23 Awst 2023
Bydd S4C yn darlledu rhaglen uchafbwyntiau o Ŵyl y Dyn Gwyrdd am y tro cyntaf erioed.
Mae S4C dros yr haf wedi dod â rhaglenni byw o Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen, Y Sioe Fawr, Tafwyl a'r Eisteddfod Genedlaethol, a bydd y rhaglen hon yn glo teilwng at arlwy digwyddiadau yr haf ar S4C.
Yn cyflwyno'r rhaglen arbennig hon fydd y cyflwynydd radio a theledu Huw Stephens a brenhines reggae Cymru a'r cyflwynydd Aleighcia Scott.
Meddai Huw:
"Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn agos iawn at fy nghalon; dwi wedi bod i bob un ers yr ail un erioed.
"Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn fyd-enwog, oherwydd y ffaith ei fod yn ŵyl fawr annibynnol, sy'n beth prin, ac oherwydd safon yr artistiaid byd-eang sy'n chwarae bob blwyddyn."
Bydd modd gweld perfformiadau gan fandiau Rogue Jones, First Aid Kit, Melin Melyn, Self Esteem a llawer iawn mwy.
Bydd y cyflwynydd Ceri Siggins hefyd yn dod â blas o ddigwyddiadau rhai o gorneli mwyaf anghyffredin yr ŵyl i ni gan gynnwys cyfraniadau gan y comediwyr Esyllt Sears a Mel Owen.
"Fy hoff beth am yr ŵyl ydi darganfod llwyth o fandiau newydd," ychwanega Huw, "Rydyn ni'n gobeithio fydd y rhaglen yma yn dod â blas o'r ŵyl i bawb sy'n gwylio, ac y byddan nhw'n clywed rhywbeth newydd gwych, o headliners fel Self Esteem i bobl newydd dydyn ni ddim wedi clywed am eto!"
Medd Aleighcia Scott:
"Mae fy mhrofiad o Ŵyl y Dyn Gwyrdd wedi bod yn anhygoel. Dwi wedi caru popeth amdano – o gymryd rhan ar y llwyfan, i gyflwyno wrth ochr Huw – yn Gymraeg – pa mor wyllt yw hynny? I feddwl fy mod i wedi bod yn dysgu Cymraeg mewn ychydig dros flwyddyn ac yna yn cyflwyno gyda chyflwynydd profiadol yn yr iaith, mae'n chwythu fy 'mhen i fod yn onest!
"Un o fy uchafbwyntiau i oedd cael gweld Obongjayar yn perfformio. Mae'n fy ysbrydoli i a dwi mor falch o fod wedi gallu cyflwyno ei steil o gerddoriaeth i gynulleidfa Gymreig. Dyma rhywbeth arall dwi'n ei garu am yr ŵyl – mae'n dod â thalent newydd i gynulleidfa newydd a bydd y rhaglen uchafbwyntiau yn adlewyrchu hyn."
Pererindod flynyddol sydd yn gorffen yr ŵyl yw'r ddefod o losgi'r dyn gwyrdd. Pob blwyddyn mae thema wahanol ynghylch y ddefod a'r ysbrydoliaeth eleni yw'r enw Bannau Brycheiniog.
Ymunwch â Huw ac Aleighcia o'r Bannau felly i gael yr holl uchafbwyntiau o'r ŵyl hynod hon.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd 2023 - 26 Awst 20:30
Cynhyrchiad On-Par ar gyfer S4C