Dewch ar antur gyda ni i gwrdd ag anifeiliaid bach y byd. Y tro hwn yr Eliffant Asiaidd a'r Macac sy'n cael y sylw.
Anturiaethau Guto Gwningen a'i ffrindiau.
Mor-ladron o Ysgol Pontybrenin sydd yma'n helpu Bendant a Cadi y tro hwn.
Mae gan Pablo ei ffordd ei hun o weld y byd, ond pan mae ei grys-t newydd yn cosi, mae'n gwrthod gwisgo dillad o gwbwl. Mae'n penderfynu bod yn ddeinosor arbennig yn lle hynny.
Taith y Trenau. Byddwn yn mynd yn ol i'r flwyddyn 1804 i ddysgu am y trên stem cyntaf a gafodd ei ddefnyddio yng Nghymru, yn Merthyr Tudful. Yn ogystal byddwn yn dysgu am drenau modern cyflym sef, trenau bwled.
Ar yr antur popwych heddiw mae'r ffrindiau'n glanhau. Mae Mai-Mai yn colli llyfr lluniau arbennig Mabli ond all hi ddefnyddio camera Pip i ailosod y lluniau coll'
Ar y Newffion heddiw byddwn ni'n clywed hanes ci ar goll yn Nhreorci. Cawn ddatgelu enillydd cystadleuaeth creu poster am hawliau plant, a'n gohebyddion ni fu'n holi'r cyhoedd ledled Cymru am blant yn defnyddio ffonau symudol.
Os yw'r byd yn teimlo yn rhy brysur, dewch i Shwshaswyn i gael saib.
Mae Cyw, Plwmp a Deryn wedi colli eu pêl tenis ac felly'n methu parhau â'u gêm. Tybed a fydd gan Jim rywbeth siâp sffêr - fel y bêl tenis - yn ei fag Pob Dim'
All Eira gadw Jêc draw o'r caban cyn iddo ddarganfod y parti syrpreis sydd wedi'i drefnu ar ei gyfer'
Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Huw a'r criw yn caslgu sbwriel ar un o draethau Ynys Môn, bydd Meia ac Elsa yn wyna ar eu fferm ger Aberystwyth, a bydd Meleri yn ymweld â gardd go arbennig yng Nhydweli.
Cân draddodiadol am forwr yn mynd ar daith yr holl ffordd i'r Eil o Man - mewn padell ffrio!
Mae'n ddiwrnod poeth iawn a mae'r tyrchod yn dioddef yn y gwres.
Ar ôl 30 mlynedd yn gweithio yn y Caffi, mae Crugwen yn ymddeol ac mae Cadi a'r dreigiau'n trefnu parti syrpreis iddi, ond pan nad yw hi'n cyrraedd y gwaith mae angen iddyn nhw fynd i chwilio amdani.
Mae Giamocs yn dod lan hefo cynllun clyfar i'w chael hi a Chîff mewn i'r Crawcdy. Ond wedi cyrraedd yno, mae'n ymddangos falle nad yw'r cynllun mor glyfar wedi'r cwbl¿
Ymunwch â Kim a Cai ar antur hudolus a chwareus sy'n llawn dawns a cherddoriaeth wrth iddyn nhw chwilio am gragen newydd i Cranc!
Mae Coch a Glas yn cyfarfod ffrind newydd, Gwyrdd.
Dewch ar antur gyda ni i gwrdd ac anifeiliaid bach y byd. Yn y rhaglen hon cawn ddysgu mwy am y Morlo a'r Twcan.
Anturiaethau Guto Gwningen a'i ffrindiau.
Tro mor ladron ifanc Ysgol Gelli Onnen yw hi heddiw i herio Capten Cnec a'u dasgau.
Mae gan Pablo ei ffordd ei hun o weld y byd, ac o deithio o'i amgylch. Pan mae creision yn mynd i bobman, mae'n rhaid i Pablo a'r anifeiliaid deithio i ben mynydd, i waelod y môr ac i'r lleuad i'w cael nhw'n ôl.
Ceir Cwl. Yn y bennod yma byddwn yn dysgu am bopeth sy'n ymwneud â cheir. Edrychwn ar y ceir cyntaf, ac ewn i Unol Daleithiau America i ddysgu am Henry Ford, oedd yn gyfrifol am un o'r ceir mwyaf poblogaidd erioed. Edrychwn ar geir modern electronig hefyd.
Ar yr antur popwych heddiw mae'r ffrindiau'n cael cystadleuaeth cerdded mynydd. Mae pwy bynnag sy'n cyrraedd Mynydd Copa Pop gyntaf yn cael gwobr arbennig. Mae Mai-Mai yn benderfynol o ennill, ond pan mae'n anghofio edrych ar y map ac mae'r siwrne i'r copa yn mynd yn anoddach na'r disgwyl. All Mai-Mai arwain ei thîm i ben Mynydd Copa Pop'
Ar y Newffion heddiw byddwn ni'n clywed mwy am drychfilod ymhob rhan o Gymru. Mae bwystfil wedi ei weld yn crwydro'r Bala, a'n gohebydd ni fu'n holi'r trigolion. A mwy o newyddion plant Cymru yn Newffion Ni.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Elin Fflur sy'n siarad gyda'r actor Richard Elfyn y tro hyn, i ddysgu mwy am ei fywyd personol a'i yrfa.
Catrin Herbert a Cat Morris fydd yn westeion heno, i son am bodlediad Pob Lwc Babe.
I Glynderwen awn ni heno sydd arbwys Narberth yn Sir Gaerfyrddin. Dwy ferch ifanc sydd au bryd ar wneud elw drwy adnewyddu ty yn y pentref. Ond cyn cychwyn y gwaith - rhaid clirio eiddo oes y perchnogion oedd yn byw yna o'r blaen.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Cyfres gylchgrawn gydag eitemau coginio a ffasiwn a chyngor am bopeth o addurno'ch cartref i ddewis llyfr da.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Y digrifwr o Majorca Ignacio Lopez sydd a'r her o ddysgu Cymraeg y tro hwn. Yn cadw cwmni iddo ac yn ei roi ar ben ffordd mae cawr comedi Cymru ¿ Tudur Owen.
Rhaglenni ar gyfer y plant iau ar ôl ysgol.
Beth sy'n mynd i fyny': Pan mae Barcud Mo yn mynd yn sownd ar ben tô swyddfa, mae'r Tîm yn gwybod sut i gadw eu traed ar y ddaear.
Mae Gwesty Sigldigwt ar agor! Ymunwch gyda Tref y ci, Elin a Berian wrth iddynt edrych ar ôl pob math o anifeiliaid gyda help eu ffrindiau ifanc. Heddiw cawn gwrdd â sawl ci bach ac Enfys a'i moch cwta.
Mae Bela drws nesa wrth ei bodd yn garddio ac yn falch tu hwnt o'i blodau lliwgar. Pan aiff rhai ar goll, mae'n gwybod pwy sydd ar fai - Anni - ond tybed pam'
Pan aiff Dan i chwilio am Pigog yn y Coed Gwyllt heb ei sbectol, mae'r gwencïod yn chwarae tric cas arno ac mae'n syrthio mewn i ffos gyda Pigog. Fyddan nhw'n llwyddo i ddianc a thrwsio sbectol Dan'
Rhaglen i blant lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, tirwedd, plant a'r diwylliant yno.
Hwyl a sbri a chyfresi di-ri ar gyfer plant a phobl ifanc.
Tra'n delio ag achos o ymlediad, mae'r cwsgarwyr yn mynd a dafad gorniog yn ôl i'r byd breuddwydion ac yn sylweddoli bod rhywbeth tywyll yn datblygu yno...
Fersiwn criw Stwnsh o stori nawddsant cariadon Cymru ¿ Santes Dwynwen. Dêts gwael, a dod o hyd i gariad, ¿ a'i golli ¿ dilynwch daith Dwynwen i Ynys Llanddwyn!
Cyfres lle bydd Aled Samuel a'r hanesydd adeiladau, Bethan Scorey yn edrych ar wahanol fathau o gartrefi yng Nghymru ¿ o fythynnod i dai gweithwyr, fflatiau i dai Eco Gyfeillgar. Byddwn yn agor y drws ar hanes pensaernïol Cymru. Yn y rhaglen hon byddwn yn edrych ar fythynnod.
Yn dilyn y ffrae rhwng Mel a Kay mae'n ryfel oer yn nhy'r Ks ac wrth i Ken a Kelvin geisio datrys pethau mae perygl iddynt wneud pethau'n waeth. Tra mae Lea'n falch fod pethau'n mynd yn dda i Mathew ar yr app dêtio, mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth i Anna wrth iddi ddal dig yn erbyn Ioan a Mair am eu cynllun i gael Elliott yn gariad iddi. Ac wrth i Sian ddangos consyrn am Geraint ar ôl eu sgwrs onest am sefyllfa'i briodas bydd hi'n anos i'r ddau frwydro'n erbyn y sbarc amlwg sydd rhyngddynt.
Rhaglen gylchgrawn nosweithiol gyda straeon o bob cwr o Gymru.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Cyfres goginio newydd gyda Colleen Ramsey. Mae bywyd a bwyd yn dod law yn llaw i Colleen. Yn y rhaglen yma mae'n dangos i ni sut gallwch chi greu prydiau sy'n apelio i bobol ffyslyd. Mae Aaron a'r plant yn dod draw i fwyta eu hoff basta gyda saws Nana.
Yn y rhaglen hon mae Sioned yn dangos sut i luosogi planhigion drwy wneud torriadau gwaelodol ac Adam yn brysur yn trwsblannu yn yr ardd lysiau. Draw ym Mhant y Wennol mae Meinir yn canu clodydd y Verbena Bonariensis ac yn creu cafn plannu o hen ddodrefnyn.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Arwel Williams, Porthmadog sydd wrth ei fodd yn crwydro cefn gwlad Dwyfor Meirionnydd yn llnau simneiau a sgwrsio da'r cwsmeriaid, ac wedyn beicio ar benwythnosau.
Rhagolygon tywydd yr wythnos.
Rhaglen uchafbwyntiau yn dilyn digwyddiad rasio modur Rali Islas Canarias 2025, a gynhaliwyd dros bedwar diwrnod o (24 i 27 Ebrill).
Ym mhennod ola emosiynol y gyfres mae y Gwesty yn helpu Myra Williams, 91 oed, i ddod o hyd i fedd ei brawd bach, sydd ar goll ar ochr arall y byd, ers dros 70 mlynedd. Mae yna aduniad i Ian Thomas, sydd wedi bod yn chwilio am ei chwaer ers dros 10 mlynedd.
Dyma ail gyfres Y Sîn gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy, cyn enillwyr Dysgwyr y Flwyddyn yr Eisteddfod, yn bwrw golwg dros y sin creadigol ifanc yng Nghymru. Yn y bennod yma byddwn yn cyfarfod cynllunydd theatr dawnus, yn dysgu am ddrymiau ym Mhont-y-clun, ymuno hefo gweithdy creu zines ac yn profi tirwedd ddylanwadol Merthyr Tudful