Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.
Mae'r Tralalas eisiau gwybod pa mor hir ydi'r afon a lle mae'n darfod. Er mwyn gweld maen nhw'n dilyn yr afon a gweld nifer o bethau ar y daith. Allwch chi ddilyn yr afon hefyd a dweud lle mae'r hi'n darfod'
Pan mae Twm Twcan yn dod o hyd i gist ar y traeth, mae'n arwain at ddiwrnod yn llawn cerddoriaeth hyfryd.
Mae Francois yn cael trafferth â gwylanod. Pwy all ei achub' Y Pawenlu wrth gwrs.
Mae hi'n Ŵyl Ganol Haf a Llwyd yw'r llywydd. Ond pan mae Llwyd yn mynd yn styc yn ty, sut all yr ŵyl ddechrau hebddo'
Mae Gwesty Sigldigwt ar agor! Ymunwch gyda Tref y ci, Elin a Berian wrth iddynt edrych ar ôl pob math o anifeiliaid gyda help eu ffrindiau ifanc. Heddiw cawn gwrdd â Bili bochdew, moch cwta a Gwen a'i Alpaca.
Pan mae Fflwff yn cael ei orchuddio mewn siocled, mae Brethyn yn darganfod mai cariad yw'r ffordd orau o olchi Fflwff budr!
Mae pawb wrth eu bodd heddiw gan fod parti ar y traeth; pawb heblaw Lisa Lân. Ar ôl i'w ffrindiau ddwyn perswâd arni, mae hi'n ymuno yn yr hwyl tan bod rhaid iddi fynd i mewn i'r môr.
Sut mae Anni'n bwriadu cael gwared ar y bananas ych a fi mae Mam-Gu wedi roi yn ei bocs bwyd' Beth bynnag y datrysiad, mi fydd yna annibendod ymhobman!
Tydi Jetboi na Jetferch ddim yn cymryd hen jet eu rhieni o ddifri', nes i Peredur Plagus greu helynt gyda'i ddyfais clogyn newydd - dim ond yr hen jet all ei rwystro.
Timau o Ysgol Bronllwyn sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau llwigar! Pa dîm all gasglu y mwyaf o ddannedd glan ac ennill Tlws Dani Dant heddi'
Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.
Anturiaethau criw dewr sy'n gweithio gyda'i gilydd i achub creaduriaid y môr.
Dewch ar antur gyda ni i gwrdd ag anifeiliaid bach y byd. Yn y rhaglen hon y llwynog a'r wenynen sy'n hawlio'r sylw.
Mae gan Pablo ei ffordd ei hun o weld y byd, ond pan mae o eisiau edrych o gwmpas y siop degannau, mae'r tegannau i gyd yn hwylio i fynd i'r gwely am fod y siop ar fîn cau.
Cyfres gomedi i blant meithrin sy'n cynnwys sgetsys, eitemau doniol, jôcs a chymeriadau dwl newydd sbon.
Traeth ar ben to: Mae cael traeth ar ben tô yn swnio'n hwyl, onibai am y cymylau diddiwedd sy'n taro cysgod dros y cyfan!
Ymunwch â Kim a Cêt ar antur hudolus a chwareus sy'n llawn dawns a cherddoriaeth wrth iddyn nhw chwilio am Twrch yn y goedwig.
Rhaglen i blant lle da ni'n ymweld a gwledydd y byd i ddysgu am yr hanes, tirwedd, plant a'r diwylliant yno.
Ar yr antur popwych heddiw mae Help Llaw wedi adeiladu llwyfan i fand! All Mai-Mai a'i band newydd weithio gyda'i gilydd i gyfansoddi cân anhygoel'
RHAGLEN 5 Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Meleri a'r criw yn ymweld a Chastell Henllys. Bydd Gwri, Syfi ac Esli yn cerdded rhan o lwybr arfordir Cymru a Huw yn cwrdd a rhai o aelodau ifanc tim pel droed merched Caernarfon.
Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.
Mae'r Tralalas yn gwybod bod ailgylchu yn beth da i'w wneud ac yn hwyl hefyd! Gwydr, papur, caniau, ac os da chi wedi bod yn garddio mae biniau ar gyfer gwastraff gardd hefyd. Mae Bop yn ailgylchu rhywbeth i wneud pyped, allwch chi gofio be mae o 'di ddefnyddio'
O diar, mae Huwcyn Hwyaden wedi colli ei lais. Tybed i ble'r aeth e'
Beth sydd yn gwneud i drigolion Porth yr Haul hedfan' Mae Gwil a'r cwn yn barod i achub pawb drwy drwsio llong ofod yr estroniaid.
Mae Gwich yn ceisio dysgu rheolau barddoniaeth i Dan, Pigog a Crawc. Ond mae cerdd Pigog yn cael ei chwythu ffwrdd gan y gwynt cryf. Fydd Gwich a Pigog yn gallu ei dal ¿ neu Dan a Crawc ei chofio - cyn iddi ddiflannu am byth'
Mae Gwesty Sigldigwt ar agor! Ymunwch gyda Tref y ci, Elin a Berian wrth iddynt edrych ar ôl pob math o anifeiliaid gyda help eu ffrindiau ifanc. Heddiw cawn gwrdd â Shani y poni ac Annie a'i chŵn defaid.
Mae diferion o ddŵr yn disgyn o'r to! Mae Fflwff wedi'i hudo gan ddwr ond 'dyw e ddim eisiau gwlychu! Gall y ddau ffrind ddod o hyd i ffordd o ddal y dwr ac aros yn sych'
Heddiw, mae na barti mawr i ddathlu agoriad Caffi Cwmtwrch, ond dydi Emrys ddim mewn hwyliau dathlu o gwbl.
Mae Gwyneth Gwrtaith wedi gweu siwmper 'hyfryd' i Maldwyn Mwd, ond mae'r plant yn credu ei fod yn siwtio'r bwgan brain yn well.
Pan fydd Lili Lafant yn creu persawr pwerus sy'n ei gwneud hi'n gyflymach na Jetboi, mae yntau'n sylweddoli bod ateb arall heblaw cyflymder.
Timau o Ysgol Bryniago sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau lliwgar! Pa dîm all gasglu y mwyaf o ddannedd glan ac ennill Tlws Dani Dant heddi'
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Sgwrsio, hel atgofion a chanu dan y lloer a hynny yng nghwmni'r fytholwyrdd Tammy Jones draw yn Nyffryn Ogwen
Ni'n fyw o premiere Mr Burton ym Mhort Talbot, ac mae Lisa Gwilym a Llyr Ifans yn ymuno gyda ni yn y stiwdio.
Cyfres newydd sbon o Ty Am Ddim. Heddiw 'da ni yng Nghasnewydd efo dau ifanc sydd yn dal i fyw adra. Ar ol prynu ty mewn ocsiwn mae chwech mis ganddynt i adnewyddu cyn orfod gwerthu. Fydd na ddigon o elw ar y diwedd iddynt allu fforddio blaendal ar eu tai eu hunain'
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Mae Carys a Dyfed yng nghornel y colofnwyr ac mae Michelle yn coginio'r swper perffaith yn y gegin.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Mewn cyfres dair rhan, Jon Gower sy'n olrhain hanes y Castell - yma yng Nghymru, dros y ffin a draw ar y cyfandir.
Rhaglenni ar gyfer y plant iau ar ôl ysgol.
Does neb yn deall pam fod tryc Fflamia yn denu gymaint o fetel, tan darganfod magned Mawr ynddo.
Mae Anni a Lili yn cael tafferth hefo'r seinydd clyfar ac yn archebu pethau annisgwyl wrth geisio holi am gerddoraieth.
Mae Mrs Tanwen Twrch wedi cael cynnig hen gwpwrdd dillad Miss Petalau
Timau o Ysgol Awel Taf sy'n ymuno â Pwdryn a Melys i chwarae llond trol o gemau lliwgar! Pa dîm all gasglu y mwyaf o ddannedd glan ac ennill Tlws Dani Dant heddi'
Hwyl a sbri a chyfresi di-ri ar gyfer plant a phobl ifanc.
Mae bywyd yn y gwyllt yn gallu bod yn brysur iawn felly mae'n bwysig i gael cwsg pryd bynnag chi'n gallu. Rydym yn edrych ar ddeg bwystfil sy'n hoffi ymlacio.
Cyfres wyddoniaeth newydd sy'n mynd ati i egluro sut mae'r byd o'n cwmpas yn gweithio. Heb liw, byddai'r byd yn le tipyn gwahanol, ac yn llawer llai prydferth siwr o fod. Ond sut ydyn ni yn gweld lliw, a sut mae'n ymennydd ni ac hefyd creaduriaid o fyd natur yn dehongli ac yn defnyddio lliw' Dyma rai o'r cwestiynau lliwgar fydd y gwyddonydd Bedwyr ab Ion Thomas yn mynd ati i'w hateb!
Mae darganfod y Goron Rheoli yn haws na'r disgwyl pan mae'r criw yn cyfarfod Arglwydd yr Anifeiliaid ond mae ei gael yn ôl i'r Byd Byw yn llawer anoddach.
Iolo Williams sy'n edrych ar fywydau cudd rhai o'r mamaliaid bach mwyaf amlwg ac annwyl yng nghefn gwlad Cymru.
Mae cynlluniau Rhys a Trystan am noson fach dawel yn y fflat yn cael eu chwalu gan ymwelydd annisgwyl. Mae cynlluniau Anna'n gorfod newid ar y funud ola' hefyd; mi oedd hi wedi edrych ymlaen at gael treulio dipyn o amser efo Mair. Dydy Elen a Mathew ddim yn edrych ymlaen o gwbl at y gwaith o gwtogi niferoedd staff yr ysgol, yn enwedig gan bod dyfodol sawl un o'u ffrindiau yn y fantol, a thra bod Philip yn casau gorfod mynd i edrych ar geginau newydd, ar ôl dod adra mae'r newyddion gwaetha' iddo.
Rhaglen gylchgrawn nosweithiol gyda straeon o bob cwr o Gymru.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Mae'r newyddiadurwraig, Maxine Hughes, yn gofyn pam fod cynnydd yn nifer y bechygyn yn eu harddegau yng Nghymru sy'n cael eu radicaleiddio gan grwpiau neo-Natsïaidd.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Islwyn Rees sydd wedi ffermio Esgairmaen yng Nghwm Clywedog ar hyd ei oes gan wynebau sawl her, gan gynnwys colli tir ffrwythlon pan foddwyd y cwm er mwyn creu'r llyn yng nghanol y 1960au.
Rhagolygon y tywydd.
Cyfres llawn cyffro pêl-droed y pyramid Cymreig. Uchafbwyntiau o'r Cymru Premier JD wrth i Hwlffordd herio Caernarfon yn y Chwech Uchaf, tra bo'r Barri yn croesawu'r Drenewydd mewn gêm hollbwysig yn y Chwech Isaf.
Mae drysau Gwesty Aduniad yn agored unwaith eto. Mae Caris Bowen o Borth Tywyn isio dweud diolch wrth rhywun arbennig oedd yn gefn iddi yn ei harddegau, a Peter Jones yn dod i'r Gwesty i ofyn am help wrth iddo chwilio am ei dad gwaed. Mae'r Gwesty hefyd yn croesawu Chris Schoen sydd am gwrdd ag Arleen o Boston, UDA - ac am gynnal seremoni emosiynol i gofio dewrder ei nain a'i daid yn ystod yr Ail Rhyfel Byd.
Ym mhennod ola'r gyfres wrth i Dilwyn a John ddirwyn tuag at ddiwedd eu taith, maent yn ymweld â Wales yn nhalaith Wisconsin. O faneri'r ddraig goch i enwau strydoedd, maent yn rhyfeddu at yr holl arwyddion adawodd y sefydlwyr o Gymru ym mhob man. Caiff Dilwyn ei urddo i frawdoliaeth enwog beicwyr Harley Davidson yn nhref Milwaukee gerllaw, tra bod John yn darganfod mai Cymry o Fôn, ac nid Almaenwyr ddechreuodd fragu yn y ddinas enwog a gaiff ei galw'n brifddinas fragu'r byd. Daw'n amser wedyn i
Rhagolygon y tywydd.