Bois y Pizza: Chwe' Gwlad
Bois y Pizza: Chwe' Gwlad
Yr Eidal
Draw i'r Eidal yw hi yr wythnos hon - ac mae 'na newidiadau. Mae Smokey Pete yn cael ei orffwys ac mae'r bechgyn wedi codi Fiat 500 steilus yn ei le. Maen nhw ar eu ffordd i Rovigo. Tref ag obsesiwn â rygbi a hynny oherwydd hyfforddwr arbennig iawn - y chwedlonol Carwyn James. Byddan nhw'n cwrdd â'r bobl sy'n cofio'r g¿r o Gefneithin gydag anwylder. Yna i Ferrara lle mae bwyd yn cwrdd â hanes. Y bar hynaf yn y byd, gwneud pasta gyda Nonna Eidalaidd ac yna cwrdd â Pierluigi - cogydd mawr y ddinas
- Rhannu
- Fersiwn iaith arwyddo