S4C
Dewisiadau

Cynnwys


Telerau ac amodau Cystadleuaeth Ffotograffiaeth yr Haf 2024.

1. Mae'r rheolau hyn yn berthnasol i gystadleuaeth a gyhoeddwyd yn rhan o raglenni 'Heno' a 'Prynhawn Da.'

2. Mae yna 2 gystadleuaeth:

i. Cystadleuaeth ffotograffiaeth sy'n agored ar gyfer plant a phobl ifanc o dan 16 oed.

ii. Cystadleuaeth ffotograffiaeth sy'n agored ar gyfer oedolion dros 16 oed.

Mae'r cystadleuaethau yn agored i holl breswylwyr y Deyrnas Unedig, ac eithrio unigolion sy'n gyflogedig gan Tinopolis, neu S4C, eu teulu agosaf a chwmnïau eraill y mae ganddynt gyswllt uniongyrchol gyda'r gystadleuaeth hon.

3. Cynigir gwobrau o I-Pad i'r unigolion sy'n ennill y 2 gystadleuaeth fel yr amlinellir yn yr ail gymal o'r Telerau ac Amodau.

4. I gystadlu yn y 2 gystadleuaeth, bydd rhaid danfon llun gydag enw gan nodi categori oed at lluniau@tinopolis.com

5. Bydd y 2 gystadleuaeth yn agor ar y 5ed o Awst 2024 ac yn cloi am hanner dydd ar y 31ain o Awst 2024.

6. Ni fydd unrhyw geisiadau a wneir ar ôl y dyddiad a'r amser cau yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth.

7. Ni fydd angen prynu unrhyw beth i gystadlu.

8. Gallwch gystadlu mor aml ag y dymunwch ond dim ond un wobr sydd i ennill yn gysylltiedig â phob gystadleuaeth.

9. Bydd beirniad swyddogol y gystadleuaeth y ffotograffydd proffesiynol Betsan Haf Evans yn derbyn copi electroneg o bob llun yn y gystadleuaeth, ac yn dewis y 2 enillydd i'r cystadleuaethau – fel yr amlinellir yn yr ail gymal o'r telerau ac amodau. Bydd penderfyniad Betsan Haf Evans a Tinopolis ynghylch yr enillwyr yn derfynol ac ni atebir unrhyw ohebiaeth.

10. Bydd yr enillwyr yn cael eu datgan ar raglen Heno gan y beirniad Betsan Haf Evans, a bydd hyn yn digwydd o fewn 10 diwrnod i'r dyddiad cau. Bydd aelod o staff Tinopolis yn cysylltu yn uniongyrchol gyda'r enillwyr a byddant yn trefnu iddynt dderbyn eu gwobrwyon.

11. Trwy gystadlu yn y gystadleuaeth, mae ymgeiswyr:

i. yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth y maent yn ei darparu yn gywir a'u bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y gystadleuaeth;

ii. yn cytuno ymrwymo i'r amodau a thelerau hyn;

iii. yn cytuno, os byddant yn ennill y gystadleuaeth, y gall S4C ddefnyddio'u henw a'u llun at ddibenion hyrwyddo.

12. Mae Tinopolis ac S4C yn cadw'r hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran unrhyw enillydd ac i anghymwyso unrhyw ymgeisydd os bydd ganddi sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r rheolau hyn.

13. Rhaid cyflwyno pob cais trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir mewn deunydd hyrwyddo a negeseuon ynghylch y gystadleuaeth. Ni dderbynnir unrhyw geisiadau a gyflwynir trwy gyfrwng unrhyw ddull arall.

14. Bydd pob ymgeisydd yn gyfrifol am bob treth, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario a chostau a threuliau eraill (gan gynnwys prydau neu dreuliau personol) oni bai y nodir fel arall yn benodol.

15. Ni ellir cyfenwid neu drosglwyddo'r wobr.

16. Ni fydd Tinopolis nac S4C yn gyfrifol am unrhyw gamgymeriad, diffyg, amhariad, dileu, nam neu oedi mewn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddir gan ymgeiswyr, neu ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn cyrraedd cyn y dyddiad a'r amser cau. Ni ellir derbyn bod prawf galwad ffôn yn cyfateb a phrawf ei bod wedi cyrraedd.

17. Caiff y wobr ei ddanfon drwy'r post i'r enillydd trwy gyfrwng y manylion cyswllt a ddarparwyd wedi i'r enillydd gael ei hysbysu. Bydd prawf postio/ddanfon gan Tinopolis yn cyfateb a phrawf eu bod wedi cyrraedd.

18. Mae Tinopolis a/neu S4C yn cadw'r hawl i ddiwygio'r rheolau hyn neu i ganslo, addasu neu ddiwygio'r gystadleuaeth ar unrhyw adeg o ganlyniad i ddigwyddiadau y tu hwnt i'w rheolaeth.

19. Mae Tinopolis ac S4C yn gwahardd unrhyw atebolrwydd i'r graddau llawn a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siomedigaeth a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd, sy'n codi o'r ffaith ei fod ef, neu ei bod hi, wedi cystadlu yn y gystadleuaeth hon, neu sy'n digwydd i'r enillydd o ganlyniad i'r ffaith eu bod wedi derbyn y wobr.

20. Ni fydd Tinopolis ac S4C yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol i unrhyw trydydd parti arall nac yn defnyddio manylion personol ymgeiswyr at unrhyw bwrpas ar wahân i weinyddu'r gystadleuaeth hon. Caiff eich data personol ei brosesu a'i storio yn unol â darpariaethau Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR.

21. Rydym yn cadw'r hawl i amnewid gwobrau o werth cyfartal neu fwy ar unrhyw adeg.

22. Mae'r gystadleuaeth hon yn rhwym i gyfreithiau Cymru a Lloegr.

23. Trefnir y gystadleuaeth hon gan, a'r hyrwyddwr yw Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3YE a dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth hon at Wifren Gwylwyr S4C, 0870 600 4141 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02).


Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?