S4C:
GWTHIO’R FFINIAU GWASANAETH CYHOEDDUS
CYMRAEG
AR BOB LLWYFAN

Cyflwyniad

Yn dilyn cyfnod hir o alw a dyheu ar ran pobl yng Nghymru, crëwyd S4C yn 1982 gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel y bedwaredd sianel deledu Brydeinig yng Nghymru. Roedd siaradwyr Cymraeg wedi teimlo ers talwm nad oedd y cyfryngau Prydeinig yn eu gwasanaethu’n ddigonol, ac roedd creu S4C, gyda swyddogaeth gwasanaeth cyhoeddus glir ac unigryw ar gyfer darparu gwasanaeth teledu Cymraeg cyflawn, yn mynd yn bell i wynebu’r pryderon a chyfarfod â’r gofyn.

Fyddai S4C ddim yn bodoli oni bai am leisiau’r siaradwyr Cymraeg, ac ers 1982 rydym wedi gwrando’n gyson ar ein cynulleidfa, gan weithio’n ddibaid i gyfarfod â’u disgwyliadau, i ddarparu ystod eang o gynnwys yn yr iaith Gymraeg ac i fod yn berthnasol i’w bywydau – y cyfan o fewn terfynau ein cylch gorchwyl gwreiddiol, toriadau ariannol o bryd i’w gilydd ac ansicrwydd ariannol.

Nid ydym wedi gwneud hyn ar ein pennau’n hunain. Mae’r BBC, ITV Cymru a’r sector gynhyrchu annibynnol yng Nghymru oll wedi bod yn bartneriaid allweddol yn y fenter hon. Eu creadigrwydd a’u talent nhw, gyda’i gilydd, sydd wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu’r ystod eang o raglenni a’r amrywiaeth lleisiau sy’n diffinio’r gwasanaeth.

Ers 2013, mae ein perthynas newydd gyda’r BBC, sy’n seiliedig ar amcanion gwasanaeth cyhoeddus sy’n gyffredin i’r ddau ddarlledwr, wedi creu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio creadigol, wedi’n galluogi i roi cynnwys S4C ar y BBC iPlayer, ac wedi sicrhau mynediad i ffynhonhell ariannol allweddol.

Digwyddodd yr adolygiad allanol diwethaf o S4C yn 2004. Mae hi’n hen bryd felly i gynnal asesiad eang o’i phwrpasau a’i hanghenion ac mae hyn i’w groesawu’n fawr. Mae’r ddogfen hon yn gosod allan gweledigaeth S4C am y ddeng mlynedd nesaf ac fe fydd yn elfen allweddol o’n mewnbwn i’r adolygiad annibynnol.

Yr iaith Gymraeg yw iaith gysefin hynaf Prydain. Yn hynny o beth, mae iddi arwyddocâd diwylliannol, cymdeithasol a hanesyddol pwysig ac rydym yn falch o’r rhan ganolog rydym wedi’i chwarae yn y gwaith o ganiátau iddi ffynnu. Am dros 30 mlynedd, rydym wedi darparu cyfleoedd cyson i bobl glywed a dysgu Cymraeg ac i dderbyn gwybodaeth ac adloniant yn Gymraeg. O ganlyniad, heddiw, mae’r Gymraeg yn dal i fod yn iaith bob dydd fyw a byrlymus ym mywyd cyfoes cymdeithasol a masnachol Cymru. Heddiw siaradwyr Cymraeg yw mwyafrif ein cynulleidfa graidd o hyd: siaradwyr rhugl a rhai llai rhugl, yn byw yng Nghymru, mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig ac mewn gwledydd tramor hefyd.

Mae ein buddsoddiad mewn creu cynnwys wedi dod â sector gynhyrchu annibynnol ffynniannus i fodolaeth, sy’n cynnal swyddi a thwf economaidd ar draws y wlad.

Mae parhâd cefnogaeth llywodraeth y DU i S4C, a’r gefnogaeth drawsbleidiol y mae’r sianel yn ei mwynhau yn medru caniátau i siaradwyr Cymraeg deimlo fod eu hanghenion yn cael eu cyfarfod yn y Brydain gyfoes.

Ond, 35 mlynedd ymlaen o adeg ein lawnsio fel gwasanaeth darlledu cyhoeddus, mae’r byd rydym yn gweithredu o fewn iddo wedi newid tu hwnt i bob adnabyddiaeth. Mae teledu yn ei ddull lliniol traddodiadol yn dal i fod yn sylfaenol bwysig, ond mae amrywiaeth y dulliau y mae pobl yn eu defnyddio heddiw i fwynhau cynnwys, yn ei holl ffurfiau ac ar draws yr holl ddyfeisiadau sy’n bodoli yn ein byd cysylltiedig, yn golygu bod yn rhaid i ddarlledwr anelu at fod ar gael ym mhobman. Er mwyn cystadlu heddiw, rhaid i ni gynnig gwahanol fathau o gynnwys a all gael eu gweld pryd bynnag ac ymhle bynnag y mae’r gynulleidfa yn dymuno ei weld ac ym mha ddull bynnag ac ar ba ddyfeisiadau bynnag, y maen nhw’n dewis gwneud hynny. Mae cynulleidfaoedd byd cyfoes y cyfryngau yn disgwyl hyn fel amod sylfaenol ac mae ein cylch gorchwyl presennol yn ein cyfyngu ni rhag ei ddarparu.

Nid yw ein cynulleidfa heddiw - ac ni fydd cynulleidfa yfory yn sicr– yr un â chynulleidfa deledu yr 1980au. Mae’n llai unffurf ac mae’n agored i atyniadau cannoedd o sianelau teledu ac arlein gwahanol. Mae ganddi well dealltwriaeth o natur cynnwys, mae’n ymwneud yn gyson â’r dechnoleg ddiweddaraf ac mae wedi dod i ddisgwyl mwy.

Mae gan S4C ymrwymiad angerddol i fod yn ddarparwr creadigol, cystadleuol, gydag ymwybyddiaeth fasnachol, o gynnwys Cymraeg deniadol, amrywiol, adloniadol, llawn gwybodaeth, am ddegawdau i ddod. Mae gennym weledigaeth glir, ymarferol ar gyfer y dyfodol, sy’n cael ei gyrru gan anghenion cynulleidfa amrywiol ac sydd â mathau newydd o gynnwys a systemau dosbarthu cynnwys wrth ei chalon. Ond rydym yn credu y bydd y newidiadau mawr sydd eu hangen i gyflawni’r weledigaeth yma, yn ogystal ag i greu perthynas ddwy ffordd agosach gyda chynulleidfaoedd heddiw ac yfory, yn gofyn am ddarlun tymor hir eglur o’n cyllido a’n hatebolrwydd ac adolygiad hir-ddisgwyliedig o’n cylch gorchwyl. Rydym am esblygu o fod yn ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus ugeinfed ganrif traddodiadol i fod yn ddarparwr cynnwys cyfryngau cyhoeddus ym myd cysylltiedig yr unfed ganrif ar hugain.

Huw Jones
Cadeirydd

Ian Jones
Prif Weithredwr