Rhaglen arbennig yn dathlu taith trawsnewid Dylan, Sharon, Arwel, Gwawr a Becky wrth i ni edrych yn ôl dros ddeufis o ddilyn cynllun iach Ty Ffit. Bydd Lisa Gwilym yn holi, eu mentoriaid yn rhoi eu cyngor olaf a Dr Sherif - meddyg y gyfres yn rhannu canlyniadau meddygol ¿ beth fydd effaith dilyn cynllun iach Ty Ffit dros ddeufis ar iechyd y pump'
Yn rhaglen gyntaf y gyfres bydd Meinir a Sioned yng Ngorslas yn ymweld â gardd Adam Jones, sy'n ymuno â thîm cyflwyno'r gyfres eleni. Byddwn hefyd yng Ng¿yl Degeiriannau Gerddi Kew yn Llundain, a chawn flas o'r Gwanwyn mewn coedwig yn ardal Conwy lle mae Cennin Pedr gwyllt yn drwch.
Dyma ail gyfres Y Sîn, gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy yn bwrw golwg dros y sîn creadigol ifanc yng Nghymru. Yn y bennod yma mae Owain Williams yn hybu cerddoriaeth o Gymru mewn sawl ffordd greadigol. Mae Gwenno Llwyd Till yn cychwyn prosiect ffotograffiaeth ac mae'r artist Paul Eastwood yn arwain gwaith cymunedol yn Wrecsam.