Y cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Josh Navidi sydd yn mynd a'r Iaith Ar Daith y tro hwn. Yn cadw cwmni a threfn arno ar hyd y daith mae ei ffrind Ken Owens - ac mae sawl her yn aros am Josh wrth iddynt deithio o Ynys Môn i Gaerdydd!
Os dych chi'n cymryd eich camau cyntaf i ddysgu Cymraeg, eisiau gwella eich sgiliau yn yr iaith, neu'n chwilfrydig, 'dyn ni wrth ein boddau eich bod chi wedi ymuno â ni ar yr unig sianel deledu Gymraeg yn y byd.