14 Ionawr 2025
Mae cyfres garu realiti newydd S4C, Amour & Mynydd, eisoes wedi cynnig gwledd o fflyrtio, drama a dagrau hyd yma.
Â'r gyfres wedi cyrraedd hanner ffordd, mae'r dyfroedd yn cael eu cynhyrfu yn rhaglen yr wythnos yma wrth i ddau unigolyn sengl arall ymuno â'r criw'r chalet yn yr Alpau Ffrengig.Nicola, Swyddog Canolfan Alwadau o Lanrwst sy'n 30 oed a Sion, sy'n 29 ac yn Rheolwr Bwyty a Thafarn o Flaenau Ffestiniog yw'r ddau aelod newydd fydd yn cyrraedd fel sypreis i boethi pethau ar 15 Ionawr.
Bydd y ddau yn ymuno â'r wyth sy'n cydfyw yn y chalet am gyfnod o ddeg diwrnod, gyda'r bwriad o ddod o hyd i gariad. O dan adain y cyflwynwyd Elin Fflur a Gwil Thomas, sy'n gofalu am y chalet, byddan nhw'n cael y cyfle i gefnogi'i gilydd drwy amryw o brofiadau bythgofiadwy. Yn ogystal â dod o hyd i gariad, y gobaith yw y byddan nhw'n darganfod mwy amdanynt eu hunain ar hyd y ffordd.
Mae Nicola, sy'n byw ar ei phen ei hun yn Llanrwst yn disgrifio'i hun yn "thirty ac yn flirty", wedi cael ei siâr o ddêts cyntaf:
"Dwi wedi bod ar 51 first dates" meddai Nicola. "Dwi'n cadw list efo enwau pawb, ac mae gan bawb nicknames hefyd. Genon ni Sion Cataract, Andy Fflint (achos mae Andy'n dod o Fflint), Dan Rope – achos o'dd Dan Rope eisiau clymu fi fyny…
"Dwi ishio cyfarfod dyn doniol, annwyl, hefo sense of humour da, achos dwi'n licio banter."
Mae gan Sion, sy'n byw ym Mlaenau Ffestiniog "hanes ddêtio reit dda" ond mae chydig o ddirgelwch i'w hanes.
"Mae o wedi bod am y profiad, y laff a'r chat ti'n gael. Ond dwi 'di neud petha' questionable achos dwi 'di bod yn meddwl efo petha' eraill yn hytrach na 'mhen!
"Sw'n i'n licio cyfarfod rhywun sy'n neud fi chwerthin a rhywun sydd ddim yn ofn trio pethau newydd; sialens newydd."
Mae fodcast newydd ôl-sioe, Après: Amour & Mynydd yn dilyn pob rhaglen ar sianel YouTube S4C, S4C Clic a BBC iPlayer, lle mae'r ddeuawd ddoniol a 'super-ffans' o'r gyfres, Mari Beard a Meilir Rhys Williams, yn trin a thrafod y diweddaraf o amour yr Alpau.
Bob wythnos, bydd y ddau, sy'n adnabyddus am eu podcast hwyliog 'Cwîns' yn cael cwmni gwesteion arbennig i hel clecs, dadansoddi a rhannu sylwadau am y bennod. Yn ymuno â nhw'r wythnos yma fydd y gomediwraig Caryl Burke.
Mae bob pennod o'r gyfres hyd yma – a'r holl fodcasts ôl-sioe ar gael ei gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.