Mae'r camerâu yn ôl unwaith eto yn Ystwyth Fets yn Aberystwyth. Ers canrif a mwy dyma le mae'r milfeddygon wedi brwydro hyd ddiwedd eu gallu i edrych ar ôl anifeiliaid Ceredigion. Y tro yma ar Y Fets, mae Alwenna y nyrs yn ceisio dod o hyd i gartref i'w ffrind newydd - Frankie y feret. Mae gan Phil achos brys i ddafad fynd i drafferth wrth eni gefeilliaid. Ac mae Glesni'n brwydro i achub ci bach pedwar mis oed.