11 Awst 2022
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi penodi Suzy Davies fel Aelod o Fwrdd S4C am dymor o bedair blynedd rhwng 1 Awst 2022 a 31 Gorffennaf 2026.
8 Awst 2022
Bydd y gêm bêl-droed rhwng Abertawe a Met Caerdydd ar benwythnos agoriadol y tymor Adran Premier Genero i'w gweld yn fyw ar S4C.
2 Awst 2022
Dafydd Lennon yw cyflwynydd newydd gwasanaeth Cyw.
1 Awst 2022
Mae S4C, y darlledwr Cymraeg, wedi comisiynu Mwy na Daffs a Taffs (teitl dros dro),sef cyfres ob-doc 6x40 munud, a gynhyrchir gan Carlam Ltd.
1 Awst 2022
Mae S4C yn falch iawn o gadarnhau heddiw bod ceisiadau ar agor i gwmnïau cynhyrchu dendro am fersiwn Gymraeg o fformat Channel 4 a Studio Lambert o Gogglebox.
29 Gorffennaf 2022
Bydd S4C yn darlledu'r holl gyffro'r Eisteddfod Genedlaethol o Dregaron trwy gydol yr wythnos ar S4C, ac ar y chwaraewyr.
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 oed, ac fel cartref profiadau Cymru bydd S4C yn dod â holl fwrlwm gŵyl ddiwylliannol mwyaf Ewrop i wylwyr S4C a hynny ar amryw o lwyfannau gwahanol.
29 Gorffennaf 2022
Mae stiwdio ffilm a theledu newydd yn cael ei chynllunio yn Ynys Môn i fanteisio ar y nifer cynyddol o gynyrchiadau sy'n cael eu denu i'r lleoliadau godidog ar draws Gogledd Cymru.
29 Gorffennaf 2022
Mae Sgorio wedi cyhoeddi'r gemau byw cyntaf fydd yn cael eu dangos yn y tymor pêl-droed newydd.
20 Gorffennaf 2022
Mae S4C wedi gweld twf pellach mewn cynulleidfaoedd sy'n defnyddio ei gwasanaethau dal i fyny, gyda chynnydd o 11.6% y flwyddyn yn y sesiynau gwylio ar ei chwaraewyr.
Wrth gyhoeddi Adroddiad Blynyddol S4C am y flwyddyn 2021-22 nododd y darlledwr hefyd y bydd buddsoddi helaeth mewn llwyfannau gwylio newydd, ac y byddant yn cyflwyno dulliau newydd o fesur y niferoedd sy'n troi at S4C ar y llwyfannau hynny.
19 Gorffennaf 2022
Mae S4C wedi cyflwyno cwpan coffa heddiw, er cof am y darlledwr a'r ffermwr poblogaidd Dai Jones Llanilar. Bydd y cwpan yn cael ei gyflwyno i enillwyr y gystadleuaeth Tîm o Bump yn Adran y Gwartheg Bîff, sef hoff gystadleuaeth Dai yn Y Sioe Frenhinol brynhawn ddydd Mawrth 19 Gorffennaf.
15 Gorffennaf 2022
Ar drothwy pen-blwydd S4C yn 40 yn ddiweddarach eleni, mae'r sianel yn estyn allan i gynulleidfaoedd yn y DU a ledled y byd gyda darllediadau cynhwysfawr o ddigwyddiad amaethyddol mwyaf Ewrop sef y Sioe Frenhinol.
1 Gorffennaf 2022
Bydd tîm o 199 o athletwyr yn cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham eleni a bydd modd dilyn eu holl lwyddiannau dros yr wythnosau nesaf ar S4C.
29 Mehefin 2022
Bydd dydd Mawrth 19 Gorffennaf yn ddiwrnod prysur o chwaraeon merched rhyngwladol ar blatfformau digidol S4C.
24 Mehefin 2022
Mae'r gantores ac artist cerddorol o Gaerdydd, Marged yn teithio'r byd gyda band poblogaidd Self Esteem fel lleisydd a dawnswraig gefndirol.
28 Mehefin 2022
Bydd rhaglen ddogfen newydd ar S4C, Llofruddiaeth Logan Mwangi, yn agor cil y drws ar ymchwiliad heddlu le'r oedd pob eiliad yn cyfri wrth chwilio am dystiolaeth.
20 Mehefin 2022
Bydd S4C yn parhau i fod yn gartref i bêl-droed domestig Cymru am y pedair mlynedd nesaf.
15 Mehefin 2022
Mae S4C wedi dod â rhai o ddigwyddiadau mawr chwaraeon a gwyliau ieuenctid Cymru i sgriniau a chartrefi Cymru a thu hwnt yn ystod yr wythnosau diwethaf.
10 Mehefin 2022
Mae S4C wedi llwyddo i gipio dwy wobr yng Ngwyl Cyfryngau Celtaidd 2022 a gynhaliwyd yn Quimper yn Llydaw yr wythnos hon.
9 Mehefin 2022
Bydd S4C yn dangos uchafbwyntiau estynedig o gemau tîm rygbi Cymru yn erbyn y Springboks ar eu taith yr haf i Dde Affrica.
7 Mehefin 2022
Er mwyn dathlu straeon pobl ifanc LHDTC+ yng Nghymru heddiw, bydd Rownd a Rownd yn cyhoeddi pedair monolog newydd gan bedwar awdur ifanc i nodi mis Pride eleni.
1 Mehefin 2022
Mae murluniau graffiti o sêr pêl-droed Cymru wedi ymddangos led led y wlad yr wythnos hon.
26 Mai 2022
Mae S4C wedi lansio Ysgoloriaeth Newyddion 2022-2023 heddiw ar gyfer myfyriwr sydd am ddilyn cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.
25 Mai 2022
Mae S4C wedi sicrhau hawliau ecsgliwsif i ddarlledu gemau tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru am ddim ar deledu cyhoeddus o 2022 hyd at 2024.
24 Mai 2022
Bydd dwy wyneb newydd yn ymuno gyda thîm Tywydd S4C cyn diwedd y mis.
18 Mai 2022
Mae ffilmio wedi cychwyn ar ail gyfres y ddrama lwyddiannus Yr Amgueddfa - mae'r cyffro y tro hwn wedi symud allan o'r Brifddinas i rai o leoliadau mwyaf eiconig gorllewin Cymru yn Sir Gâr.
13 Mai 2022
Mae gŵr o Gaerffili wedi gosod her unigryw i'w hun – i gwblhau pob parkrun yng Nghymru.
6 Mai 2022
Bydd dangosiad arbennig o ddrama cyffrous newydd S4C Y Golau yn Llundain ar ddydd Llun, 9 Mai yn Bafta Picadilly.
28 Ebrill 2022
Ymateb S4C i gyhoeddiad hawliau darlledu gemau pêl-droed Cymru o 2024.
27 Ebrill 2022
Bydd drama afaelgar seicolegol newydd sbon Y Golau yn dechrau ar S4C ar nos Sul, 15 Mai am 9.00 yh ac ar gael hefyd ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Alexandra Roach (Killing Eve, Sanditon, No Offence) sy'n chwarae'r prif rhan yn y ddrama hon sy'n cynnwys sawl enw mawr arall sef enillydd gwobr Bafta Leading Actress 2022 Joanna Scanlan (After Love, No Offence) ac Iwan Rheon (Misfits, Game of Thrones).
6 Ebrill 2022
Bydd gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol yn rhan arwyddocaol o strategaeth newydd sbon S4C, meddai Prif Weithredwr newydd y sianel Sian Doyle, wrth i dîm newydd ymuno gyda'r sianel.