Nadolig 2019: Crynodeb o holl arlwy Nadolig S4C eleni - mae rhywbeth yno i blesio pawb!
Ffoadur Maesglas FC: Ffilm ddogfen fer gan blatfform adloniant ar-lein S4C Hansh, yn dilyn Muhunad a'i fab Shadi - ffoaduriaid o Syria - ar daith emosiynol o'u cartref newydd yn Aberystwyth i stadiwm Manchester United.
Rownd a Rownd: Mae Ceri Elen Morris yn ymuno â chast Rownd a Rownd ac mae ei chymeriad Fflur yn troi bywydau sawl cymeriad ar ben ei waered.
Craith: Mae'r tri actor ifanc Annes Elwy (Mia Owen), Steffan Cennydd (Connor Pritchard) a Siôn Eifion (Lee Williams) yn ateb cwestiynau am eu cymeriadau a'u teimladau wrth weithio ar ddrama drosedd dywyll.
Junior Eurovision: Y Ffeinal: Cyfweliad gydag Erin Mai o Lanrwst cyn ffeinal cystadleuaeth fawr y Junior Eurovision Song Contest yng Ngwlad Pwyl, lle fydd hi'n cynrychioli Cymru.
Craith: Mae DCI Cadi John yn ôl gydag achos newydd i'w ddatrys wrth i hen ŵr gael ei ddarganfod wedi marw mewn bath. Drama drosedd dywyll ac ysgytwol.
DRYCH: Aros am Aren: Y gwirionedd tu ôl i'r wên - ffilm ddogfen am yr actor a'r digrifwr Iwan John sydd angen aren newydd er mwyn achub ei fywyd.
DRYCH: Y Côr: Ffilm gynnes a theimladwy, sy'n dogfennu'r her i gadw Côr Meibion Trelawnyd yn fyw.
DRYCH: Agoriad Llygad: Mae Bethan Richards o'r grŵp Diffiniad yn colli ei golwg. Dyma hi'n agor ei chalon am y cyflwr mewn ffilm ddogfen gan ei brawd Dylan Wyn Richards.
Meic Stevens: Dim ond Cysgodion: Ffilm ddogfen newydd sy'n taflu golau ar fywyd personol y canwr o'r Solfa, Meic Stevens.
Ysgoloriaeth Bryn Terfel: Pa un o berfformwyr ifanc mwyaf addawol Cymru fydd yn cipio Ysgoloriaeth Bryn Terfel eleni? Gwyliwch y cyffro i gyd mewn rhaglen arbennig o Neuadd Goffa Y Barri nos Sadwrn.
Dechrau Canu Dechrau Canmol America: Rhaglen arbennig sydd yn edrych ar yr effaith barhaol mae Cymru wedi cael ar hunaniaeth a chrefydd ardaloedd yn America.