ei ffrydio yn wythnosol ar 'Welsh Wednesdays'.
Mae sianel Maximum Effort yn bartneriaeth rhwng platfform ffrydio Fubo ac Maximum Effort, cynhyrchwyr y ffilmiau Deadpool a chyfres Welcome to Wrexham.
Mae'r sianel ar gael i'w gwylio yn yr Unol Daleithiau a bydd y cytundeb yn creu incwm fydd yn cael ei fuddsoddi yn y sector creadigol yma yng Nghymru.
Bydd S4C yn cyflenwi rhaglenni wythnosol i sianel Maximum Effort gan gynnwys dramâu, rhaglenni dogfen a fformatau adloniant fel rhan o'r bartneriaeth hirdymor.
Y rhaglenni sy'n lansio Welsh Wednesdays fydd y gyfres ddrama lwyddiannus Bang (JOIO/ARTISTS STUDIO), Pen Petrol (RONDO), Y Wal Goch (AFANTI), Wrecsam Clwb Ni (WILDFLAME), Y Fets (BOOM) a Gareth Bale: Byw y Freuddwyd (BARN MEDIA).
Dywedodd Ryan Reynolds, cyd-sylfaenydd Maximum Effort:
"Mae llawer wedi dweud fod yna ddiffyg mawr o raglenni o Gymru ar gael i'w gwylio yn America. Mae'r diffyg yma am ddod i ben heddiw. Wel, ar ddyddiau Mercher mewn gwirionedd.
"Rydym mor ddiolchgar i S4C am helpu i ddod â rhaglenni Cymraeg i gynulleidfa ehangach. Ac i'r gynulleidfa ehangach honno, peidiwch â phoeni, maen nhw wedi dweud wrtha i y bydd na is-deitlau."
Bydd Welsh Wednesdays yn dechrau ar sianel Maximum Effort ddydd Mercher 28 Mehefin.
Dywedodd Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C:
"Mae Ryan Reynolds yn Gymro mabwysiedig a does dim modd amau ei ymrwymiad, ei barch, a'i ddealltwriaeth o Wrecsam a Chymru.
"Ryan, tîm Maximum Effort a ni sydd wedi dewis y sioeau cyffrous ar gyfer cynulleidfa fyd-eang, ac mae Ryan yn deall pwysigrwydd diwylliant Cymru a'r iaith ac wedi syrthio mewn cariad â'r wlad a'i phobl.
"Mae gan Gymru boblogaeth o ychydig dros dair miliwn, ond mae Ryan yn gallu cyrraedd degau o filiynau o bobl ar ei ffrydiau cyfryngau cymdeithasol yn unig.
"Mae'n rhoi cyfle i ni ddangos diwylliant, iaith a thalent Cymru ar y llwyfan rhyngwladol bob dydd Mercher.
"Bydd y cytundeb masnachol hwn yn mynd â chynnwys Cymraeg i Hollywood a'r byd. Bydd o fudd i'r sector greadigol gyfan a'r talent sydd gennym ni yma yng Nghymru. Byddwn ni'n dangos popeth o ddramâu S4C i fformatau adloniant, rhaglenni dogfen a chwaraeon.
"Deugain mlynedd yn ôl, ymgyrchodd pobl yn frwd i sefydlu S4C fel sianel Gymraeg - nawr byddwn yn gallu ffrydio rhaglenni Cymraeg i filiynau o bobl yr ochr arall i'r byd."
Medd John Whittingdale, y Gweinidog dros y Cyfryngau yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig:
"Dyw diddordeb rhyngwladol yn niwylliant, iaith a thalent Cymraeg erioed wedi bod mor uchel. Diolch i'r bartneriaeth hon, a gyda help Ryan Ryenolds, mae'n wych clywed y bydd miliynau o bobl ar draws yr UDA yn gallu profi'r rhaglenni gwych sydd gan S4C i'w cynnig."
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn Llywodraeth Cymru:
"Mae'r cytundeb hwn yn newyddion gwych i Gymru. Mae'n dangos cryfder sector creadigol Cymru a'r diddordeb rhyngwladol sydd i'r cynnwys rydyn ni'n ei greu yma. Bydd hwn yn hwb mawr i S4C, ein cwmniau cynhyrchu a'r sector yn ei gyfanrwydd. Bydd yn mynd a'r iaith Gymraeg i gynulleidfaoedd newydd ar draws y byd.
"Mae'r diwydiannau creadigol yn chwarae rol enfawr o fewn yr economi Gymreig a bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda S4C drwy Cymru Greadigol er mwyn sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleon sydd yn bodoli yn fyd-eang."