17 Mawrth 2025
Yn dilyn blwyddyn gyntaf anhygoel, mae Little Wander, S4C a Comedy Lab Cymru Channel 4 (oedd yn arfer cael ei alw yn Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi) yn ôl! Mae'r tri sefydliad yn parhau â'u partneriaeth er mwyn cyflawni'r cynllun ar gyfer egin awduron-berfformwyr comedi Cymreig (ac sydd wedi eu lleoli yng Nghymru), gan ddatblygu cyfleoedd datblygu gyrfa ac agor y drws i gomisiynau creadigol yn y dyfodol.
Mae'r artistiaid sydd wedi cael eu dewis wedi eu paru â mentoriaid i weithio ar ddarnau comedi i'w harddangos i gomisiynwyr Channel 4 ac S4C yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth yn 2025 gyda'r bwriad o ddatblygu'r gwaith hwn yn brosiectau teledu yn y dyfodol.
Mae'r rhaglen yn rhoi amser datblygu gyda thâl i'r artistiaid, mentoriaeth broffesiynol, dosbarthiadau meistr am y diwydiant a chyfleoedd i ehangu eu gwybodaeth a'u profiadau o'r diwydiant comedi.
"Roedd fy nghyfnod ar Raglen Datblygu Artistiaid Little Wander wedi rhoi mynediad i mi at gyfleoedd hynod werthfawr yn gynnar yn fy ngyrfa. Fe wnes i ddysgu llawer am y diwydiant trwy weithdai, meithrin cysylltiadau cyffrous trwy fy mentor, a gwthio fy hun i ysgrifennu a pherfformio sioe ddwyieithog awr o hyd yn Aberystwyth. Rwy'n argymell y rhaglen ar gyfer unrhyw gomics Cymreig uchelgeisiol"
– Laurie Watts, Cyfranogwr ar Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi S4C yn 2024
"Fel person newydd sbon i'r byd hwn, fe wnes i ganfod bod y Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi Little Wander yn gyfle anhygoel i ddysgu gan weithwyr proffesiynol, arbrofi gyda syniadau a rhoi cynnig ar rywbeth newydd. Ac roedd gallu arddangos fy ngwaith yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth yn frawychus ac yn nerfus ond, yn bwysicaf oll, yn llwyth o hwyl"
-Iestyn Jones, Cyfranogwr ar Rhaglen Datblygu Artistiaid Comedi S4C yn 2024
Mae 6 artist wedi cael eu dewis ar gyfer y rhaglen. Bydd hanner ohonynt yn gweithio'n bennaf yn Gymraeg gan arddangos ar gyfer S4C, a bydd hanner ohonynt yn gweithio'n Saesneg yn bennaf gan arddangos ar gyfer Channel 4. Caiff yr artistiaid gyfle i weithio yn y ddwy iaith drwy gydol y rhaglen.
17 Mawrth 2025
Dyma'r artistiaid a ddewiswyd ar gyfer ochr S4C o'r rhaglen:
Mae Harri Dobbs yn gomedïwr dwyieithog o Gaerffili. Pan nad yw'n camddehongli hanes Cymru na chwaith yn cynnal podlediadau, mae'n arwain cynulleidfaoedd ledled Cymru drwy gêm antur ddwyieithog lle mae pob dewis yn anghywir. Mae wedi ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, y radio a ffilm er nad yw'n gallu sillafu camdehongly.
"Galla' i ddim aros i wneud fy ngwaith yn rhywbeth go iawn drwy'r rhaglen hon. Rydw i wedi bod yn chwarae o gwmpas ers amser maith ac yn barod i fod yn debycach i'r comediwyr rwy'n eu edmygu cymaint."
Mae Fflur Pierce yn gomedïwr stand yp Cymraeg ddechreuodd berfformio yn 2022 ac ers hynny mae wedi cymryd camau breision gyda'i harddull gomig yn cyfuno hiwmor arsylwi, adrodd straeon a mewnwelediadau diwylliannol, mae'n dod â gogwydd unigryw menyw dosbarth gweithiol awtistig, LHDTC+ i'r llwyfan.
"Rwy'n hynod ddiolchgar i gael y cyfle i ddatblygu fy sgiliau fel comedïwr, a gweithio gyda phobl o'r un anian i wneud comedi yn yr iaith Gymraeg. Rwy'n credu bod prosiectau fel hyn yn cael y cyfle i yrru ein hiaith yn ei blaen i'r dyfodol drwy roi cyfle i bobl gael eu lleisiau wedi'u clywed."
Mae Gruffudd Owen yn fardd, dramodydd a sgriptiwr sy'n hannu o Bwllheli. Aeth ei ddrama gomedi 'Parti Priodas' ar daith genedlaethol gyda Theatr Cymru yn 2024. Mae'n byw gyda'i deulu yn Nghaerdydd lle mae o'n goroesi'n bennaf ar ddeiet o goffi oer a'r tameidiau o dost y taflodd ei blant ar y llawr amser brecwast. "Dwi wrth fy modd mod i'n cael cymryd rhan yn y cynllun yma! Dwi wastad wedi mwynhau ysgrifennu a pherfformio comedi ac mae hwn yn gyfle gwych i fagu mwy o brofiad yn y maes ac i wneud i bobol chwerthin…gobeithio!"
Dyma'r artistiaid a ddewiswyd ar gyfer ochr Channel 4 o'r rhaglen:
Mae Mel Owen yn gomedïwr arobryn gyda chredydau ysgrifennu ar gyfer Netflix, BBC Radio 4, Channel 4 a BBC One. Creodd un o bodlediadau mwyaf poblogaidd Cymru, Mel Mel Jal, wnaeth gyrraedd rhestr fer Gwobr Podlediad Prydain, ac mae'n cyd-gyflwyno podlediad gwleidyddiaeth Gymreig uchel ei chlod For Wales See Wales. Yn dilyn ei sioe ffrinj Caeredin a werthodd allan, mae Mel yn bwriadu ehangu ei gwaith ysgrifenedig trwy arwain ei phrosiect sgriptiedig ei hun.
"Rwy' mor gyffrous i fod yn rhan o'r prosiect hwn ar ôl gweld y gwaith rhagorol a gynhyrchwyd drwy'r prosiect llynedd. Rwy'n awyddus i wella ar fy mhrosiectau ysgrifenedig a dyma'r rhaglen ddelfrydol ar gyfer gwneud hynny!"
Mae Cerys Bradley yn gomedïwr amgen awtistig ac anneuaidd. Wedi eu disgrifio fel 'storïwr gwych' gan The Guardian, mae eu gwaith arobryn yn defnyddio byrfyfyr, ymateb neu gyfraniad gan y gynulleidfa, a phropiau i archwilio profiadau cwiar a niwro-amrywiol. Mae'n nhw wedi perfformio ar Dave a BBC Cymru ac mae eu stand-yp ar gyfer Comedy Central a BBC Sesh wedi cael miliynau o wylwyr TikTok a Facebook.
"Rwy'n hynod gyffrous i weithio gyda Little Wander. Rwy'n edrych ymlaen at gwrdd â'r artistiaid eraill a gweld y pethau maen nhw'n eu creu ac rwy'n gobeithio y bydd y cyfle hwn yn fy helpu i ddod ychydig yn agosach at allu gwneud fy nghomedi sefyllfa."
Cafodd Carwyn Blayney ei fagu yng nghefn gwlad Ceredigion, ond mae wedi bod yn byw yn Llundain dros y dair blynedd ddiwethaf ar ôl graddio o Ddiploma Ysgrifennu Comedi yr Ysgol Ffilm a Theledu Genedlaethol. Fel stand yp mae wedi llwyddo i gyrraedd rownd derfynol So You Think You're Funny? Mae e wedi bod yn gymorth stand yp i Elis James, mae wedi perfformio llwyth ar S4C ac ef yw'r deiliad presennol Cymreig gyda'r teitl 'Welsh Unsigned Stand Up of the Year'. Mae ganddo gredydau ysgrifennu comedi ar BBC Radio 4, Radio Scotland a Radio Wales, ac yn ddiweddar mae wedi ymddangos mewn pennod pilot sefyllfa gomedi S4C RSVP, a chyn bo' hir bydd yn ymddangos ar raglen Ar Led, hefyd ar S4C.
Mae Carwyn yn dychwelyd i'r rhaglen ar ôl camu i'r adwy ar y funud olaf y llynedd wedi i gyfranogwr arall rhoi'r gorau iddi. Bellach mae ganddo gyfle i gwblhau'r rhaglen am flwyddyn gyfan.
"Ro'n i'n falch iawn o fod wedi ymuno â'r rhaglen am ychydig fisoedd y llynedd, ges i gymaint mas o'r cyfnod byr hwnnw, felly mae cael y cyfle nawr i wneud y flwyddyn gyfan yn gyffrous iawn. Rwy'n edrych ymlaen at gael mynd ati."