S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sioe Nadolig Cyw ar daith o amgylch Cymru

19 Hydref 2023

Bydd Sioe Nadolig Cyw ar daith o amgylch Cymru yn ystod mis Rhagfyr.

Fe fydd Cyw a'r criw yn cynnal perfformiadau o'r sioe yng Nghaerdydd, Drefach Llanelli, Caernarfon, Y Drenewydd a Wrecsam.

Yn ymuno â Cyw ar y daith Nadolig bydd Elin, Griff, Cati a Dafydd, cyflwynwyr Cyw.

Hefyd yn cymryd rhan bydd y môr leidr Ben Dant, Bledd y ddraig ddireidus o'r gyfres Dreigiau Cadi, a Siôn Corn!

Dyma'r tro cyntaf i Sioe Nadolig Cyw fynd ar daith ers sawl blwyddyn, ac mae'r criw yn edrych ymlaen i gael cwrdd â phawb unwaith eto.

Dywedodd Cyflwynwyr Cyw:

"Mae cyffro'r Nadolig wedi cydio ac mae'r criw yn edrych ymlaen am ymweliad Sion Corn i Orsaf Byd Cyw. Ond na, does dim sôn am Siôn Corn! Gyda help Ben Dant a Bledd mae cyflwynwyr Cyw yn mynd i helpu eu ffrind arbennig.

"Gwnewch yn siŵr eich bod chi yn archebu eich tocynnau ar gyfer y daith".

Dywedodd Ben Dant:

"Bendibwmbwls, dwi methu aros i gael mynd gyda Cyw ar y daith Nadolig.

"Dwi wrth fy modd yn cael y cyfle i gyfarfod â plant Cymru wrth i ni ddiddanu pawb gyda'r Sioe.

"Gobeithio y gwela'i chi yno – Nadolig Llawen iawn i chi gyd. Ahoi!"

Ar gyfer bob lleoliad heblaw am Wrecsam mae modd archebu tocynnau drwy gysylltu â Galeri Caernarfon ar www.galericaernarfon.com neu ffoniwch 01286 685222.

Er mwyn archebu tocynnau ar gyfer Sioe Cyw yn Wrecsam ewch i williamastonwrexham.com/cy/event/cyw

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?