Mae Cronfa Cynnwys Masnachol gyntaf S4C Rhyngwladol yn weithredol o heddiw ymlaen (dydd Mawrth, 10 Hydref) ac yn chwilio am brosiectau a phartneriaid yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
Cafodd y gronfa ei sefydlu i gefnogi prosiectau sy'n uchelgeisiol ac yn apelio at gynulleidfaoedd rhyngwladol.
Y nod yw rhannu diwylliant unigryw Cymru a'i gallu i adrodd straeon gyda'r byd wrth roi hwb enfawr i'r sector creadigol yng Nghymru.
Bydd y Gronfa Cynnwys Masnachol yn buddsoddi arian i ddatblygu a chynhyrchu, a'n gobaith ydy y bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i raddfa ac, yn ei dro, gwerthiant rhyngwladol y sioe.
Dywedodd Claire Urquhart, Pennaeth newydd y Gronfa:
"Efallai na wnaethoch chi erioed ystyried anfon rhai syniadau at S4C o'r blaen oherwydd bod y dalent, y raddfa, neu'r arddull weledol yn eu gwthio y tu hwnt i'r gyllideb safonol. Rydym yn anelu'n uchel gyda'r gronfa newydd hon. A allwn ddod o hyd i fformat a fydd ag apêl fyd-eang? Enwogion sydd â chynlluniau mawr yng Nghymru? Sbin-off yn arddull Lord of the Rings yn yr iaith Gymraeg? Efallai bod yna ymchwil wyddonol sy'n torri tir newydd, neu ymchwiliad ar y gweill a fydd yn berthnasol yn fyd-eang."
Bydd y Gronfa Fasnachol hefyd yn buddsoddi mewn cynnwys ac eiddo deallusol a allai ymestyn i farchnadoedd eraill megis gemau cyfrifiadurol a llwyfannau FAST.
Rydym wrthi'n chwilio am brosiectau neu bartneriaethau gyda chynhyrchwyr, dosbarthwyr a llwyfannau cynnwys ledled y byd.
Mae rhagor o wybodaeth am y gronfa ar y wefan a manylion ar sut i wneud cais.