Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.
Mae Lleia'n cael gwers bale, ac mae Mymryn yn ymuno am y tro cyntaf, dan arweiniad Cari Crëyr a'i choesau hir. Mae'r symudiadau gosgeiddig, sy'n hawdd i Cai, yn anodd i Mymryn. Ond mae Lleia'n cael syniad am ffordd o greu coesau crëyr i Mymryn hefyd.
Helo, siwd mae' Sut wyt ti' Croeso mawr i'r Jamborî! Ymunwch a Jam ar daith llawn synau, cerddoriaeth a lluniau lliwgar - bydd cysgodion yn dawnsio, robotiaid yn chwarae a ffrwythau yn symud, hyn a lot mwy ar Jamborî!
Anturiaethau Tomos a'i ffrindiau.
Pan fydd Blero'n helpu Rheinallt i bobi mae pethau'n mynd o chwith wrth iddo gael y mesuriadau'n anghywir. A fydd y ffrindiau'n dianc rhag y toes enfawr sy'n ymledu drwy Ocido'
Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Meleri a'r criw yn cyfeiriannu ym Mharc Craig y Nos, bydd Alys a'i ffrind Mila yn gwersylla a bydd Huw ac Elan yn syrffio ym Mae Caswell.
Cyfres animeddedig gyda chaneuon a hwiangerddi traddodiadol a chyfoes. Y tro hwn mae "Un a Dwy a Thair" yn gân sy'n ymarfer cyfri i ddeg
Mae Hywel y ffermwr hud yn tywys Betsan ar antur i Fferm Fach i ddod o hyd i arlleg fel bod hi'n gallu pobi bara garlleg.
Mae Storm Dewi wedi cyrraedd y dyffryn, ac mae Cadi'n cael galwad yn dweud fod coeden wedi ei tharo'i lawr ar y cledrau felly i ffwrdd a Cadi a'r dreigiau i ddatrys y broblem. Nid yw'n hir cyn bod angen help ychwanegol arnynt ac maent wedi defnyddio'r ffôn mewn ty cyfagos. Ty lle mae'r perchennog newydd wedi gwneud bisgedi. Bisgedi na all dwy ddraig ifanc eu hanwybyddu!
Tydi Deian ddim yn deall pam fasa Loli eisiau treulio amser ar ei phen ei hun yn darllen yn lle chwarae Bleiddiaid a Dreigia'! Wrth gerdded yn bwdlyd mi ddaw ardraws y clwb perffaith iddo,Clwb Unig! Fydd Loli yn gallu ei berswadio i ddod nôl adref neu fydd o'n aelod o'r Clwb am byth'
Mae rysáit parmagiana planhigyn wy mamgu Mama Polenta ar goll ac mae Mario a Jay'n ceisio ei ail greu drwy ddefnyddio eu hoff fwydydd.
Mae Rocco a Malcolm Allen o'r Warws Werdd wedi gofyn i Harri ddod draw i beintio wal.
Cyfres wyddoniaeth i blant bach gyda Tudur Phillips a'i ddau ffrind, Sbarc y gwyddonydd a Nef y Ditectif Natur.
Cyfres i blant meithrin am gath fath fywiog sy'n hoffi cerbydau o bob math.
Cyfres animeiddio i blant meithrin am ddraig fach o'r enw Digbi.
Mae'r môr-ladron Ben Dant a Cadi wedi glanio ar Ynys Bendibelliawn, ond mae'r hen gapten drewllyd Capten Cnec wedi glanio yno'n barod ac wedi cipio'r ynys. A fydd y criw o forladron bach o Ysgol Pwll Coch yn llwyddo i helpu Ben Dant a Cadi i drechu Capten Cnec a chipio'r ynys yn ôl'
Rhaglenni llawn hwyl i'r plant lleiaf.
Mae'r Pitws Bychain yn tacluso'r goedwig, gan ailgylchu'r sbwriel maen nhw wedi ei gasglu. Ond mae Mymryn yn ailgylchu hoff gwpan Mistar Robin Goch - wps! Gan wybod mor hoff y mae ohoni, mae'r Pitws Bychain yn penderfynu gwneud un newydd o sbwriel y goedwig.
Croeso mawr i'r Jamborî! Ymunwch a Jam ar daith llawn synau, cerddoriaeth a lluniau lliwgar - bydd cysgodion yn dawnsio, robotiaid yn chwarae a ffrwythau yn symud, hyn a lot mwy ar Jamborî!
Mae Nimbwl yn rhy bryderus i fynd am ei fathodyn Clwb Cymylau cyntaf. Mae Blero a'i ffrindiau'n cynnig cynllun i'w helpu i drechu'i nerfusrwydd ac achub Ocido rhag damweiniau dirgel.
RHAGLEN 5 Ymunwch gyda Meleri a Huw wrth iddyn nhw grwydro Cymru a chael pob math o antur yn yr awyr agored. Heddiw, bydd Meleri a'r criw yn ymweld a Chastell Henllys. Bydd Gwri, Syfi ac Esli yn cerdded rhan o lwybr arfordir Cymru a Huw yn cwrdd a rhai o aelodau ifanc tim pel droed merched Caernarfon.
Yn y gân draddodiadol "Mae Gen i Dipyn o Dy Bach Twt", cawn hanes am dy bach ar lan y mor.
Mae Betsan eisiau gwybod mwy am asparagws, felly mae Hywel y ffermwr hud yn ei thywys i Fferm Fach i ddangos iddi sut mae'n cael ei dyfu.
Ai caws yw'r lleuad' Gall Odo a Dwdl fynd I'r lleuad a dod nol a darn I bawb yn y Gwersyll' Cawn weld.
Mae Cadi a'r dreigiau yn mynd i weld eu hoff raglen yn cael ei ffilmio.
Ma'r efeillaid yn edrych ymlaen i fwyta crempog, ond ma 'na greadur bach arall sydd yn awyddus i fwyta eu brecwast, pry cop o'r enw Prys! Tydi Dad ddim yn hapus am hyn ac wrth geisio achub Prys daw'r efeilliaid wyneb yn wyneb ag Arach-Ned sydd llawr mwy dychrynllyd na phry copyn!
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Mae Scott Quinnell yn mynd ar siwrne unwaith eto ar hyd a lled Cymru gan droi ei law at pob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth cael llond bol o hwyl. Bydd Scott yn dychwelyd i'w filltir sgwâr cyn mynd ar antur mewn cwrwgl ar yr Afon Tywi a rhyfeddodau yna'n ei ddisgwyl yn Nhregaron.
Mae'r cyflwynwyr Ifan Jones Evans a Terwyn Davies yn westeion ar y soffa ac mae Rhodri wedi bod i sgwrsio gyda'r canwr, Ryan Vaughan Davies.
Cyfres lle bydd Aled Samuel a'r hanesydd adeiladau, Bethan Scorey yn edrych ar gartrefi Cymru drwy'r oesoedd. O oes y Tuduriaid hyd heddiw, byddwn ni'n agor y drws ar hanes ein cenedl drwy bensaernïaeth. Yn y rhaglen hon byddwn yn edrych ar dai o'r 1960au a'r 1970au.
Tair cenhedlaeth sy'n troi'r tir ar fferm fynydd Defaidty yng Nghwmtirmynach, Bala. Taid Gwyn a'i fab Alan, wedi cynrychioli Cymru mewn Treialon Cwn Defaid.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Cyfres gylchgrawn gydag eitemau coginio a ffasiwn a chyngor am bopeth o addurno'ch cartref i ddewis llyfr da.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Dilynwn yr ymdrechion i dorri recordiau Guinness World Records Cymru 2025. Bydd menywod cryf yn cystadlu yn erbyn ei gilydd ar lan Llyn Padarn am yr amser cyflymaf i dynnu Injan! Tra yn Sir Gâr fydd ymgais i dorri'r record am y nifer fwyaf o flodau (go iawn) ar ffrog a'r nifer fwyaf o droelliadau gan gr¿p (mewn relay) mewn un awr. Yng Nghaerdydd, bydd dwy efaill yn anelu i dorri record anhygoel ar raff trapeze! Alun Williams a Rhianna Loren sy' yma i dorri mwy o recordiau Guinness World Records!
Rhaglenni ar gyfer y plant iau ar ôl ysgol.
Mae Megan yn mynd ar antur i Fferm Fach i weld o ble mae'r dwr sy'n cyrraedd y ty yn dod a sut mae'n cael ei lanhau.
Pan fo'r haul yn diflannu'n rhyfedd ddigon, mae Blero a'i ffrindiau'n gwibio i'r gofod i weld beth sy'n digwydd ac yn dod ar draws hen ffrindiau. Oes modd iddyn nhw ddod â'r haul yn ôl neu a fydd Ocido mewn tywyllwch am byth'
Beth sy'n digwydd ym myd Deian a Loli heddiw, tybed'
Hwyl a sbri a chyfresi di-ri ar gyfer plant a phobl ifanc.
Anturiaethau Oscar y fadfall a'i ffrindiau yn yr anialwch chwilboeth.
Ymunwch â Rhys ac Aled Bidder am yr arbrofion gwyddonol sy'n rhy beryglus i'w gwneud adre'. Heddiw, ffrwydro offerynnau cerddorol, eich dyfeisiau chi i'r dyfodol ac arbrofion rhew sych yn y stiwdio.
Mae Lloyd yn ceisio addysgu PB am berygl pryfed cop trwy ddenu un allan gyda phryf decoy. Mae ei ymdrechion trwsgl yn denu pry copyn chwilfrydig o'r enw Julie ac mae PB eisiau bod yn gyfaill iddo ar unwaith. A all Lloyd dderbyn efallai nad yw rhai pryfed cop mor ddrwg â hynny'
Cipolwg yn ôl dros rai o uchafbwyntiau rhaglen dydd Sadwrn.
Ail gyfres o'r rhaglen sy'n canolbwyntio ar fyd y ceffyl gan ddilyn gwahanol gyfranwyr ac amryw o fridiau.
Mae'r cogydd Bryn Williams yn teithio dros y dwr i Ffrainc yn y gyfres hon i ail-ddarganfod ei wreiddiau coginio.
Rhaglen gylchgrawn nosweithiol gyda straeon o bob cwr o Gymru.
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Mae Iolo yn dod i benderfyniad os ydy am helpu Alex neu beidio. Mae Eleri yn gwneud cynnig i Hywel sy'n anodd iawn ei wrthod.
Mae'n ddiwrnod agored elusennol yn yr Iard ac mae Iestyn yn mwynhau'r trefnu er ei fod yn teimlo'r pwysau. Mae Gwenno hefyd dan bwysau, ond poeni am ei dyfodol y mae hi, yn hytrach nag am lwyddiant y diwrnod. Er mawr cywilydd a phoen meddwl i Trystan, dydy hi ddim yn edrych fel bod gan ei dad boen yn y byd. Siawns bod rhaid i hynny newid cyn hir. Mae'r tensiwn yn cynyddu yn nhy'r K's, yn enwedig pan mae Kay'n trio helpu i fagu'r bychan yn ei ffordd di-hafal ei hun!
Newyddion S4C a'r Tywydd.
Am y tro cyntaf erioed, cawn gipolwg tu ôl i'r llenni ar un o Wardiau Plant prysuraf Gogledd Cymru. O gyflyrau meddygol cymhleth i heintiau syml ar y frest - mae staff Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan wedi gweld y cyfan. Ond pan ddaw un goroeswr canser bach yn ôl i ganu'r gloch, nid oes llygad sych yn y ty.
Uchafbwyntiau gêm Cynghrair Cenhedloedd Merched UEFA 2025 rhwng Sweden a Chymru o Stadiwm Gamla Ullevi, Gothenburg.
Ymunwch â Lauren Jenkins a'r tîm ar gyfer uchafbwyntiau o'r rownd ddiweddaraf o Super Rygbi Cymru a hefyd Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Dynion Cymru.