Mae'r daith yma'n un syth sydd yn dechrau ger Pafiliwn Bont (a). Gyda'r pafiliwn tu ôl i chi, trowch i'r dde a dilynwch Bridge Street trwy ran o Bontrhydfendigaid (b) tua'r de. Byddwch yn troi i'r chwith lawr Mill Street a heibio gwesty'r Llew Du. Dilynwch y lôn tan eich bod yn gweld camfa ar y dde. Dringwch dros y gamfa a dilynwch y llwybr cyhoeddus ar draws y caeau ac ar hyd yr Afon Teifi. Byddwch yn ofalus os oes yna anifeiliaid allan ar y caeau.
Parhewch i ddilyn y llwybr am ryw filltir, gan gadw'r afon Teifi ar eich ochor dde.
Ar ôl rhyw filltir, croeswch yr Afon Teifi, a chamwch dros y gamfa i ddod allan ar yr lôn.
Dilynwch yr lôn i'r dde gan basio'r eglwys ar y chwith, a welwch Abaty Ystrad Fflur (c).
Drws nesa i'r Abaty, mae'r fynwent lle gwelwch fedd y bardd Dafydd ap Gwilym o dan y goeden ywen (ch).
Ar ôl dod allan o'r fynwent, trowch i'r dde a pharhewch am ryw 500 medr, gwelwch gât yng nghanol y berth ar y dde. Ewch drwy'r gât a dilynwch y llwybr cyhoeddus i'r De Orllewin am 500 medr. Ar ôl cerdded trwy ychydig o goed, byddwch yn cyrraedd yr hewl. Trowch i'r dde a dilynwch yr hewl nôl at Abaty Ystrad Fflur.
Wedi cerdded heibio'r Abaty, dilynwch yr hewl i'r chwith. Dilynwch yr hewl am 800 medr, a byddwch yn cyrraedd diwedd y daith, Coed Dolgoed ar y chwith.
Er mwyn cyrraedd nôl i Bafiliwn Bont, dechrau'r daith, mae'n 15 munud o gerdded. Trowch i'r chwith allan o'r goedwig, ac yna i'r dde ar ôl cyrraedd y groesffordd yn y pentre'. Parhewch i gerdded ar y brif hewl ac fe welwch Bafiliwn Bont ar y chwith.
A) Pafiliwn Bont
Cafodd Pafiliwn Bont ei adeliadu yn y 1960au gan Sir David James a fagwyd yn ffarm Pantyfedwen yn y pentre. Dyna paham mae Eisteddfod Flynyddol y pentref a gynhaliwyd yn y Pafiliwn yn cael ei henwi'n Eisteddfod Pantyfedwen.
B) PontrhydfendigaidGaned a magwyd Caradog Jones ym Mhontrhydfendigaid, y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Mynydd Everest ym 1995.
C) Abaty Ystrad Fflur
Cyfeirnod Grid: SN 746 657
Sefydlwyd Abaty Ystrad Fflur gan fynachod Sistersaidd yn 1201.
Ch) Bedd Dafydd ap Gwilym
Cyfeirnod Grid: SN 746 658
Mae Dafydd ap Gwilym yn cael ei gydnabod fel un i feirdd mwyaf Ewrop ac roedd yn canu yn ystod cyfnod Beirdd yr Uchelwyr yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae nifer o'i gerddi'n ymserchi am ferched yn enwedig Morfudd a Dyddgu ond efallai mai Trafferth Mewn Tafarn yw ei gerdd enwocaf.