Iaith ar Daith: Ar y cae pêl-droed mae Joe Ledley wedi arfer disgleirio. Ond her newydd sy'n wynebu arwr y bêl gron y tro hwn - sef dysgu Cymraeg gyda chymorth gan Dylan Ebenezer.
HEFYD: Cymry ar Gynfas
FFIT Cymru: Cyfle i glywed am brofiadau un o arweinydd FFIT Cymru eleni, y Parchedig Dylan Parry sy'n wreiddiol o Gaernarfon ond bellach yn gwasanaethu ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
HEFYD: Cymry ar Gynfas
Cynefin - Llundain: Heledd Cynwal fydd yn darganfod mwy am y ddefod arbennig sy'n dathlu'r cysylltiad masnachu rhwng Cymru a Llundain, pan fydd defaid yn croesi un o bontydd mwyaf eiconig Llundain.
HEFYD: Sain Ffagan
DRYCH: Alex Humphreys: Epilepsi a Fi: Mae Alex Humphreys yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel cyflwynydd Y Tywydd. Ond dim ond y bobl sydd agosaf ati sy'n ymwybodol ei bod yn hi'n byw gyda'r cyflwr epilepsi.
HEFYD: Stadiymau'r Byd gyda Jason Mohammad
Y Sŵn: Ffilm fentrus, egnïol sy'n adrodd hanes safiad Gwynfor Evans dros sefydlu sianel deledu Gymraeg. Wedi'i hysgrifennu gan Roger Williams a'i chyfarwyddo gan Lee Haven Jones.
HEFYD: Sain Ffagan
Stadiymau'r Byd: Yn y gyfres newydd yma cawn ymweld â rhai o stadiymau a meysydd chwarae mwyaf trawiadol ac arloesol ar draws y byd gyda Jason Mohammad.
HEFYD: Garddio a Mwy
Cynefin: Ffion Dafis yn ymuno â chriw Cynefin i ddarganfod rhyfeddodau cudd Llandudno
HEFYD: Qatar: Cymru yn erbyn y byd
Teulu, Dad a Fi: Ail bennod o'r gyfres sy'n tyrchu i wreiddiau teulu y seren Love Island Connagh Howard a'i dad Wayne yn yr Iwerddon a Jamaica.
HEFYD: Ysgoloriaeth Urdd Gobaith Cymru Bryn Terfel 2022
Rownd a Rownd: Mae cymeriad newydd cyffrous wedi cyrraedd Glanrafon, pentref dychmygol yr opera sebon Rownd a Rownd.
HEFYD: Noson Lawen Dyffryn Ogwen
Teulu, Dad a Fi: Cyfres newydd sy'n tyrchu i wreiddiau teulu y seren Love Island Connagh Howard a'i dad Wayne yn yr Iwerddon a Jamaica.
DRYCH: Meddwl yn wahanol
Dechrau Canu Dechrau Canmol: Gŵyl Dewi
Cân i Gymru: Wrth i Cân i Gymru 2023 agosáu, mae'n amser cyhoeddi'r caneuon sydd wedi cyrraedd rhestr fer cystadleuaeth fwyaf ddisgwyliedig Cymru, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno ar y noson.
1. Stori'r Iaith: Mewn cyfres ddogfen newydd sbon, mi fydd pedwar wyneb cyfarwydd yn mynd a ni ar drywydd hanes y Gymraeg a'u perthynas unigryw nhw â'r iaith. Y tro hwn - Alex Jones.
Stori'r Iaith: Mewn cyfres ddogfen newydd sbon, mi fydd pedwar wyneb cyfarwydd yn mynd a ni ar drywydd hanes y Gymraeg a'u perthynas unigryw nhw â'r iaith. Y tro hwn - Lisa Jên.
Stori'r Iaith: Mewn cyfres ddogfen newydd sbon, mi fydd pedwar wyneb cyfarwydd yn mynd a ni ar drywydd hanes y Gymraeg a'u perthynas unigryw nhw â'r iaith. Y tro hwn - Sean Fletcher.
Rygbi Cymru: Y Gêm yn y Gwaed: Bydd cyn-Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones yn ein tywys drwy hanes rygbi ein cenedl.
Sgwrs Dan y Lloer: Y tro hwn mae Elin Fflur yn siarad â'r gantores, gyfansoddwraig, dawnswraig, DJ, actores a'r cyflwynydd Gwenno Saunders.
Sgwrs Dan y Lloer: Y tro hwn mae Elin Fflur yn siarad â'r newyddiadurwraig Bethan Rhys Roberts.
Yr Amgueddfa: Yr actor Steffan Cennydd yn sôn am ei rôl yn ddrama newydd S4C a'r pleser o ffilmio yn agos i'w gartref yn Sir Gâr.
22 Rhagfyr 2022
Mae gwledd o raglenni arbennig ar S4C a S4C Clic dros y Nadolig i dwymo calonnau a dathlu hwyl yr ŵyl.
Chris a'r Afal Mawr: Mi fydd Chris 'Flamebaster' Roberts a un o'i ffrindiau gorau, y cogydd amryddawn o Ynys Môn, Tomos Parry, yn ymweld a'r llefydd gorau i fwyta yn Efrog Newydd.
FFIT Cymru: 6 Mis Wedyn: Roedd taith FFIT Cymru yn newid ar fyd i bum arweinydd yn y gyfres yn gynharach eleni – ond a yw'r daith trawsnewid wedi parhau yn y chwe mis ers hynny?
Afal Mawr Epic Chris: Boom! Mae Chris 'Flamebaster' Roberts yn ôl a'r tro hwn, taith fythgofiadwy i Efrog Newydd sydd ar y fwydlen. Cyfres newydd.
Bwrdd i Dri: Cyfres newydd o'r sioe hwyliog sy'n cyfuno coginio, bwyta, sgwrsio a chwerthin.
Gogglebocs Cymru: Cyfle i ddod i adnabod rhai o sêr Gogglebocs Cymru, gan gynnwys Vicki o Ben y Bont ar Ogwr a Huw Williams o'r Wyddgrug.
Richard Holt a'i Academi Felys: Mae drysau hudolus Academi Felys Richard Holt ar agor unwaith er mwyn i feistr y pwdinau rannu ei sgiliau a darganfod pobyddion o fri yn ei Academi Felys 2022.
Radio Fama: O'r llon i'r lleddf - sgyrsiau o galon y gymuned fydd yn ganolog i raglen radio sydd hefyd yn rhaglen deledu newydd. Gyda Tara Bethan a Kris Hughes.
Gogglebocs Cymru: Wrth i Gogglebocs Cymru fwrw'r sgrin am y tro cyntaf ar nos Fercher 2 Tachwedd, byddwn ni'n sgwrsio gyda llais y gyfres ac un o leisiau amlycaf Cymru, y cyflwynydd a'r digrifwr Tudur Owen.
Jonathan 60: Wrth i Jonathan 'Jiffy' Davies droi yn 60 oed, dyma raglen arbennig i ddathlu pen-blwydd arbennig yr arwr rygbi, darlledwr a llysgennad elusennol.
Nôl i'r Gwersyll: Cyfres hanes byw newydd sbon sy'n mynd â grŵp o gyn-wersyllwyr, eu teuluoedd a'u ffrindiau nôl mewn amser i ddegawdau'r 50au-80au i brofi penwythnos yng Ngwersyll yr Urdd, Llangrannog.
Wrecsam: Clwb Ni: Cyfres newydd sy'n bwrw golwg ar effaith pryniant Clwb Pêl-droed Wrecsam gan actorion Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney ar y dref a'i phobl.