28 Mawrth 2025
Byddwch yn barod ar gyfer Bwmp, y gyfres ddrama chwe rhan ar S4C sydd â chalon, hiwmor ac yn adlewyrchu heriau'r byd go iawn.
Bydd Bwmp ar S4C ddydd Gwener yma, 28 Mawrth am 9pm. Mae'n gynhyrchiad Octagon ar gyfer Hansh sef platfform ieuenctid S4C.
Mae'r gyfres yn dilyn Daisy Mathews, menyw ifanc sydd newydd ddechrau ei gyrfa fel gohebydd a dylanwadwr i'r cylchgrawn ffasiwn a lifestyle, Amdani. Ond nid yw taith Daisy yn ymwneud â deadlines cylchgrawn a drama sydd yn mynd law yn llaw â dylanwadwyr yn unig - mae'n ymwneud â llywio heriau bywyd a thriongl cariad sydd hefyd yn ddrama yn ei hun.
Mae Bwmp yn gyfres unigryw a chanddi ffraethineb miniog a fydd yn gwneud i chi chwerthin yn uchel, a dim ond 12 munud yw pob pennod - perffaith ar gyfer binjo ar un tro.
Dyma'r gyfres gyntaf wedi'i sgriptio ar gyfer S4C gan berson anabl, Ciaran Fitzgerald, ac mae'n serennu Jenna Preece, actor anabl, fel y brif ran, Daisy.
Enillodd y bennod beilot, a ddarlledwyd yn 2023, y wobr Digidol Gwreiddiol Orau yng Ngwobrau RTS y llynedd, yn amlwg yn dangos ei photensial i greu cynnwrf o fewn y diwydiant adloniant.
Meddai awdur Bwmp, Ciaran Fitzgerald:
"Fy mwriad yn gyntaf oll oedd ysgrifennu comedi doniol a diddorol, lle nad yw anabledd y cymeriad ag unrhyw beth i'w wneud â'r stori.
"Roeddwn i mor falch o glywed bod Hansh ac S4C eisiau i'r gyfres beilot gael ei gwneud yn gyfres chwe rhan. Dyma'r tro cyntaf erioed i mi ysgrifennu ar gyfer y teledu, felly mae gweld fy ngeiriau ar y sgrin yn gwireddu breuddwyd."
Calon y sioe yw ei gonestrwydd. Nid yw taith Daisy yn fêl i gyd. Mae hi'n gymeriad go iawn, cymeriad cymhleth sy'n ceisio darganfod ei gyrfa, ei pherthnasoedd, a'i lle mewn byd nad yw'n aml yn gwneud lle ar ei chyfer hi. Mae'r sioe yn cynnig sgyrsiau heriol gyda hiwmor, gan fynd i'r afael â materion sensitif yn ddigyfaddawd a ffraeth.
Tash, ffrind gorau Diasy sydd wrth ei hochr yn gyson, dyw hi ddim yn cymryd nonsens, mae hi'n ddoniol a chefnogol. Mae Lewis, cariad Daisy yn bartner da iddi ond ychydig yn ddi-glem wrth geisio ymdrin â helyntion bywyd Daisy.
Yn y gwaith, mae rheolwr Daisy yn gymeriad dros y top sydd yn dod â chomedi yn y gweithle ond hefyd yn tynnu sylw at faint o waith y mae'n rhaid i gymdeithas ei wneud o hyd pan ddaw i barchu pobl yn y gweithle.
Mae llwyddiant y sioe yn dyst i ymrwymiad y criw creu i adrodd stori Daisy gyda dilysrwydd, sensitifrwydd a dyfnder. Nid cyfres ddrama arall yn unig yw Bwmp - mae'n ddathliad o leisiau a phrofiadau amrywiol sydd mor aml yn cael eu hanwybyddu yn y cyfryngau prif ffrwd.
Mae'n dangos ei bod yn bosibl cydbwyso materion difrifol gyda hiwmor, gan brofi bod straeon pwysig yn dal i fod yn berthnasol ac yn hwyl i'w gwylio.