S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rose Datta yw enillydd Y Llais 2025

31 Mawrth 2025

Mae Rose, a oedd yn rhan o dîm yr Hyfforddwr Aleighcia Scott, wedi syfrdanu cynulleidfaoedd a'r Hyfforddwyr trwy gydol y gystadleuaeth gyda'i llais pwerus a'i phresenoldeb ar y llwyfan eiconig.

Y tri talentog arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Anna Arrieta o Borthcawl yn cynrychioli Tîm Yws Gwynedd, Liam J. Edwards o Gorseinon fel rhan o Dîm Bronwen Lewis a Sara Owen o Carmel yn cynrychioli Tîm Syr Bryn Terfel.

Dathlu

Fel rhan o'r ffeinal, mi wnaeth y pedwar ganu deuawd gyda'u Hyfforddwyr ble ymunodd Rose ag Aleighcia am berfformiad cofiadwy o Neb Na Dim (Ain't Nobody – Chaka Khan) - profiad a oedd yn "teimlo fel breuddwyd" i Rose.

"Fi'n teimlo'n hollol gobsmacked!" Dywedodd Rose, "Fi wedi cael profiad anhygoel fan hyn – fi byth yn mynd i anghofio fe a dwi wedi bod mor ffodus i fod o gwmpas pobl mor neis a caredig, a gwneud ffrindiau mor dda trwy'r holl broses – a fi jyst ffaelu credu fe!"

"Pob tro fi ar lwyfan, mae jest yn neud i fi deimlo'n fulfilled. Fi wedi caru canu ers i fi fod yn blentyn ifanc – pob cyfle sy'n galluogi fi neud hynny fi'n mynd i gymryd e, yn bendant."

"Mae jest yn freuddwyd sydd wedi dod yn wir."

Aleighcia Scott a Rose Datta

Mae Rose yn llawn edmygedd o'i Hyfforddwr, Aleighcia Scott, sydd wedi chwarae rhan bwysig yn ei thaith ar Y Llais:

"Mae hi mor cŵl! Pob tro fi'n gweld hi fi jest in awe - mae hi'n ysbrydoliaeth. Y peth na'th helpu fi wneud y penderfyniad i ddewis hi fel Hyfforddwr o'dd achos bo fi'n edmygu hi."

Dywedodd Aleighcia Scott, sydd yn ddiweddar wedi cyrraedd brig siart Reggae iTunes:

"Dwi'n teimlo mor falch o Rose. Mae wedi bod yn anhygoel i weld hi'n tyfu yn y gystadleuaeth – yn ei gallu lleisiol, ei hyder – popeth. Dwi'n gwybod mai dim ond y dechrau yw hyn iddi."

"Dwi'n sicr yn gallu gweld hi fel seren yn teithio rownd y byd ac yn rhyddhau ei cherddoriaeth ei hun. Mae'n edrych fel seren a swnio fel seren."

Yr Hyfforddwyr - Yws Gwynedd, Aleighcia Scott, Bronwen Lewis a Bryn Terfel

Mae Aleighcia, sydd wedi dechrau ar ei thaith o ddysgu Cymraeg ychydig flynyddoedd ôl, wedi cael ei chanmol am ysbrydoli eraill sydd eisiau dysgu'r iaith:

"Mae'n bwysig i fi bod pobl yn gweld fi'n trio fy ngorau a neud e achos dwi moyn annog mwy o bobl i siarad Cymraeg."

Fel enillydd Y Llais, bydd Rose nawr yn cael y cyfle i recordio sengl wreiddiol wedi ei chyd-gyfansoddi yn arbennig iddi hi gan ddau o enwau mawr yn y byd cerddoriaeth yng Nghymru a thu hwnt: y gantores-gyfansoddwraig a'r seren West End Mared Williams, a'r cynhyrchydd a'r cerddor amryddawn Nate Williams sydd wedi gweithio gyda bandiau eiconig fel Take That a Jamiroquai.

Fel cyfansoddwraig talentog ei hun gyda'i band Taran, mae Rose yn edrych ymlaen at y profiad o gydweithio gyda Mared Williams:

"Fi'n caru 'sgwennu caneuon yn gyffredinol – fi'n teimlo fel bod e'n therapiwtig iawn i fi a fi 'di bod yn neud e ers sbel nawr. A fi'n caru cerddoriaeth Mared. O fi'n ffodus iawn i allu gwneud perfformiad yn Pittsburgh yn America haf diwethaf gyda'r Urdd ac ers hynny o fi'n meddwl byse fi'n caru canu gyda hi ar yr un llwyfan eto ryw ddiwrnod. Fi'n rili edrych lan i hi."

Mae holl benodau'r gyfres ar gael i'w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Ac mae mwy o gynnwys cefn llwyfan i'w gweld ar gyfryngau cymdeithasol @YLlais.

Noddir Y Llais gan Go.Compare.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?