Cyfres newydd yn dilyn.y Welsh Whisperer wrth iddo deithio pentrefi ledled y wlad yn cwrdd a chymeriadau ac hoelion wyth pentrefi cefn gwlad Cymru. Pentref Llanllwni sy'n cael sylw yr wythnos hon yng nghwmni dwy chwaer ifanc Sioned a Siriol Howells sy'n brysur yn godro adref ar y fferm. Yn ogystal â chael cyfle i brynu 'poni' yn y mart lleol - fe fydd y Welsh yn rhoi 'brwsh i'r twsh' gyda barbwr y pentref. Cawn ambell i gân wrth y Welsh hefyd!
Mae'r cerddorion Al Lewis a Mari Mathias ar bererindod i Wyl Interceltique Lorient, yn Llydaw. Mae'r wyl yn ddathliad unigryw o gerddoriaeth a diwylliant y gwledydd Celtaidd, gyda 5,000 o gerddorion, cantorion, dawnwsyr, ac artistiaid gweledol yn perfformio yno. Mi fydd na gerddoriaeth, sgyrsiau, a lliw yr wyl drwy lygaid Al Lewis a Mari Mathias.
Dathlwch hud y Nadolig gydag Aled Jones a'i ffrindiau, gyda pherfformiadau gan Aled ei hun, Al Lewis, Lily Beau, a Carly Paoli. Mae No Good Boyo yn dod â'u tro arferol ar rai o ffefrynnau'r ¿yl, mae Glain Rhys wrth y piano, ac mae Siwan Henderson a Steffan Rhys Hughes yn dod â chyffyrddiad o hud y West End i bethau. Hefyd yn cynnwys Y Cledrau, Brigyn, a Band Pres Tongwynlais, gyda diweddglo i'w gofio gan Aled a chôr arbennig iawn.