S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Côr Ifor Bach yn ennill Côr Cymru 2024

12 Mai 2024

Côr Ifor Bach yw enillwyr cystadleuaeth gorawl fawreddog S4C Côr Cymru 2024.

Daeth y côr o fyfyrwyr Coleg y Drindod Dewi Sant i'r brig yn y rownd derfynol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a gafodd ei darlledu'n fyw ar S4C nos Sul 12 Mai.

Roedd y pump côr wnaeth ennill eu categorïau yn y rownd gyntaf yn cystadlu am dlws Côr Cymru a gwobr o £4000.

Y pump oedd Ysgol Gerdd Ceredigion (enillwyr categori y Côr Plant), Bechgyn Bro Taf (enillwyr Côr Lleisiau Unfath), Côr Glanaethwy (enillwyr Corau Cymysg), Côr Ieuenctid Môn (enillwyr y Corau Sioe) a Chôr Ifor Bach (enillwyr y Corau Ieuenctid).

Fe gyflwynodd pob côr rhaglen amrywiol o ganeuon, gan greu cryn argraff ar y beirniaid rhyngwladol.

Ar y panel beirniadu eleni roedd yr arweinydd o Gymru Grant Llewellyn, y cawr corawl o Swydd Efrog Greg Beardsell, a'r arweinydd byd enwog o Singapore Dr Darius Lim.

Mae holl raglenni cystadleuaeth Côr Cymru 2024, sy'n cael eu cyflwyno gan Heledd Cynwal a Morgan Jones, ar gael i'w gwylio eto ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Dywedodd Eilir Owen Griffiths arweinydd Côr Ifor Bach:

"Mae gwneud y gystadleuaeth yma wedi bod yn un o'r pethau yna sy'n gwthio'r côr. Mae'r côr yma dim ond gyda fi ers mis Hydref, a megis dechrau gobeithio ydi hwn i ni, oherwydd maen nhw wedi gweithio mor mor galed."

Beirniad answyddogol y gystadleuaeth oedd y soprano enwog Elin Manahan Thomas. Meddai:

"Fel rheol buasai beirniad yn dweud mod i wedi synnu gydag ansawdd y corau sydd wedi bod yn cystadlu, ond y gwir amdani yw nad ydw i wedi synnu o gwbl.

"Mae'r corau i gyd wedi bod yn wefreiddiol a dylai Cymru gyfa fod yn falch o'r trysor corawl sydd yn parhau gyda ni yng Nghymru.

"Llongyfarchiadau enfawr i Gôr Ifor Bach – mae hi wedi bod yn bleser gwrando arnyn' nhw yn ein swyno."

Dywedodd Hefin Owen, ar ran Rondo Media, cynhyrchydd y gyfres ar gyfer S4C:

"Llongyfarchiadau i Gôr Ifor Bach ar ennill tlws Côr Cymru 2024. Cafwyd noson ragorol yn y rownd derfynol ac roedd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn berwi gyda chynnwrf y cystadlu. Mae'n braf dweud bod y safon eleni mor uchel ag erioed.

"Un o amcanion y gystadleuaeth yw rhoi cyfle i gorau Cymreig gymryd rhan mewn cystadleuaeth o safon ryngwladol gydag arbenigwyr o bob cwr o'r byd yn cael eu gwahodd i feirniadu. A thrwy hynny, gallwn ddangos i'r byd cystal yw'r canu corawl yma yng Nghymru."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?