Mae'r camerâu yn ôl unwaith eto yn Ystwyth Fets yn Aberystwyth. Ers canrif a mwy, dyma le mae'r milfeddygon wedi brwydro hyd ddiwedd eu gallu i edrych ar ôl anifeiliaid Ceredigion. Y tro yma, mae 'na frys i arbed bywyd Bruno y milgi sydd wedi cael ei daro gan gar; mae 'na benderfyniad anodd yn wynebu perchnogion Twts y bwji; ac mae 'na ddrama wrth i Glesni a Nerys geisio arbed bywyd oen bach.
Rhaglen arbennig yn dathlu taith trawsnewid Dylan, Sharon, Arwel, Gwawr a Becky wrth i ni edrych yn ôl dros ddeufis o ddilyn cynllun iach Ty Ffit. Bydd Lisa Gwilym yn holi, eu mentoriaid yn rhoi eu cyngor olaf a Dr Sherif - meddyg y gyfres yn rhannu canlyniadau meddygol ¿ beth fydd effaith dilyn cynllun iach Ty Ffit dros ddeufis ar iechyd y pump'