S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yw cartref cystadleuaeth newydd Super Rygbi Cymru

08 Awst 2024

Bydd S4C yn darlledu cystadleuaeth newydd Super Rygbi Cymru yn ogystal â gemau Farsiti 2025 a Rygbi WSC (Cynghrair yr Ysgolion a'r Colegau) yn fyw yn ddigidol ar Facebook a YouTube S4C Chwaraeon a S4C Clic ar nosweithiau Iau yn ystod y tymor.

Yn ogystal â'r gemau byw, bydd rhaglen uchafbwyntiau i'w gweld ar S4C ar nosweithiau Mawrth.

Bydd dwy gêm yn ail wythnos y tymor i nodi cychwyn Rygbi WSC.

Bydd Clwb Rygbi hefyd yn darlledu gemau byw Cwpan Her Ewrop a'r Bencampwriaeth Rygbi Unedig. Bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol yn dangos gemau Cymru yng nghystadlaethau'r Chwe Gwlad a'r Chwe Gwlad dan 20.

Ym mis Mai eleni, cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru mai Super Rygbi Cymru fydd prif gystadleuaeth y clybiau rygbi. Bydd 10 clwb trwyddedig yn symud o'r gêm gymunedol i'r haen broffesiynol a bydd y gystadleuaeth yn cychwyn ar Medi 12.

Meddai Graham Davies, Pennaeth Chwaraeon S4C:

"Rydym yn falch iawn i ddangos y gystadleuaeth newydd a chyffrous, Super Rygbi Cymru, ar S4C y tymor hwn, yn ogystal â pharhau i ddangos y gystadleuaeth ysgolion a cholegau; rydym yn gwybod pa mor bwysig mae'r cystadlaethau hyn wedi bod a bydd yn parhau i fod i'n cynulleidfaoedd.

"Nos Iau fydd y noson ar gyfer gemau byw ar draws y ddwy gystadleuaeth y tymor yma - ffordd wych o ddechrau ein penwythnos o chwaraeon."

Whisper Cymru fydd yn cynhyrchu gemau cystadleuaeth Super Rygbi Cymru a Chynghrair yr Ysgolion a'r Colegau ar gyfer S4C.

Meddai Carys Owens, Rheolwr Gyfarwyddwr Whisper Cymru:

"Mae criw rygbi Whisper Cymru yn edrych ymlaen yn arw at y tymor i ddechrau.

"Mae rygbi yng Nghymru yn rhan holl bwysig o'n hunaniaeth a'n diwylliant, felly mae'r cytundeb hwn yn arbennig iawn ac mae angen trysori ymroddiad S4C ac Undeb Rygbi Cymru i ddarlledu rygbi byw yn wythnosol.

"Mae'r rhaglen uchafbwyntiau yn rhaglen newydd cyffrous lle byddwn yn bwrw golwg ar holl gystadlaethau domestig rygbi yng Nghymru - rhywle i'r cefnogwyr i allu ddilyn canlyniadau, straeon ac ystadegau o dan faner Clwb Rygbi S4C."

Meddai John Alder, Pennaeth Datblygu Chwaraewyr Undeb Rygbi Cymru:

"Mae Super Rygbi Cymru a Rygbi WSC yn gystadlaethau hollbwysig yng ngyrfaoedd chwaraewyr Cymru ac i deulu'r gystadleuaeth; nid yn unig ar gyfer datblygu chwaraewyr proffesiynol uchelgeisiol y dyfodol ond ar gyfer y clybiau, yr ysgolion a'r colegau, eu cefnogwyr, a'r gynulleidfa rygbi yn ehangach.

"Mae Rygbi WSC yn dychwelyd am ei ail dymor yn y fformat presennol i fechgyn a fformat newydd sydd wedi'i ehangu i ferched, mae Super Rygbi Cymru yn fenter newydd sbon gyda 10 Clwb uchelgeisiol yn cychwyn mewn cystadleuaeth newydd, ac mae Farsiti yn dathlu popeth sy'n wych am rygbi'r prifysgolion yng Nghymru.

"Oherwydd hyn, rydym yn falch iawn o gael S4C a Whisper yn bartneriaid i ddangos y cystadlaethau hyn, eu chwaraewyr, a'u timau trwy gydol y tymor sydd i ddod. Trwy ddarllediadau byw ac uchafbwyntiau, bydd hyn sicr yn ennyn diddordeb, cynnwrf a chyffro i bawb."

Bydd Super Rygbi Cymru yn cychwyn ar 12 Medi am 19:30 gyda gêm rhwng Pont-y-pŵl a Llanymddyfri, pencampwyr llynedd.

Bydd gêm gyntaf Rygbi WSC rhwng Glantaf a Choleg y Cymoedd am 17:30 ar 19 Medi, yna bydd Caerdydd yn wynebu Glynebwy am 19:30.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?