Yr Amgueddfa: Drama newydd sbon gyda Nia Roberts a Steffan Cennydd sy'n mynd â ni mewn i fyd tywyll a pheryglus trosedd celf.
Eisteddfod T: Mi fydd Eisteddfod T yn cael ei gynnal yn ystod wythnos arferol yr Eisteddfod, o ddydd Llun, 31 Mai hyd at ddydd Gwener, 4 Mehefin. Ymunwch gyda'r cyflwynwyr Heledd Cynwal a Trystan Ellis-Morris mewn stiwdio arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog ar gyfer wythnos lawn o gystadlu a hwyl.
Y Wal Goch: Mewn cyfres newydd, Yws Gwynedd, Mari Lovgreen, a Jack Quick fydd yn edrych ymlaen tuag at gystadleuaeth bêl-droed yr Ewros yr haf hyn.
Terfysg yn y Bae: Y cyflwynydd Sean Fletcher sy'n mynd ar daith i ddarganfod hanes terfysg hil 1919 ym Mae Caerdydd.
Cynefin: Wythnos yma bydd y tîm yn ymweld â Bae Colwyn - un o drysorau glan môr Cymru, ac ardal sydd wedi denu ymwelwyr o bell ac agos ar hyd y degawdau.
Cymru, Dad a Fi: Connagh Howard, seren y gyfres Love Island, a'i dad Wayne sy'n ein tywys ar daith unigryw ar hyd ynysoedd Cymru. Wythnos yma, bydd y ddau'n nofio gyda morloi Ynys Enlli.
Garddio a Mwy: Wrth inni edrych ymlaen at dymor y gwanwyn, gallwn hefyd edrych ymlaen at gyfres newydd o'r sioe boblogaidd am arddio a phethau da bywyd.
Cymry ar Gynfas: Cyfres sy'n dod a chwe eicon a chwe artist at ei gilydd i greu chwe phortread. Yn y rhaglen gyntaf, y ddarlledwraig Beti George yw'r eicon sy'n cael ei dehongli gan yr artist Catrin Williams.
Cymru, Dad a Fi: Cyfres newydd. Bydd Connagh Howard, seren y gyfres Love Island, a'i dad Wayne yn ein tywys ar daith unigryw ar hyd ynysoedd Cymru. Bydd y ddau yn mynd ar daith o hunan ddarganfod, gan wynebu ambell i her, cwrdd â phobl newydd ac ymweld â rhannau anghyfarwydd o Gymru.
Guinness World Records Cymru: Rhaglen arbennig sy'n cofnodi ymdrechion arbennig y Cymry i dorri ambell i record byd. A churo neu beidio, mae pob ymgais yn dathlu agwedd unigryw ar draddodiad neu ddiwylliant Cymru.
Bregus: Cyfres newydd. Hannah Daniel sy'n sôn am ei rhan fel Ellie yn y ddrama seicolegol dywyll a chyffrous hon.
Iaith ar Daith: Chwe seleb sydd eisiau dysgu Cymraeg, chwe mentor adnabyddus a llwyth o sialensiau i brofi eu sgiliau newydd. Yr actores amryddawn Rakie Ayola sy'n mynd ar daith gyda'i mentor a hen ffrind yr actores Eiry Thomas.
Iaith ar Daith: Chwe seleb sydd eisiau dysgu Cymraeg, chwe mentor adnabyddus a llwyth o sialensiau i brofi eu sgiliau newydd. Y cyflwynydd rhaglenni natur Steve Backshall yw'r cyntaf i fynd ar daith fythgofiadwy gyda'i fentor Iolo Williams.
DRYCH: Y Pysgotwyr: Rhaglen ddogfen sy'n cynnig cipolwg prin ar diwylliant hynafol, pysgota môr – y sialensiau, y peryglon a'r rhamant.
DRYCH: Rhondda Wedi'r Glaw: Rhaglen ddogfen sy'n edrych ar yr effeithiau dinistriol cafodd llifogydd Storm Dennis ar drigolion Cwm Rhondda ym mis Chwefror llynedd.
Y Llinell Las: Cyfres newydd sy'n dangos yn union sut beth yw gweithio i Uned Plismona'r Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru.
Fflam: Cyfres newydd, cyfoes a gwahanol sy'n ymdrin ag angerdd a galar wrth godi'r cwestiwn a yw'n hawdd cynnau tân ar hen aelwyd. Cyfweliad gyda'r actores o Aberystwyth, Gwyneth Keyworth sy'n chwarae'r prif gymeriad, Noni.
Sgwrs Dan y Lloer: Mae Elin Fflur yn siarad â'r actor adnabyddus Mark Lewis Jones am ei frwydr i roi'r gorau i alcohol a sut mae rhedeg wedi ei helpu, wrth i'r gyfres boblogaidd ddychwelyd.
Am Dro: Pedair taith, pedwar cystadleuydd - ond dim ond un enillydd. Mae'n amser mynd Am Dro unwaith eto! Cyfres newydd.
Dechrau Canu Dechrau Canmol: Carol Hardy a sut wnaeth ffydd, gobaith a chariad roi ail gyfle iddi ar ôl bod yn gaeth i alcohol.
Pawb A'i Farn gyda'r Prif Weinidog: Mewn rhifyn arbennig, bydd Betsan Powys yn holi Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru a hynny o swyddfeydd Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd.
Canu Gyda Fy Arwr: Os fysech chi'n cael y cyfle i rannu llwyfan gydag unrhyw un, pwy fyddech chi'n ei ddewis? Dyma'n union sy'n digwydd mewn cyfres newydd ar S4C.