Chwe stori drosedd fawr a newidiodd Gymru. Fesul pennod, bydd Sian yn ein harwain drwy ddigwyddiadau syfrdanol stori drosedd, gan ymweld â lleoliadau sylweddol a chwrdd â'r rhai y mae eu bywydau wedi'u heffeithio'n uniongyrchol - o ddioddefwyr i ffrindiau a theulu, a'r gymuned ehangach. Bydd Sian yn clywed eu hanes o'r drosedd a'i heffaith barhaol.
Rhaglen arbennig yn dathlu taith trawsnewid Dylan, Sharon, Arwel, Gwawr a Becky wrth i ni edrych yn ôl dros ddeufis o ddilyn cynllun iach Ty Ffit. Bydd Lisa Gwilym yn holi, eu mentoriaid yn rhoi eu cyngor olaf a Dr Sherif - meddyg y gyfres yn rhannu canlyniadau meddygol ¿ beth fydd effaith dilyn cynllun iach Ty Ffit dros ddeufis ar iechyd y pump'
Am y tro cyntaf erioed, cawn gipolwg tu ôl i'r llenni ar un o Wardiau Plant prysuraf Gogledd Cymru. O gyflyrau meddygol cymhleth i heintiau syml ar y frest - mae staff Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan wedi gweld y cyfan. Ond pan ddaw un goroeswr canser bach yn ôl i ganu'r gloch, nid oes llygad sych yn y ty.
Rhaglen deithio lle bydd y cerddor Gwilym Bowen Rhys yn ymweld â'r Wladfa ym Mhatagonia er mwyn darganfod mwy am hanes y Cymry ymfudodd yno yn 1865. Bydd Gwilym yn cwrdd â nifer o bobl leol ar hyd a lled y Wladfa wrth iddo ddysgu am yr hanes, yr iaith, y gerddoriaeth a'r diwylliant. Mae taith Gwilym yn cychwyn ym Mhorth Madryn wrth iddo ddysgu am hanes y Cymry gobeithiol laniodd yno ar fwrdd y Mimosa.
Yn rhaglen olaf y gyfres mae'r cogydd tanbaid Chris 'Flamebaster' Roberts yn mentro i Barcelona yng Nhatalonia i ddarganfod diwylliant bwyd bywiog y ddinas yng nghwmni'r cerddor Cerys Matthews. O tapas mewn bariau vermuth i ddosbarth meistr paella, bydd Chris yn cael profiadau bwyta bythgofiadwy.
Mae Scott Quinnell yn mynd ar siwrne unwaith eto ar hyd a lled Cymru gan droi ei law at pob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth cael llond bol o hwyl. Bydd Scott yn dychwelyd i'w filltir sgwâr cyn mynd ar antur mewn cwrwgl ar yr Afon Tywi a rhyfeddodau yna'n ei ddisgwyl yn Nhregaron.