28 Medi 2023
Mae S4C Digital Media Cyf wedi penodi Laura Franses yn Gynghorydd i'r Gronfa Tŵf Masnachol.
Bydd y gronfa, sy'n lansio ym mis Hydref ac sy'n rhan o strategaeth fasnachol S4C, yn darparu cyllid yn gyfnewid am ecwiti i gwmnïau Cymreig sydd â photensial i dyfu ac sy'n cyd-fynd ag amcanion S4C.
Mae hyn yn cynnig arian buddsoddi i roi hwb mawr i fusnesau creadigol Cymreig.
Mae Laura yn un o'r buddsoddwyr a'r strategwyr masnachol mwyaf blaenllaw yn y sector teledu a digidol, gyda phrofiad eang o rolau gweithredol yn Channel 4, ITV, Nutopia Ltd, a Zodiak. Daw hi o ITV, lle bu'n gweithio ar lansiad platfform digidol ITVX.
Laura fu'n gyfrifol am sefydlu a rhedeg y Channel Four Growth Fund a oedd yn gyfrifol am 13 o fuddsoddiadau – yn eu mysg 7 cwmni a werthwyd gan gynnwys Eleven Films (cynhyrchwyr Sex Education), Whisper Films (cynhyrchwyr chwaraeon a werthwyd i Sony), True North (a werthwyd i Sky) a Voltage (gwerthwyd i BBC Studios).
Meddai Laura:
"Dwi wrth fy modd yn ymuno ag S4C fel Cynghorydd i roi hwb i'r Gronfa Tŵf Masnachol newydd.
"Mae'r sector yng Nghymru yn llwyddo yn rhyngwladol, ac rwy'n edrych ymlaen i adeiladu ar hynny.
"Mae S4C yn cyflwyno rhaglenni Cymraeg i gynulleidfa fyd-eang wrth gydweithio gyda Ryan Reynolds a sianel Maximum Effort i lansio Welsh Wednesdays yn yr UDA, cyd-gynhyrchu drama Channel 4 The Light in the Hall, a gwerthu'r ddrama Gymraeg Dal y Mellt / Rough Cut i Netflix."
Bydd Laura'n gweithio ochr yn ochr â'r Tîm Masnachol, y Prif Swyddog Cyllid Sharon Winogorski, y Prif Swyddog Gweithredu Elin Morris, y Prif Swyddog Cynnwys Llinos Griffin-Williams a Phrif Weithredwr S4C Sian Doyle.
Meddai Sian Doyle:
"Mae penodiadLaura yn hwb gwych i S4C a'r Gronfa Tŵf Masnachol.
"Mae hi'n unigolyn talentog, creadigol sydd â phrofiad eang fydd yn sicrhau ein bod yn manteisio orau ar yr hyn gall y gronfa ei gynnig.
"Rydym ni yn S4C yn wedi ymrwymo i fuddsoddi yng Nghymru a thalent ein gwlad."Bydd y gronfa'n lansio'n swyddogoldros y misoedd nesaf,ac fe fyddmanylion llawnycyfleoedd mae'n ei gynnig a sut i ymgeisioyn cael eu cyhoeddi.
Am fwy o wybodaeth am y Gronfa Tŵf Masnachol ac i wneud ymholiad am y posibilrwydd o gydweithio cysylltwch â laura.franses@s4c.cymru.