Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Ysgrifennydd newydd Bwrdd y sianel yw Owain Lloyd. Wedi gweithio i'r Gwasanaeth Sifil am dros 20 mlynedd mewn amryw o swyddi o fewn Llywodraeth Cymru mae Owain wedi bod yn rheoli is adran Gofal Plant, Chwarae a Blynyddoedd Cynnar y Llywodraeth dros y dair blynedd a hanner diwethaf gan arwain ar nifer o ymrwymiadau gan gynnwys cynnig gofal plant y Llywodraeth i blant tair a phedair oed drwy Gymru gyfan.
09 Mai 2019
Y Giro d'Italia yw un o'r rasys beics mwyaf yn y byd, a bydd modd i chi wylio'r uchafbwyntiau a chymalau allweddol o'r ras yn fyw eleni ar S4C.
Dyma bedwar peth sy'n gwneud y Giro d'Italia eleni yn ras arbennig.
01 Mai 2019
Mi fydd Leah Wilkinson, capten tîm hoci Cymru, yn anelu i dorri'r record genedlaethol am y chwaraewr â'r nifer fwyaf o gapiau mis nesaf ac mi fydd camerâu S4C yna i ddangos y cyfan.
Mae S4C yn falch o gyhoeddi mae Comisiynydd Drama newydd y sianel yw Gwenllian Gravelle.
17 Ebrill 2019
Bydd Giro d'Italia 2019 i'w weld ar S4C gyda darllediadau byw ac uchafbwyntiau o bob cymal.
Gyda llai na mis i fynd tan darllediad yr ail gyfres o'r ddrama boblogaidd Un Bore Mercher ar S4C, cafodd cynulleidfa yng ngŵyl deledu yn Llundain flas o'r gyfres newydd dros y penwythnos.
Roedd sêr Un Bore Mercher Eve Myles a'i gwr Bradley Freegard yn ogystal ag awdur y gyfres Matthew Hall yn siarad yn y British Film Institute / Radio Times Television Festival ddydd Sul (Ebrill 14).
Mae pedair o raglenni S4C wedi derbyn clod rhyngwladol yng Ngŵyl Gwobrau Teledu a Ffilm Ryngwladol Efrog Newydd 2019 neithiwr (9 Ebrill 2019).
Côr Sioe Ieuenctid Môn enillodd Wobr Dewis y Gwylwyr a'u harweinydd Mari Pritchard Wobr yr Arweinydd.
Roedd gan dre' Llandeilo le i ddathlu hefyd wedi i Ysgol Gymraeg Teilo Sant ennill tlws Côr Cymru Cynradd nos Sadwrn 6 Ebrill ar lwyfan y Neuadd Fawr, Aberystwyth.
Wedi wythnosau o gystadlu gwefreiddiol, bydd pump o gorau mwyaf swynol a deinamig ein gwlad yn brwydro yn rownd derfynol Côr Cymru 2019.
A bydd holl fwrlwm a chyffro'r ffeinal yn fyw nos Sul 7 Ebrill ar S4C wrth i'r darlledwyr Heledd Cynwal a Morgan Jones gyflwyno'r pum côr yn y ffeinal o lwyfan y Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Am yr ail flwyddyn yn olynol mae S4C a'r cwmni cynhyrchu Rondo Media yn chwilio am seren ifanc i gynrychioli Cymru yn y Junior Eurovision Song Contest. Dyma gyfle unigryw i bobl ifanc rhwng 9-14 oed, unigolion neu grwpiau o hyd at chwech aelod i berfformio o flaen cynulleidfa o filiynau ar draws Ewrop a thu hwnt.
Mae S4C wedi derbyn deg enwebiad ar gyfer Gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2019.
28 Mawrth 2019
Mae un o arwyr pêl-droed Cymru wedi mentro i 'faes' newydd - gohebu ar y sioe gylchgrawn nosweithiol ar S4C, Heno.
25 Mawrth 2019
Bydd ffilm am gerddoriaeth Gymraeg sy'n serennu'r cyflwynydd Huw Stephens yn cael ei darlledu ar S4C.
Mae cyfres antur ddychrynllyd i bobl ifanc ar S4C, Prosiect Z, wedi ennill gwobr y rhaglen blant orau yng ngwobrau yr RTS (Royal Television Society).
Cynhaliwyd y seremoni heno (Nos Fawrth 19 Mawrth) yn y Grosvenor House Hotel yn Llundain.
17 Mawrth 2019
Mae 2019 eisoes yn llawn atgofion gwych o'r meysydd chwarae a bydd gwasanaeth S4C yn ystod gweddill y flwyddyn yn rhoi'r sylw gorau posib i athletwyr o Gymru sy'n cystadlu ar lwyfan y byd.
13 Mawrth 2019
Mae'n bwysig bod plant yn dod i arfer â gwneud y penderfyniadau cywir ynglŷn â'u hiechyd er mwyn byw bywyd hapus. Dyna yw neges ymgyrch newydd mae cyfres iechyd S4C, FFIT Cymru, yn rhannu ymysg ysgolion cynradd ledled Cymru.
Dydd Llun (25 Chwefror 2019) bydd 34 o staff technegol S4C yn trosglwyddo i gyflogaeth y BBC. Dyma'r cam diweddaraf wrth i'r sianel baratoi ar gyfer cydleoli gyda'r BBC yn Sgwâr Canolog, Caerdydd ar ddechrau 2020. O hynny ymlaen y BBC fydd yn gyfrifol am ddarlledu a dosbarthu S4C, ar deledu ac ar-lein. Hefyd y BBC fydd yn gyfrifol am weddill isadeiledd technegol S4C.
Yn dilyn llawdriniaeth cyn y Nadolig, mae Dai Jones yn ôl ar y sgrîn ac yn edrych mlaen at gyfres newydd sbon o Cefn Gwlad nos Fawrth 19 Chwefror ar S4C.
Wrth barhau i wella adref yn Llanilar bydd Dai yn cael y cyfle i edrych n'ôl ar rhai o'r cymeriadau cofiadwy mae e wedi cwrdd â nhw mewn dros 35 mlynedd o gyflwyno Cefn Gwlad ar S4C.
Mae S4C a Mudiad Meithrin wedi cyhoeddi partneriaeth newydd sbon er mwyn rhannu ymrwymiad o gynnig cyfleoedd i ddefnyddio, mwynhau a chlywed y Gymraeg.
Prif amcan a phwrpas gwaith Mudiad Meithrin yw rhoi cyfle i bob plentyn ifanc yng Nghymru fanteisio ar wasanaethau a phrofiadau blynyddoedd cynnar drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Megan Davies yw'r myfyriwr ôl-radd sydd wedi ennill Ysgoloriaeth T Glynne Davies ar gyfer 2018-19.
Mae Megan, 23 oed, sy'n wreiddiol o Bontarddulais ger Abertawe, yn dilyn cwrs MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd ar hyn o bryd.
Gall cwsmeriaid Virgin Media nawr fwynhau rhaglenni S4C mewn manylder uchel, a hynny wrth i bencampwriaeth y Chwe Gwlad gychwyn.
Fel rhan o bartneriaeth arbennig rhwng S4C a Virgin Media, gall cwsmeriaid Virgin Media TV fwynhau holl arlwy S4C ar deledu manylder uchel safonol.
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Cyfatebol sydd wedi ennill cytundeb gwasanaeth isdeitlo y sianel.
Bydd Cyfatebol yn darparu gwasanaeth isdeitlo Saesneg sy'n cynnwys gwasanaeth isdeitlo Saesneg ar gyfer rhaglenni byw a rhaglenni a gyflwynir yn agos at y dyddiad darlledu a gwasanaeth isdeitlo Cymraeg i S4C dros y pedair blynedd nesaf.
15 Ionawr 2019
Mae rhaglen deledu sy'n anelu i drawsnewid ffitrwydd a iechyd pum person yn derbyn ceisiadau ar gyfer y gyfres nesaf.
Mae Cwmni Da, y cwmni teledu sy'n cynhyrchu FFIT Cymru ar gyfer S4C, yn annog pobl i roi eu henwau ymlaen i gymryd rhan yn y gyfres nesaf drwy fynd i'r wefan, s4c.cymru/ffitcymru, a chlicio ar y botwm 'Ymgeisio Yma'. Y dyddiad cau yw 25 Ionawr 2019.