Bydd pob gêm Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Ffrainc yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C.
Sarra Elgan, Jason Mohammad a Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno'r darllediadau o'r twrnament.
Y sylwebydd Gareth Charles fydd yn dod â holl gynnwrf y gemau i'r gwylwyr adre ac yn ymuno ag ef bydd y dadansoddwyr arbenigol Mike Phillips, Gwyn Jones, Siwan Lillicrap, Rhys Priestland, Dyddgu Hywel, Robin McBryde a Rhys Patchell.
Mae Cymru wedi eu rhoi yng ngrŵp C yn erbyn Fiji, Portiwgal, Awstralia a Georgia.
Bydd darllediadau S4C yn dechrau gyda'r gêm agoriadol rhwng Ffrainc a Seland Newydd.
Byddwn yn dilyn tîm Warren Gatland drwy gydol Cwpan y Byd, ac yn dangos rownd yr wyth olaf, y rownd gynderfynol, y trydydd safle a'r rownd derfynol yn fyw o'r Stade de France ym Mharis.
Bydd darllediadau S4C yn cynnwys rhaglenni rhagflas gyda Sarra Elgan, a bydd Sarra hefyd yn ymuno â Jonathan Davies a Nigel Owens i drafod tim Cymru yn eu ffordd llawn hiwmor arferol ar Jonathan.
Gallwch glywed y diweddaraf am garfan Cymru gyda vodcast Allez Les Rouges sy'n cael ei gyflwyno gan Lauren Jenkins.
Bydd penodau wythnosol o'r vodcast yn y cyfnod yn arwain at yr ymgyrch, ac yn ystod Cwpan y Byd, ar sianel YouTube S4C a BBC Sounds.
Bydd Newyddion S4C hefyd yn dod â'r diweddaraf am ymgyrch Cymru yn Ffrainc drwy gydol Cwpan Rygbi'r Byd.
Gallwch weld uchafbwyntiau tair gêm Cymru yng Nghyfres yr Haf hefyd ar S4C, yn dilyn darlledu'r gemau byw ar Prime Video.
Dywedodd cyn-fewnwr Cymru a'r Llewod, Mike Phillips:
"Fi'n gyffrous achos ma crop o chwaraewyr newydd wedi dod mewn i'r garfan nawr, ma'n nhw yn ifanc ac ma'n teimlo fel 2011 gyda bois ifanc yn dod trwodd adeg yna.
"Gobeithio byddwn ni yn cael yr enwau newydd yn dod trwodd nawr, 'na beth ni moyn gweld.
"Maen nhw wedi cael amser da yn paratoi a dwi yn edrych mlaen i weld Cymru yng Nghwpan y Byd."
Yn ymuno â Mike ar dîm S4C ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd mae Rhys Priestland sydd wedi ennill dros 50 o gapiau dros Gymru:
"Mae timau gorau'r byd yn maeddu ei gilydd yn eitha' aml, ac mae bod mas yn Ffrainc yn le arbennig i wylio rygbi, fi'n credu bydd y twrnament yn arbennig.
"Mae'r grŵp am fod yn anodd i ddod mas ohono fe, ond os eith Cymru mas o'r grŵp, ma'r pedwar tîm gorau yr ochr arall y bencampwriaeth.
"Mae siawns da iddyn nhw fynd i'r semis, neu'r holl ffordd."
Gallwch wylio holl gemau Cymru o Gwpan Rygbi'r Byd ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.