Mae'r daith yma'n un gylch. Byddwch yn dechrau ac yn gorffen y daith ger Cerrig yr Orsedd (a) ger Clwb Criced Dolgellau. Gyda Cherrig yr Orsedd tu ôl i chi, trowch i'r chwith, cerddwch heibio'r fynwent ac yna trowch yn syth i'r dde i lawr Heol Marian. Byddwch yn cerdded heibio Eglwys y Santes Fair (b) ar y chwith.
Parhewch i gerdded drwy'r dre, i lawr Stryd Springfield a'r Domen Fawr. Ar waelod y Domen Fawr, trowch i'r chwith a dilynwch yr heol am 200 metr ac wrth i'r heol sythu, fe welwch fwlch rhwng dau adeilad i'r chwith. Trowch lawr y llwybr a chroeswch yr afon Arran ar draws y bont bren.
Byddwch yn dod allan ar Felin Uchaf, trowch i'r dde a cherddwch i ben yr heol gan ddechrau'r dringo. Ar ben Felin Uchaf, dilynwch y llwybr i'r dde a byddwch yna'n dilyn y llwybr cyhoeddus trwy'r goedwig am 400 metr cyn croesi'r afon Arran eto. Trowch i'r chwith a dilynwch y llwybr gan gadw'r afon ar eich chwith. Byddwch yn dod ar draws adfeilion gwaith gwlân (c) ger yr afon i lawr ar y dde. Parhewch i gerdded ar hyd y llwybr drwy Goed y Pandy (ch) cyn croesi'r nant sy'n bwydo'r Afon Arran ar y cerrig camu, cyn croesi'r Afon Arran ei hun unwaith eto.
Cerddwch heibio'r ffarm ar eich chwith, yna trowch i'r dde i ddringo fyny'r heol am tua 650 metr. Byddwch yn cyrraedd fforch yn y ffordd, ewch i'r dde a pharhewch i gerdded ar yr heol am tua chilometr, fe welwch arwydd am Bryn Mawr (d) ar y chwith.
O fan hyn, parhewch tan eich bod yn croesi Nant y Ceunant, a throwch yn syth i'r dde o'r heol i'r llwybr bydd yn eich arwain yn ôl at y dre.
Byddwch yn dod allan ar Ffordd Bodlondeb, trowch i'r dde ac yna cadwch i'r chwith lawr at y brif heol, Heol Cader. Ewch lawr y grisiau a'r llwybr sydd syth o'ch blaen, ac fe ddewch chi allan ar Stryd Lombard. Cerddwch lawr Stryd Lombard a throwch lawr Lôn Bopty tan eich bod yn cyrraedd nôl ger Eglwys y Santes Fair (b). Gyda'r eglwys o'ch blaen, trowch i'r chwith, ac yna i'r chwith ger y fynwent, a byddwch nôl ger dechrau'r daith, Cerrig yr Orsedd (a).
A) Meini'r Orsedd
Cyfeirnod Grid: SH 725 179
Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nolgellau am y tro cyntaf ym 1949. Rowland Jones enillodd y Gadair, a John Eilian enillodd y Goron.
B) Eglwys y Santes Fair
Cyfeirnod Grid: SH 72747 17838
Mae'r eglwys yn sefyll ar safle eglwys ganoloesol, sy'n dyddio nol i oleua 1254. Adeiladwyd yr eglwys newydd o gwmpas yr un wreiddiol.
C) Adfeilion Gwaith Gwlan
Cyfeirnod Grid: SH 731 170
Yn y 18fed ganrif y diwydiant gwlân oedd prif economi'r dre gwerth i fyny at £100,000 y flwyddyn sef dros £20 miliwn heddiw. Gellir gweld adfeilion un o'r gweithfeydd fan hyn.
Ch) Coed y Pandy
Mae Coed Maes y Pandy yn goetir hynafol, sydd yn ymestyn ar draws chwe hectar o dir ar lethr serth.
D) Bryn Mawr
Cyfeirnod Grid: SH 728 166
Ymfudodd nifer o Grynwyr yr ardal i Pennsylvania yn 1686 dan arweiniad Rowland Ellis. Dyma oedd testun y nofel Stafell Ddirgel gan yr awdures o Ddolgellau Marion Eames.