Aled Samuel a Mandy Watkins sy'n mynd â ni ar hyd a lled Cymru i ymweld â gwahanol fathau o gartrefi chwaethus a diddorol. Yn y rhaglen hon byddwn ni'n ymweld ag eglwys sydd wedi cael ei thrawsnewid yn safle aml bwrpas ym Mlaencelyn, ty newydd llawn steil yn y Bontfaen ac adeilad Fictoraidd ym Mhenarth sydd wedi'i adnewyddu'n gartref teuluol hyfryd.
Yr awdur Ciaran Fitzgerald, s'yn datgelu'r frwydr i blant gael eu haddysgu yn eu mamiaith. Straeon ysbrydoledig am blant anabl a niwroamrywiol ac am frwydr eu rhieni i gael mynediad i addysg Gymraeg. Noder: Yn drist iawn, bu farw Tomos Llewellyn-Jones, un o'r plant yn y rhaglen, ar Fehefin 2ail, ac fe ddarlledir y ddogfen hon er cof amdano.
Y Drenewydd. Bydd criw Cynefin yn darganfod hanes y dref ger y ffin yn y bennod hon. Heledd Cynwal sy'n rhyfeddu at Blas Gregynog a'i gyfrinachau, Iestyn Jones yn trochi yn yr Afon Hafren, ag yn clywed am gynlluniau uchelgeisiol i ehangu'r dref, Llinos Owen yn adrodd hanes y diwydiant tecstiliau ddoe a heddiw a Siôn Tomos Owen yn dilyn yn ôl troed dau o gymeraidau lliwgar yr ardal, un yn ddyn busnes llwyddiannus, a'r llall ag arferion go anghyffredin medden nhw¿.