Talent anhygoel Osian James Daley-Tyson mewn perfformiad ar y gitâr o 'Babe I'm Gonna Leave You'
Blas o Dde Sbaen ar lwyfan Noson Lawen ym mhortread Sioned Gwen Davies o'r sipsi Carmen ac Aria Habanera
Blas y pridd wrth i Steffan Lloyd Owen ein tywys at "grefft gyntaf dynolryw" yn yr unawd 'Cân yr Arad Goch'.
Fleur de Lys yn perfformio 'Paent' ar Noson Lawen.
Iwan Llewelyn-Jones yn perfformio'i drefniant i'r piano o 'Ora Pro Nobis' (Meirion Williams) ar lwyfan Noson Lawen yn Pontio.
Parti Llewyrch o dan arweiniad Ilid Ann Jones yn perfformio 'Gardd o Gariad', cân gan Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain a gomisiynwyd er budd elusen y deillion a thaith elusennol Esmor Davies.
Emyr Huws Jones, 'Ems' – y canwr gyfansoddwr - yn perfformio un o'i ganeuon diweddaraf yn dwyn y teitl 'Perthyn'.
Carly Owen a pherfformiad o 'Cymru Fach' – geiriau gwladgarol Elfed a cherddoriaeth David Richards.
Emyr Huws Jones – 'Ems', gyda chymorth Tudur Huws Jones a Tudur Morgan, yn perfformio 'Yr Hogyn yn y Llun' ar Noson Lawen gyda chynulleidfa o'i gefnogwyr yn Pontio.
Hogia Llanbobman gyda Steffan Lloyd Owen yn canu'r rhannau unawdol yn cloi Noson Lawen o Pontio gyda 'Anthem Geltaidd' o dan arweiniad Catrin Angharad Jones.
Disgyblion ieuengaf Ysgol O M Edwards yn cyffwrdd pob calon gyda'u perfformiad bywiog a direidus o 'Wil Cwac Cwac'.
Steffan Prys Roberts o Lanuwchllyn yn canu 'Dal y Freuddwyd' mewn Noson Lawen a recordiwyd yn Y Bala.
Ymuna Lleisiau Menlli gyda Steffan Prys Roberts a Sioned Gwen Davies i ganu am bwysigrwydd estyn llaw i'n cyd-ddyn yn y gân 'Rho dy Law'.
Lleisiau Menlli o Ddyffryn Clwyd yn canu am hyder yr ifanc yn y dyfodol yn y gân 'Gobaith Yn Y Tir'.
Perfformiad teimladwy o 'Ffarwel i Blwy Llangywer' gan Gwyneth Glyn a Twm Morys.
Gwyneth Glyn yn perfformio'i chân 'Dail Tafol' ar Noson Lawen.
Tân a chyffro yn mherfformiad TRIO o 'Cân y Celt'
Cân serch dyner - 'Mae Dy Serch yn Fwy na'r Cyfan' gan TRIO.
Sian Gibson yn perfformio 'Ave Maria' gan Caccini ar Noson Lawen.
Harmoni lleisiol gydag aelodau o'r teulu Gibson sy'n hannu o Ddeiniolen â'u perfformiad o 'Fel Un'.
Hwyl a thynnu coes ym mherfformiad Sian Gibson a John Eifion Jones o'r ddeuawd 'Hywel a Blodwen'.
Catrin Alaw yn perfformio 'Adre' mewn Noson Lawen gyda'r teulu Gibson sy'n hannu o Ddeiniolen.
Annette Bryn Parri yn perfformio 'Tico Tico No Fuba' mewn Noson Lawen wedi ei recordio yn Pontio.
Ymuna'r holl artistiaid yn 'Calon Lân' i gloi Noson Lawen gyda'r teulu Gibson o Ddeiniolen a'u cyfeillion.
Lleisiau cyfoethog Y Tri Bariton â'u perfformiad o 'Stesion Strata', cân atgofus gan Tecwyn Ifan.
Medli o ganeuon Huw Chiswell gan Gôr Y Wiber ar Noson Lawen.
Ymuna Côr Y Wiber â Steffan Rhys Williams mewn perfformiad o 'Torri'n Rhydd'.
Non Parry â chyflwyniad o gân gan Caryl Parry Jones, 'Y Pethe Bach Wyt Ti'n Neud'.
Meic Stevens a pherfformiad sensitif o'i gân 'Môr o Gariad'.
Ymuna Non Parry a Steffan Rhys Williams i ganu deuawd ar Noson Lawen - 'Oes Lle I Mi'.