Cyfle arall i weld rhaglen ddogfen onest a threiddgar am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen - mae bellach yn ddeng mlynedd ers iddo farw. Mae'r rhaglen yn codi'r llen ar y cymeriad preifat ac enigmatig a ysgrifennodd rai o gerddi enwocaf Cymru ac a fu'n Feuryn Talwrn y Beirdd am 30 mlynedd. Drwy gyfres o gyfweliadau estynedig, mynediad ecsgliwsif i'w gartref, ynghyd â chyfweliadau gydag aelodau o'i deulu, mae'r ffilm-ddogfen hon yn cyflwyno ochr arall i'r persona cyhoeddus ac yn datgelu ei angerdd a'
Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi Scott Quinnell yn mynd ar hyd a lled Cymru yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth gael llond ei fol o hwyl. Yr wythnos hon mae'n mynd i bysgota, Sglefrio Iâ ac yn cael gwers Bîtbocsio
Porthmadog. Mae digon i'w ddarganfod ym Mhorthmadog, ag mae'r tîm ar grwydr yn yr ardal. Bydd Llinos Owen yn tiwnio piano, Siôn Tomos Owen yn canu'r delyn, ag yn mwynhau ei gêm bêl droed gyntaf erioed, Heledd Cynwal yn dysgu am hanes y Cob a'r Ynysoedd sydd yn dal i'w gweld ar gyrrion y dref a Ffion Dafis yn cael tro ar ddringo craig uchel yn ogystal ag addurno ag yna gyrru trên stêm.