Yn y gyfres hon bydd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Scott Quinnell yn mynd ar daith ar hyd a lled Cymru, yn troi ei law at bob math o weithgareddau a phrofiadau amrywiol. Cyfle i ymarfer ei Gymraeg a dysgu geirfa newydd wrth iddo siarad hefo'r bobl leol ac ambell wyneb cyfarwydd. Ac wrth gwrs bydd personoliaeth heintus Scott yn siwr o sicrhau llond bol o hwyl yn y broses. Yr wythnos hon mae'n rhoi cynnig ar nofio awyr agored yng nghwmni Lisa Jên, yn helpu mewn parc anifeiliaid, ac yn rhoi
Rhaid i Darren gydymffurfio â thag cyrffyw rhwng 7pm a 7am a phrofion cyffuriau ar hap er mwyn osgoi cael ei anfon yn ôl i'r carchar. Mae gan Chloe hanes gwael o ddod i'w hapwyntiadau ac mae hi mewn perygl o gael ei gyrru'r llys eto. Nerys a Jo ydy'r Swyddogion Gwasanaeth Prawf sy'n gorfod rheoli ymddygiad y ddau yn y gymuned er mwyn ceisio'u hatal rhag troseddu eto, a chadw'r cyhoedd yn ddiogel.
Boed yn yr ardd neu ar blât, mae'r gogydd patisserie Richard Holt yn deall gwerth arddangosfa drawiadol. Mae o wedi dod a'r pobyddion i ardd Bodnant yn Nyffryn Conwy i osod y sialens felys nesa. Ar ol i'r pum pobydd gael amser i grwydro o amgylch yr ardd hynafol, byddant yn mynd ati i greu cacen yr un gyda blodau a natur yn thema. Ond mae 'na dasg dechnegol i'w chwblhau hefyd, cwblhau cacen flodau arbennig Richard.
Yn y gyfres yma bydd 3 person o'r un ardal yn camu i'w ceginau i baratoi pryd o fwyd tri chwrs i'w gilydd. Fe fydd pob un o'r tri yn gyfrifol am ddewis un cwrs yr un. Ond nid nhw fydd yn paratoi na choginio y ryseit ma nhw wedi ei ddewis. Fydd na flas ar y bwyd ac ar y sgwrs rownd y bwrdd tybed' Y tro hwn, byddwn yn Nhregaron.