'Y Dyddiad Cau' – y dyddiad a'r amser terfynol ar gyfer cyflwyno pob cais.
'Y Rhaglen' – Can i Gymru 2025, darllediad byw ar 28fed Chwefror 2025, lle bydd dewis y rheithgor o restr fer o ganeuon yn cael ei roi i bleidlais gyhoeddus.
'Afanti' – Afanti Media Ltd, y cwmni a gomisiynwyd gan S4C i gynhyrchu Can i Gymru 2025
'Y Gystadleuaeth' – Cân i Gymru 2025
1. Dyddiad ac amser cau'r gystadleuaeth yw 5ed Ionawr 2025 am 23:59 ('y Dyddiad Cau').
2. Rhaid i bob ymgeisydd fod dros 16 oed ar y Dyddiad Cau.
3. Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno cân ar ffurf MP3 neu CD, ynghyd â chopi ysgrifenedig o'r geiriau a ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn ar neu cyn y Dyddiad Cau.
Mae'n hanfodol bod y tair elfen yma yn cael eu cyflwyno gyda'u gilydd.
Mae'r ffurflen gais i'w ganfod ar-lein - www.s4c.cymru/canigymru
Gellir cyflwyno'r CD/MP3 a'r geiriau â llaw, drwy'r post neu'n electronig ar e-bost.
Nid yw S4C nac Afanti yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddeunydd a gollir yn y post neu sy'n methu â chyrraedd Afanti am unrhyw reswm ar, neu cyn, y Dyddiad Cau.
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yn unig yw sicrhau bod y cais yn cyrraedd Afanti ar, neu cyn, y Dyddiad Cau.
Y cyfeiriad post ar gyfer unrhyw ffeiliau sain neu gryno ddisgiau, sy'n gorfod cael eu danfon ynghyd a chopi caled o'r geiriau a'r ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn, yw:
Cân i Gymru 2025,
Afanti Media,
Uned 2 a 3,
Ffordd Dowlais,
Caerdydd
CF24 5TW.
Y cyfeiriad e-bost ar gyfer ffeiliau MP3, sy'n gorfod cael eu danfon ynghyd a chopi electronig o'r geiriau a ffurflen gais wedi'i chwblhau'n llawn, yw:
4. Rhaid i'r gân fod yn yr iaith Gymraeg.
5. Rhaid i'r geiriau a'r gerddoriaeth fod yn wreiddiol.
6. Ni ddylai'r gân fod wedi'i pherfformio na'i chwarae ar unrhyw ddarllediad radio na theledu, na'i ffrydio na'i bostio mewn unrhyw ffurf ar y we, na bod ar gael i'w lawrlwytho neu wedi ei rhyddhau yn fasnachol neu ar gryno ddisg cyn y Dyddiad Cau.
7. Gellir defnyddio unrhyw arddull gerddorol, a gall pob cyfansoddwr gyflwyno unrhyw nifer o ganeuon.
8. Bydd gan gwmni cynhyrchu 'Afanti' yr hawl i ymestyn neu leihau hyd y gân yn unol â gofynion darlledu'r gystadleuaeth.
9. Rhaid i'r caneuon fod yn wreiddiol i'r cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) y geiriau, ac ni fyddant wedi'u cyhoeddi na'u cofrestru o'r blaen gydag unrhyw gymdeithas casglu hawliau cerddoriaeth gan gynnwys PRS, EOS neu MCPS.
Bydd unrhyw achos o dorri'r amod hwn yn anghymwyso'r gân o'r gystadleuaeth.
Mae pob cyfansoddwr ac awdur geiriau yn cytuno i beidio â chofrestru'r gân gyda'r MCPS hyd nes y bydd y gân naill ai wedi'i dileu o'r gystadleuaeth neu, os yw'r gân yn symud ymlaen i'r rownd derfynol, tan ar ôl yr amser y bydd y Rhaglen wedi'i darlledu.
Bydd yn ofynnol i gyfansoddwr(wyr) a awdur(on) geiriau'r caneuon ar y rhestr fer lofnodi Cytundeb Safonol fel yr amlinellir yn Rheol 18 isod.
10. Bydd panel o feirniaid a benodir gan Afanti yn ystyried yr holl gynigion a dderbynnir erbyn y Dyddiad Cau ac yn dewis rhestr fer o ganeuon fydd yn ymddangos yn y Rhaglen.
11. Mae S4C ac Afanti yn cadw'r hawl i wahodd unigolion yn uniongyrchol i gystadlu cyn y Dyddiad Cau.
12. Bydd Afanti yn cysylltu â chyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geriau'r caneuon ar restr fer y Rhaglen gyda'u penderfyniad dros y ffôn. Bydd Afanti yn hysbysu'r cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau'r caneuon aflwyddiannus (trwy'r post / e-bost) ar ôl cyhoeddi'r rhestr fer.
13. Bydd cynrychiolydd o S4C a chynrychiolydd o Afanti, ynghyd â'r cyfansoddwr(wyr) a'r awdur(on) y geiriau llwyddiannus yn penderfynu pa artist(iaid) fydd yn recordio'r gân yn y stiwdio ac yn ymddangos ar y Rhaglen.
Mae Afanti yn cadw'r hawl i wneud y penderfyniad terfynol.
14. Bydd Afanti yn penodi Cyfarwyddwyr Cerdd a fydd yn cynhyrchu ac yn cydlynu'r recordiad a'r perfformiad byw o'r gân.
15. Bydd y caneuon ar y rhestr fer yn cael eu perfformio'n fyw yn ystod y Rhaglen, a ddarlledir yn fyw ac ar alw ar deledu S4C, radio BBC ac ar lwyfannau rhyngrwyd cysylltiedig.
16. Bydd y caneuon a ddewisir ar gyfer y Rhaglen yn cael eu darlledu ar draws holl wasanaethau S4C a rhaid i'r cyfansoddwr(wyr) a'r awdur(on) geiriau sicrhau nad oes rhwystr i ddefnydd o'r fath.
Yn ogystal, gall S4C (ond nid yw'n ymrwymo i) ymgorffori'r caneuon a ddewiswyd mewn recordiad sain a/neu recordiad clyweledol o'r Gystadleuaeth a defnyddio'r cais buddugol ac efallai rhai o'r caneuon eraill mewn rhaglenni eraill ar S4C, ac mae'n rhaid i'r cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau sicrhau nad oes unrhyw rwystr i hyn a bod yr holl hawliau a chliriadau perthnasol wedi'u sicrhau.
17. Mae'n amod na fydd y caneuon a ddewiswyd ar y rhestr fer, ar ôl cyflwyno'r ceisiadau ond cyn darlledu'r Rhaglen, fod wedi'u perfformio'n gyhoeddus na'u chwarae ar unrhyw ddarllediad radio neu deledu, na'u ffrydio na'u postio mewn unrhyw ffurf ar y we, na chwaith wedi bod ar gael i'w lawrlwytho, neu wedi'u rhyddhau yn fasnachol neu ar gryno ddisg heb ganiatâd ysgrifenedig gan Afanti ymlaen llaw.
(Nid yw'r cyfyngiad hwn yn berthnasol i ganeuon nad ydynt wedi eu dewis i'r rhestr fer).
18.
(a) Mae'n rhag-amod sylfaenol ar gyfer cymryd rhan yn y Gystadleuaeth bod cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau pob cân ar y rhestr fer yn arwyddo Cytundeb Safonol y Gystadleuaeth
(gellir cael copi o'r Cytundeb Safonol oddi wrth Afanti).
(b) Bydd y Cytundeb Safonol yn rhoi'r hawl i Afanti recordio a chopïo'r gân gan ymgorffori'r gerddoriaeth a'r geiriau yn gydamserol â'r Rhaglen (ac unrhyw raglen gysylltiedig) neu ddetholiad ohoni, ac i ymelwa ar y Rhaglen drwy bob modd ac ym mhob cyfrwng am byth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngiedig i ddarlledu ar S4C, a sicrhau bod y Rhaglen ar gael trwy wasanaethau dal i fyny S4C ledled y byd, yn ogystal â'r hawl i ddarlledu'r gân ar Radio Cymru heb unrhyw daliad pellach i'r cyfansoddwr(wyr) neu'r awdur(on) geiriau.
Yn amodol ar y caniatâd hwn, bydd hawlfraint yn y gân ac i'r gân yn parhau i fod yn eiddo i'r cyfansoddwr(wyr) a'r awdur(on) geiriau, a fydd ganddynt yr hawl i berfformio neu ymelwa ar hon fel arall trwy unrhyw fodd ar unrhyw adeg yn dilyn y darllediad cyntaf y Rhaglen ar S4C, a chofrestru'r gân gyda'r cyfryw gymdeithasau casglu cerddoriaeth y gall y cyfansoddwr(wyr) a'r awdur(on) geiriau eu dewis.
(c) Bydd Afanti yn cysylltu â chyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau'r caneuon a ddewiswyd ar gyfer y rhestr fer ar neu cyn 24 Ionawr 2025 ac yn danfon copïau o'r Contract Safonol atynt ar yr un pryd. Rhag-amod ar gyfer cystadlu a chymryd rhan yn Cân i Gymru 2025 yw bod cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau pob un o'r caneuon ar y rhestr fer a ddewiswyd i'w perfformio ar Cân i Gymru 2025 yn llofnodi'r Cytundeb Safonol a'i ddychwelyd i Afanti ar neu cyn 7fed Chwefror 2025.
(ch) Os bydd cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau unrhyw gân a ddewiswyd ar gyfer y rhestr fer i'w pherfformio ar Cân i Gymru 2025 yn methu neu'n gwrthod llofnodi'r Cytundeb Safonol a'i ddychwelyd i Afanti erbyn 7fed Chwefror, 2025, bydd gan Afanti ac S4C yr hawl i ddileu eu cân neu ganeuon o'r Gystadleuaeth, ac mae S4C ac Afanti yn cadw'r hawl i ddewis cân neu ganeuon eraill a gyflwynwyd i'r Gystadleuaeth yn lle'r gân/caneuon sydd wedi'u dileu yn unol â'r Rheolau yma, ac i wahodd cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau'r gân neu'r caneuon amnewid i gystadlu yn y Rhaglen yn eu lle, ar yr amod bod cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau unrhyw gân sy'n disodli'r gân/caneuon a ddilëwyd yn llofnodi'r Cytundeb Safonol cyn darleddiad Y Rhaglen.
19. Un o amodau'r cytundeb hwn yw bod cyfansoddwr(wyr) ac awdur(on) geiriau y caneuon a ddewisir i'w perfformio ar Cân i Gymru 2025 yn cytuno i fod yn bresennol ac i gymryd rhan yng ngynhyrchiad y Rhaglen, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i darparu cyfweliadau yn ystod recordio'r caneuon yn y stiwdio, a bod ar gael i ffilmio proffil byr cyn Cân i Gymru 2025. Sylwer y bydd ymarfer Cân i Gymru 2025 ar y diwrnod blaenorol.
20. Yn dilyn perfformio pob un o'r caneuon ar y rhestr fer yn ystod y darllediad byw, gwahoddir y cyhoedd i bleidleisio dros y gan fuddugol - 'Can i Gymru 2025'. Bydd cyflwynwyr y rhaglen yn hysbysu'r gynulleidfa pryd y gellir bwrw'r pleidleisiau.
21. Bydd yr enillydd yn cael ei ddewis yn ystod y Rhaglen ar sail nifer y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob cân.
22. Bydd cyfansoddwr(wyr) a c awdur(on) geiriau y gân fuddugol 'Can i Gymru 2025' yn derbyn cyfanswm o £5000.00 (pum mil o bunnoedd) fel gwobr ariannol.
23. Bydd y cyfansoddwr(wyr) a'r awdur(on) geiriau sy'n dod yn ail ac yn drydydd drwy'r nifer o bleidleisiau a fwriwyd yn derbyn gwobrau ariannol fel a ganlyn:
2il - £3000.00
3ydd - £2000.00
24. Lle mae mwy nag un person wedi cyfansoddi ac ysgrifennu'r gân fuddugol, bydd y wobr ariannol briodol yn cael ei rhannu ar y cyd rhwng cyfansoddwyr/awduron y gân.
25.Ni fydd rheidrwydd ar S4C i gynnig unrhyw wobrau eraill yn lle'r gwobrau a nodir yn rheolau 21 a 22 ac ni chaniateir cyfnewid na throsglwyddo'r gwobrau.
26. Cyhoeddir y canlyniad yn llawn yn ystod y Rhaglen, heblaw oherwydd amgylchiadau annisgwyl y tu hwnt i reolaeth Afanti neu S4C.
27. Os bydd unrhyw anghydfod yn ymwneud â'r bleidlais, y canlyniad, neu unrhyw agwedd arall o'r Gystadleuaeth, bydd penderfyniad S4C yn derfynol ac yn rhwymol ar bob ymgeisydd.
28. Bydd cân fuddugol 'Can i Gymru 2025' yn cynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Gerdd Ban Geltaidd os cynhelir yr ŵyl yn 2025.
Cyfrifoldeb y cyfansoddwr(wyr) a'r awdur(on) geiriau buddugol yw sicrhau bod y cais buddugol yn cael ei berfformio'n broffesiynol yn yr ŵyl.
Bydd Afanti yn cysylltu â'r cyfansoddwr(wyr) a'r awdur(on) geiriau buddugol i benderfynu ar berfformiwr(wyr) y gân yn yr Ŵly a bydd Afanti yn trafod ac yn gyfrifol am trefniadau teithio a llety ar gyfer y cyfansoddwr(wyr), awdur(on) geiriau a pherfformiwr(wyr) hynny.
Mae'r swm y gall Afanti ei gyfrannu at gostau o'r fath yn amodol ar uchafswm o £2,000, ond gall fod yn llai na'r cyfanswm hwn yn dibynnu ar nifer y cyfansoddwr(wyr), awdur(on) geiriau a/neu berfformiwr(wyr) y gân, a lleoliad yr Ŵyl.
29. Mae'r Gystadleuaeth yn agored i unrhyw un ac eithrio aelodau o staff S4C, Afanti a'u teuluoedd agos, a/neu unrhyw berson neu gwmni arall sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r Gystadleuaeth, y Rhaglen neu Cân i Gymru 2025.
30. Ni fydd S4C yn atebol os na fydd Cân i Gymru 2025 neu'r Rhaglen yn digwydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol am resymau y tu hwnt i reolaeth S4C, neu os oes problemau technegol neu unrhyw amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth S4C sy'n amharu ar y Gystadleuaeth, y pleidleisio neu'r Rhaglen mewn unrhyw ffordd.
31. Mae Afanti ac S4C yn gwrthod unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siom a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd sy'n deillio o gymryd rhan yn y Gystadleuaeth, y Rhaglen, neu sy'n digwydd i'r enillydd yn sgil derbyn y wobr.
32. Dim ond at ddibenion gweinyddu'r gystadleuaeth y bydd Afanti a / neu S4C yn defnyddio data personol ymgeiswyr ac ni fyddant yn defnyddio data o'r fath at unrhyw ddiben arall.
Bydd Afanti yn gofyn am ganiatâd i gadw manylion cyswllt pob cystadleuydd at ddibenion eu gwahodd i gystadlu yn y gystadleuaeth yn y dyfodol.
Os na roddir y caniatâd hwn bydd Afanti yn dinistrio'r holl ddata personol yn ei feddiant a dderbyniwyd fel rhan o geisiadau'r Gystadleuaeth unwaith y bydd y Gystadleuaeth drosodd.
Bydd data personol yn cael ei brosesu yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 ac ni chaiff ei rannu ag unrhyw drydydd parti heb ganiatâd ymlaen llaw.
Mae manylion pellach ar sut mae S4C yn prosesi eich data ar gael ar https://www.s4c.cymru/cy/y-wefan-hon/page/16717/polisi-preifatrwydd
33. Dylid cyfeirio unrhyw gwynion neu ymholiadau mewn perthynas â'r Gystadleuaeth at Afanti Media, Uned 2 a 3, Heol Dowlais, Caerdydd, CF24 5TW.
34. Mae'r Gystadleuaeth hon yn cael ei rheoli gan gyfreithiau Cymru a Lloegr.
35. Trefnir a hyrwyddir y Gystadleuaeth hon gan Afant Media Limited yn Uned 2 a 3, Heol Dowlais, Caerdydd, CF24 5TW.
36. Mae S4C ac Afanti yn cadw'r hawl i ddiwygio'r telerau ac amodau yma o bryd i'w gilydd.